LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Samuel 11
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Samuel

      • Dafydd yn godinebu â Bath-seba (1-13)

      • Dafydd yn trefnu i Ureia gael ei ladd (14-25)

      • Dafydd yn priodi Bath-seba (26, 27)

2 Samuel 11:1

Troednodiadau

  • *

    Hynny yw, yn y gwanwyn.

  • *

    Neu “gwnaethon nhw warchae ar.”

2 Samuel 11:2

Troednodiadau

  • *

    Neu “Yn hwyr un prynhawn.”

  • *

    Neu “palas.”

  • *

    Neu “gwelodd fenyw.”

  • *

    Neu “y fenyw.”

2 Samuel 11:3

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

2 Samuel 11:4

Troednodiadau

  • *

    Efallai aflendid ar ôl ei misglwyf.

2 Samuel 11:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

2 Samuel 11:8

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “i olchi dy draed.”

  • *

    Efallai yn cyfeirio at fwyd roedd rhywun yn ei anfon at ei westeion anrhydeddus.

2 Samuel 11:11

Troednodiadau

  • *

    Neu “fod dy enaid di’n fyw.”

2 Samuel 11:21

Troednodiadau

  • *

    Neu “menyw.”

2 Samuel 11:27

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “Ond roedd yr hyn a wnaeth Dafydd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Samuel 11:1-27

Ail Samuel

11 Ar ddechrau’r flwyddyn,* ar yr adeg pan oedd brenhinoedd yn arfer mynd allan i ryfela, anfonodd Dafydd Joab a’i weision a byddin gyfan Israel i ddinistrio’r Ammoniaid, a gwnaethon nhw amgylchynu* Rabba tra oedd Dafydd yn aros yn Jerwsalem.

2 Un noswaith,* cododd Dafydd o’i wely a cherdded o gwmpas to tŷ* y brenin. O fan ’na, gwelodd ddynes* yn ymolchi, ac roedd y ddynes* yn brydferth iawn. 3 Anfonodd Dafydd rywun i holi am y ddynes* a chafodd yr ateb: “Onid hon ydy Bath-seba ferch Eliam a gwraig Ureia yr Hethiad?” 4 Yna anfonodd Dafydd negesydd i’w nôl hi. Felly aeth hi i mewn ato, a gwnaeth ef gysgu gyda hi. (Digwyddodd hyn tra oedd hi’n ei phuro ei hun o’i haflendid.*) Wedyn, aeth hi yn ôl i’w thŷ.

5 Daeth y ddynes* yn feichiog, ac anfonodd hi neges at Dafydd yn dweud: “Rydw i’n feichiog.” 6 Gyda hynny, anfonodd Dafydd neges at Joab yn dweud: “Anfona Ureia yr Hethiad ata i.” Felly dyma Joab yn gwneud hynny. 7 Pan ddaeth Ureia ato, dyma Dafydd yn gofyn iddo sut roedd Joab a’r fyddin, a sut roedd y rhyfel yn mynd. 8 Yna dywedodd Dafydd wrth Ureia: “Dos i lawr i dy dŷ i ymlacio.”* Pan adawodd Ureia dŷ y brenin, cafodd anrheg y brenin* ei hanfon ar ei ôl. 9 Ond, cysgodd Ureia wrth fynedfa tŷ y brenin gyda holl weision eraill ei arglwydd, a wnaeth ef ddim mynd i lawr i’w dŷ ei hun. 10 Felly cafodd Dafydd wybod: “Wnaeth Ureia ddim mynd i lawr i’w dŷ ei hun.” Gyda hynny, dywedodd Dafydd wrth Ureia: “Onid wyt ti newydd ddod yn ôl o daith? Pam na wnest ti fynd i lawr i dy dŷ?” 11 Atebodd Ureia: “Mae’r Arch ac Israel a Jwda yn byw mewn pebyll, ac mae fy arglwydd Joab a gweision fy arglwydd yn gwersylla yn y caeau agored. Felly a ddylwn i fynd i mewn i fy nhŷ i fwyta ac yfed a chysgu gyda fy ngwraig? Mor sicr â’r ffaith dy fod ti’n fyw,* wna i ddim gwneud y fath beth!”

12 Yna dywedodd Dafydd wrth Ureia: “Arhosa yma heddiw hefyd, ac yfory gwna i dy anfon di i ffwrdd.” Felly arhosodd Ureia yn Jerwsalem y diwrnod hwnnw a’r diwrnod wedyn. 13 Yna gwnaeth Dafydd ei wahodd i ddod i fwyta ac yfed gydag ef, a dyma Dafydd yn gwneud iddo feddwi. Ond gyda’r nos, aeth allan i gysgu ar ei wely gyda gweision ei arglwydd, a wnaeth ef ddim mynd i lawr i’w dŷ. 14 Yn y bore, ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab a’i anfon drwy law Ureia. 15 Ysgrifennodd yn y llythyr: “Rhowch Ureia ar flaen y gad lle mae’r ymladd ar ei fwyaf ffyrnig. Yna ciliwch yn ôl y tu ôl iddo fel y bydd yn cael ei daro i lawr ac yn marw.”

16 Roedd Joab wedi bod yn gwylio’r ddinas yn ofalus, a gwnaeth ef osod Ureia lle roedd yn gwybod bod ’na filwyr cryf. 17 Pan ddaeth dynion y ddinas allan ac ymladd yn erbyn Joab, syrthiodd rhai o weision Dafydd, ac roedd Ureia yr Hethiad ymhlith y rhai a fu farw. 18 Yna adroddodd Joab yr holl newyddion am y rhyfel wrth Dafydd. 19 Gorchmynnodd i’r negesydd: “Ar ôl iti orffen sôn wrth y brenin am holl newyddion y rhyfel, 20 efallai bydd y brenin yn gwylltio ac yn dweud wrthot ti, ‘Pam roedd rhaid ichi fynd mor agos at y ddinas i frwydro? Onid oeddech chi’n gwybod y bydden nhw’n saethu oddi ar ben y wal? 21 Pwy wnaeth daro i lawr Abimelech fab Jerwbbeseth? Onid dynes* wnaeth daflu maen melin arno oddi ar ben y wal gan wneud iddo farw yn Thebes? Pam roedd rhaid ichi fynd mor agos at y wal?’ Yna dyweda, ‘Mae dy was Ureia yr Hethiad wedi marw hefyd.’”

22 Felly, aeth y negesydd i ddweud wrth Dafydd bopeth roedd Joab wedi gorchymyn iddo ei ddweud. 23 Yna dywedodd y negesydd wrth Dafydd: “Roedd eu dynion yn gryfach na ni, a daethon nhw allan yn ein herbyn ni yn y cae; ond gwnaethon ni eu gyrru nhw yn ôl at fynedfa porth y ddinas. 24 Roedd y bwa saethwyr yn saethu at dy weision oddi ar ben y wal a bu farw rhai o weision y brenin; bu farw dy was Ureia yr Hethiad hefyd.” 25 I hynny dywedodd Dafydd wrth y negesydd: “Dyweda hyn wrth Joab: ‘Paid â gadael i’r mater hwn dy boeni di, oherwydd mae’r cleddyf yn lladd y naill fel y llall. Brwydra’n galetach yn erbyn y ddinas a’i choncro.’ A rho anogaeth iddo.”

26 Pan glywodd gwraig Ureia fod ei gŵr wedi marw, dechreuodd hi alaru drosto. 27 Unwaith i’r cyfnod o alaru ddod i ben, anfonodd Dafydd amdani a daeth ef â hi i’w dŷ, a daeth hi yn wraig iddo a geni mab iddo. Ond doedd Jehofa ddim yn hapus o gwbl am beth roedd Dafydd wedi ei wneud.*

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu