LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Datguddiad 11
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Datguddiad

      • Y ddau dyst (1-13)

        • Proffwydo am 1,260 diwrnod mewn sachliain (3)

        • Wedi eu lladd a heb eu claddu (7-10)

        • Dod yn ôl yn fyw ar ôl tri diwrnod a hanner (11, 12)

      • Ail wae wedi pasio, y trydydd yn dod (14)

      • Y seithfed trwmped (15-19)

        • Teyrnas ein Harglwydd a’i Grist (15)

        • Y rhai sy’n dinistrio’r ddaear yn cael eu dinistrio (18)

Datguddiad 11:1

Troednodiadau

  • *

    Neu “ffon fesur.”

Datguddiad 11:3

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Gweithlyfr Bywyd a Gweinidogaeth,

    12/2019, t. 3

Datguddiad 11:6

Troednodiadau

  • *

    Neu “nef.”

Datguddiad 11:7

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    5/2020, t. 6

    Gweithlyfr Bywyd a Gweinidogaeth,

    12/2019, t. 3

Datguddiad 11:9

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Gweithlyfr Bywyd a Gweinidogaeth,

    12/2019, t. 3

Datguddiad 11:11

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Gweithlyfr Bywyd a Gweinidogaeth,

    12/2019, t. 3

Datguddiad 11:12

Troednodiadau

  • *

    Neu “roedd eu gelynion yn edrych.”

Datguddiad 11:18

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 141

    Pynciau Eraill, erthygl 55

    Y Tŵr Gwylio,

    1/5/2011,

    Gwybodaeth, t. 105

Datguddiad 11:19

Troednodiadau

  • *

    Neu “a chesair.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Datguddiad 11:1-19

Datguddiad i Ioan

11 Ac fe gafodd corsen fel ffon* ei rhoi imi wrth iddo ddweud: “Cod a mesura gysegr teml Duw a’r allor a’r rhai sy’n addoli ynddi. 2 Ond ynglŷn â’r cwrt sydd y tu allan i gysegr y deml, paid â’i gynnwys a phaid â’i fesur, oherwydd mae wedi cael ei roi i’r cenhedloedd, a byddan nhw’n sathru’r ddinas sanctaidd dan draed am 42 o fisoedd. 3 Bydda i’n achosi i fy nau dyst broffwydo am 1,260 o ddyddiau wedi eu gwisgo mewn sachliain.” 4 Mae’r rhain yn cael eu symboleiddio gan y ddwy olewydden a’r ddau ganhwyllbren ac maen nhw’n sefyll o flaen Arglwydd y ddaear.

5 Os oes rhywun eisiau eu niweidio nhw, mae tân yn dod allan o’u cegau ac yn dinistrio eu gelynion. Os oes rhywun eisiau eu niweidio nhw, dyma sut y dylai hwnnw gael ei ladd. 6 Mae gan y rhain yr awdurdod i gau’r awyr* fel na fydd unrhyw law yn disgyn yn ystod dyddiau eu proffwydo, ac mae ganddyn nhw awdurdod dros y dyfroedd i’w troi nhw’n waed ac i daro’r ddaear â phob math o bla mor aml ag y maen nhw eisiau.

7 Pan fyddan nhw wedi gorffen eu tystiolaethu, bydd y bwystfil gwyllt sy’n codi o’r dyfnder yn rhyfela yn eu herbyn nhw ac yn eu concro nhw ac yn eu lladd nhw. 8 A bydd eu cyrff ar brif stryd y ddinas fawr sydd, mewn ystyr ysbrydol, yn cael ei galw’n Sodom a’r Aifft, lle cafodd eu Harglwydd hefyd ei ddienyddio ar y stanc. 9 A bydd rhai o’r bobloedd a’r llwythau a’r ieithoedd a’r cenhedloedd yn edrych ar eu cyrff am dri diwrnod a hanner, a fyddan nhw ddim yn caniatáu i’w cyrff gael eu gosod mewn beddrod. 10 Ac mae’r rhai sy’n byw ar y ddaear yn llawenhau drostyn nhw ac yn dathlu, a byddan nhw’n anfon anrhegion at ei gilydd, oherwydd bod y ddau broffwyd hyn wedi poenydio’r rhai sy’n byw ar y ddaear.

11 Ar ôl y tri diwrnod a hanner, aeth ysbryd bywyd oddi wrth Dduw i mewn iddyn nhw, a dyma nhw’n sefyll ar eu traed, a daeth ofn mawr ar y rhai a welson nhw. 12 A chlywson nhw lais uchel o’r nef yn dweud wrthyn nhw: “Dewch i fyny yma.” Ac fe aethon nhw i fyny i mewn i’r nef yn y cwmwl, ac fe wnaeth eu gelynion eu gweld nhw.* 13 Yn yr awr honno, roedd ’na ddaeargryn mawr, a syrthiodd y ddegfed ran o’r ddinas; a chafodd 7,000 o bobl eu lladd gan y daeargryn, a daeth ofn ar y gweddill a dyma nhw’n rhoi clod i Dduw y nefoedd.

14 Mae’r ail wae wedi mynd heibio. Edrychwch! Mae’r trydydd gwae yn dod yn gyflym.

15 Canodd y seithfed angel ei drwmped. Ac roedd ’na leisiau uchel yn y nef yn dweud: “Mae teyrnas y byd wedi troi’n Deyrnas ein Harglwydd a’i Grist, a bydd ef yn rheoli’n frenin am byth bythoedd.”

16 A dyma’r 24 henuriad a oedd yn eistedd o flaen Duw ar eu gorseddau yn syrthio ar eu hwynebau ac yn addoli Duw, 17 gan ddweud: “Rydyn ni’n diolch i ti, Jehofa Dduw, yr Hollalluog, yr un sy’n bodoli nawr ac a oedd yn bodoli gynt, oherwydd dy fod ti wedi cymryd dy rym mawr a dechrau rheoli’n frenin. 18 Ond trodd y cenhedloedd yn ddig, a daeth dy ddicter dy hun, a daeth yr amser penodedig i farnu’r meirw ac i wobrwyo dy gaethweision y proffwydi a’r rhai sanctaidd a’r rhai sy’n ofni dy enw, y rhai bach a’r rhai mawr, ac i ddinistrio’r rhai sy’n dinistrio’r ddaear.”

19 A chafodd cysegr teml Duw yn y nef ei agor, a chafodd arch ei gyfamod ei gweld yng nghysegr ei deml. Ac roedd ’na fflachiadau o fellt a lleisiau a tharanau a daeargryn a chenllysg* mawr.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu