Cyntaf Samuel
31 Nawr roedd y Philistiaid yn brwydro yn erbyn Israel. A dyma ddynion Israel yn ffoi oddi wrth y Philistiaid, a chafodd llawer eu lladd ar Fynydd Gilboa. 2 Aeth y Philistiaid ar ôl Saul a’i feibion, a lladd Jonathan, Abinadab, a Malci-sua, meibion Saul. 3 Trodd y frwydr yn ffyrnig yn erbyn Saul, a daeth y bwasaethwyr o hyd iddo, a chafodd ei anafu’n ddifrifol ganddyn nhw. 4 Yna dywedodd Saul wrth y gwas oedd yn cario ei arfau: “Tynna dy gleddyf a thrywana fi, fel na fydda i’n cael fy nhrin yn greulon a chael fy lladd gan y paganiaid* hyn.” Ond doedd y gwas ddim yn fodlon oherwydd roedd ganddo ofn. Felly cymerodd Saul y cleddyf a syrthio arno. 5 Pan welodd gwas Saul ei fod wedi marw, syrthiodd yntau hefyd ar ei gleddyf ei hun a marw gydag ef. 6 Felly dyma Saul, ei dri mab, y gwas oedd yn cario ei arfau, a’i ddynion i gyd yn marw gyda’i gilydd ar y diwrnod hwnnw. 7 Pan welodd pobl Israel a oedd yn ardal y dyffryn* ac yn ardal yr Iorddonen fod byddin Israel wedi ffoi, a bod Saul a’i feibion wedi marw, dechreuon nhw adael y dinasoedd a ffoi; yna daeth y Philistiaid i fyw yn y dinasoedd hynny.
8 Y diwrnod wedyn, pan ddaeth y Philistiaid i ysbeilio’r meirw, daethon nhw o hyd i gyrff Saul a’i dri mab ar Fynydd Gilboa. 9 Felly, torron nhw ei ben i ffwrdd a chymryd ei arfwisg ac anfon neges drwy wlad y Philistiaid i ledaenu’r newyddion yn nhemlau eu heilunod ac ymysg y bobl. 10 Yna rhoddon nhw ei arfwisg yn nheml Astoreth, a hoelio ei gorff ar wal Beth-sean. 11 Pan glywodd pobl Jabes-gilead beth roedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul, 12 cododd y milwyr i gyd a theithio drwy’r nos i gymryd cyrff Saul a’i feibion oddi ar wal Beth-sean. Daethon nhw â’r cyrff yn ôl i Jabes a’u llosgi nhw yno. 13 Yna cymeron nhw eu hesgyrn a’u claddu o dan y goeden tamarisg yn Jabes, ac ymprydio am saith diwrnod.