Nehemeia
5 Ond, dechreuodd y dynion a’u gwragedd gwyno’n ofnadwy yn erbyn eu brodyr Iddewig. 2 Roedd rhai yn dweud: “Mae gynnon ni lawer o feibion a merched, ac mae’n rhaid inni gael ŷd er mwyn bwyta ac aros yn fyw.” 3 Roedd eraill yn dweud: “Rydyn ni’n rhoi ein caeau, ein gwinllannoedd, a’n tai fel gwarant er mwyn cael ŷd yn ystod y newyn.” 4 Ac roedd eraill eto’n dweud: “Rydyn ni wedi benthyg arian er mwyn talu treth y brenin ac wedi gorfod rhoi ein caeau a’n gwinllannoedd fel gwarant. 5 Nawr rydyn ni yn union yr un fath â’n brodyr,* ac mae ein plant ni yn union yr un fath â’u plant nhw. Er hynny, bydd rhaid i ni werthu ein meibion a’n merched i fod yn gaethweision a chaethferched, ac mae hynny eisoes wedi digwydd i rai o’n merched. Ond does ’na ddim byd gallwn ni ei wneud i stopio hyn, oherwydd mae ein caeau a’n gwinllannoedd yn perthyn i eraill.”
6 Gwnes i wylltio’n lân pan glywais y geiriau hyn a’u holl gwynion. 7 Felly dyma fi’n ystyried y pethau hyn yn fy nghalon, ac yna’n ceryddu’r dynion pwysig a’r dirprwy reolwyr gan ddweud wrthyn nhw: “Mae pob un ohonoch chi’n mynnu llog gan eich brodyr eich hunain.”
Ar ben hynny, trefnais gynulliad mawr i ddelio â’r mater. 8 A dywedais wrthyn nhw: “Rydyn ni wedi gwneud popeth allwn ni i brynu yn ôl ein brodyr Iddewig a gafodd eu gwerthu i’r cenhedloedd. Ond a ydych chi nawr am werthu eich brodyr eich hunain, ac a fyddan nhw’n cael eu gwerthu yn ôl inni?” Ar hynny, aethon nhw’n hollol ddistaw, a doedd ganddyn nhw ddim ateb. 9 Yna dywedais: “Mae beth rydych chi’n ei wneud yn ddrwg. Oni ddylech chi gerdded yn ofn ein Duw,* fel na fydd y cenhedloedd, ein gelynion, yn gallu codi cywilydd arnon ni? 10 Ar ben hynny, rydw i, fy mrodyr, a fy ngweision yn benthyg arian ac ŷd iddyn nhw. Plîs, dewch inni stopio mynnu llog ar y benthyciadau hyn. 11 Plîs, rhowch yn ôl iddyn nhw heddiw eu caeau, eu gwinllannoedd, eu coed olewydd, a’u tai, yn ogystal â’r llog rydych chi’n ei fynnu ganddyn nhw, sef un rhan o gant* o’r arian, yr ŷd, y gwin newydd, a’r olew.”
12 Atebon nhw: “Gwnawn ni roi’r pethau hyn yn ôl iddyn nhw, heb ofyn am unrhyw beth arall ganddyn nhw. Byddwn ni’n gwneud yn union fel rwyt ti’n dweud.” Felly dyma fi’n galw am yr offeiriaid ac yn gwneud i’r dynion hynny dyngu llw i gadw’r addewid hwn. 13 Hefyd, wrth ysgwyd allan bopeth a oedd yn fy nilledyn,* dywedais: “Yn yr un modd, gad i’r gwir Dduw ysgwyd allan o’i dŷ ac o’i eiddo bob dyn sydd ddim yn cadw at yr addewid hwn, ac yn yr un modd gad iddo gael ei ysgwyd a’i adael heb unrhyw beth.” Atebodd y gynulleidfa gyfan: “Amen!”* A dyma nhw’n moli Jehofa, a gwnaeth y bobl fel roedden nhw wedi addo.
14 Hefyd, o’r diwrnod gwnaeth y brenin fy mhenodi i fod yn llywodraethwr drostyn nhw yng ngwlad Jwda, o’r ugeinfed* flwyddyn hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain* o deyrnasiad y Brenin Artacsercses, 12 mlynedd, ni wnes i na fy mrodyr fwyta’r dogn bwyd roedd gan y llywodraethwr yr hawl iddo. 15 Ond roedd y llywodraethwyr blaenorol wedi gosod beichiau trwm ar y bobl, ac wedi bod yn cymryd 40 sicl arian* oddi arnyn nhw bob dydd ar gyfer bara a gwin. Hefyd, roedd eu gweision wedi bod yn llawdrwm ar y bobl. Ond wnes i ddim gwneud hynny, am fy mod i’n ofni Duw.
16 Ar ben hynny, cymerais ran yn y gwaith ar y wal hon, ac ni wnaethon ni gymryd dim un cae oddi ar unrhyw un; roedd fy ngweision i gyd yn gweithio yno. 17 Roedd ’na 150 o Iddewon a dirprwy reolwyr yn bwyta wrth fy mwrdd, yn ogystal â’r rhai a oedd wedi dod aton ni o blith y cenhedloedd. 18 Bob diwrnod roeddwn i’n gorchymyn i ddynion baratoi* un tarw, chwech o’r defaid gorau, ac adar; ac unwaith bob deg diwrnod roedden ni’n cael digonedd o win o bob math. Er gwaethaf hyn i gyd, doeddwn i ddim yn hawlio dogn bwyd y llywodraethwr, am fod y bobl eisoes o dan ddigon o faich oherwydd eu gwasanaeth. 19 Felly, O fy Nuw, plîs cofia fi a fy mendithio* am bopeth rydw i wedi ei wneud ar ran y bobl hyn.