Josua
6 Nawr roedd Jericho wedi ei chau yn dynn oherwydd yr Israeliaid; doedd neb yn gadael a doedd neb yn mynd i mewn.
2 Yna dywedodd Jehofa wrth Josua: “Edrycha, rydw i wedi rhoi Jericho, ei brenin, a’i milwyr cryf yn dy ddwylo di. 3 Martsia* o gwmpas y ddinas gyda dy holl filwyr, ewch o gwmpas y ddinas unwaith. Dyna beth dylech chi ei wneud am chwe diwrnod. 4 Dylai saith offeiriad gario cyrn hwrdd* o flaen yr Arch. Ond ar y seithfed diwrnod, martsiwch o gwmpas y ddinas saith gwaith, a dylai’r offeiriaid ganu’r cyrn hwrdd. 5 Pan fydd y corn hwrdd yn cael ei ganu—cyn gynted ag yr ydych chi’n clywed sŵn* y corn—dylai’r milwyr i gyd weiddi bloedd ryfel. Yna bydd wal y ddinas yn syrthio’n fflat, ac mae’n rhaid i’r milwyr fynd yn syth yn eu blaenau i mewn i’r ddinas.”
6 Felly galwodd Josua fab Nun yr offeiriaid at ei gilydd a dweud wrthyn nhw: “Codwch arch y cyfamod, a dylai saith offeiriad gario cyrn hwrdd o flaen Arch Jehofa.” 7 Yna dywedodd wrth y milwyr: “Ewch yn eich blaenau a martsio o gwmpas y ddinas, a dylai’r milwyr arfog fynd o flaen Arch Jehofa.” 8 Ac fel roedd Josua wedi dweud wrth y bobl, dyma’r saith offeiriad a oedd yn cario cyrn hwrdd o flaen Jehofa yn mynd yn eu blaenau ac yn canu’r cyrn, ac roedd arch cyfamod Jehofa yn cael ei chario y tu ôl iddyn nhw. 9 Ac aeth y milwyr arfog o flaen yr offeiriaid a oedd yn canu’r cyrn, tra oedd y milwyr eraill yn dilyn yr Arch wrth i’r cyrn gael eu canu’n barhaus.
10 Nawr roedd Josua wedi gorchymyn i’r milwyr: “Peidiwch â gweiddi. Byddwch yn hollol ddistaw. Ddylech chi ddim dweud gair tan y diwrnod bydda i’n dweud wrthoch chi, ‘Gwaeddwch!’ Yna gwaeddwch.” 11 Gorchmynnodd i Arch Jehofa gael ei chario o gwmpas y ddinas, gan fynd o’i chwmpas unwaith, cyn iddyn nhw ddod yn ôl i’r gwersyll ac aros yno dros nos.
12 Y bore wedyn, cododd Josua yn gynnar, a dyma’r offeiriaid yn codi Arch Jehofa, 13 a gwnaeth saith offeiriad a oedd yn cario cyrn hwrdd gerdded o flaen Arch Jehofa yn canu’r cyrn yn barhaus. Roedd y milwyr arfog yn cerdded o’u blaenau nhw, tra oedd y milwyr eraill yn dilyn Arch Jehofa wrth i’r cyrn gael eu canu’n barhaus. 14 Ar yr ail ddiwrnod, dyma nhw’n martsio o gwmpas y ddinas unwaith, cyn mynd yn ôl i’r gwersyll. Dyna wnaethon nhw am chwe diwrnod.
15 Ar y seithfed diwrnod, codon nhw’n gynnar, cyn gynted ag y gwnaeth y wawr dorri. Dyma nhw’n martsio o gwmpas y ddinas yn yr un ffordd saith gwaith. Dim ond ar y diwrnod hwnnw aethon nhw o gwmpas y ddinas saith gwaith yn martsio. 16 Ac ar y seithfed gwaith, dyma’r offeiriaid yn canu’r cyrn, a dywedodd Josua wrth y milwyr: “Gwaeddwch, oherwydd mae Jehofa wedi rhoi’r ddinas ichi! 17 Dylai’r ddinas a phopeth ynddi gael eu dinistrio’n llwyr; mae’r cwbl yn perthyn i Jehofa. Dim ond Rahab y butain sy’n cael byw, hi a phawb sydd gyda hi yn ei thŷ, am ei bod hi wedi cuddio’r negeswyr gwnaethon ni eu hanfon allan. 18 Ond cadwch draw oddi wrth yr hyn y dylai gael ei ddinistrio, rhag ofn ichi ddyheu am rywbeth a’i gymryd, oherwydd wedyn byddwch chi’n gwneud i wersyll Israel orfod cael ei ddinistrio drwy ddod â thrychineb* arno. 19 Ond mae’r holl arian ac aur a phopeth sydd wedi ei wneud allan o gopr a haearn yn sanctaidd i Jehofa. Dylen nhw fynd i mewn i drysorfa Jehofa.”
20 Yna, gwaeddodd y milwyr pan ganodd y cyrn. Cyn gynted ag y clywodd y milwyr sŵn y cyrn, a gweiddi bloedd ryfel, syrthiodd y wal yn fflat. Ar ôl hynny, aeth y milwyr yn syth yn eu blaenau i mewn i’r ddinas a’i chipio. 21 Gwnaethon nhw ddinistrio popeth yn y ddinas yn llwyr â’r cleddyf, dynion a merched,* hen ac ifanc, teirw, defaid, ac asynnod.
22 Dywedodd Josua wrth y ddau ddyn oedd wedi ysbïo’r wlad: “Ewch i mewn i dŷ’r butain a dewch â hi a phawb sy’n perthyn iddi allan, yn union fel gwnaethoch chi addo ar lw iddi.” 23 Felly aeth yr ysbïwyr ifanc i mewn a dod â Rahab, ynghyd â’i thad, ei mam, ei brodyr, a phawb oedd yn perthyn iddi allan; do, daethon nhw â’r teulu cyfan allan, a mynd â nhw’n ddiogel i rywle y tu allan i wersyll Israel.
24 Yna llosgon nhw’r ddinas a phopeth ynddi â thân. Ond rhoddon nhw’r arian, yr aur, a phopeth oedd wedi ei wneud allan o gopr a haearn i drysorfa tŷ Jehofa. 25 Dim ond Rahab y butain, teulu ei thad, a phawb oedd yn perthyn iddi gwnaeth Josua adael yn fyw; ac mae hi’n byw yn Israel hyd heddiw, am ei bod hi wedi cuddio’r negeswyr roedd Josua wedi eu hanfon allan i ysbïo ar Jericho.
26 Bryd hynny, cyhoeddodd Josua y felltith hon:* “Melltith Jehofa ar unrhyw ddyn sy’n ailadeiladu dinas Jericho. Bydd yn colli ei fab hynaf wrth iddo osod ei sylfeini, ac yn colli’r ieuengaf wrth iddo godi ei drysau.”
27 Felly roedd Jehofa gyda Josua, ac roedd sôn amdano drwy’r holl ddaear.