Exodus
5 Ar ôl hynny, aeth Moses ac Aaron i mewn a dweud wrth Pharo: “Dyma beth mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud, ‘Anfona fy mhobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw ddathlu gŵyl i mi yn yr anialwch.’” 2 Ond dywedodd Pharo: “Pwy yw Jehofa? Pam dylwn i ufuddhau i’w lais ac anfon Israel i ffwrdd? Dydw i ddim yn adnabod Jehofa o gwbl, ac ar ben hynny, fydda i ddim yn anfon Israel i ffwrdd.” 3 Ond dywedon nhw: “Mae Duw’r Hebreaid wedi cyfathrebu â ni. Plîs, rydyn ni eisiau mynd ar daith dri-diwrnod i mewn i’r anialwch ac aberthu i Jehofa ein Duw; os nad ydyn ni, bydd ef yn ein taro ni ag afiechyd neu â’r cleddyf.” 4 Atebodd brenin yr Aifft: “Moses ac Aaron, pam rydych chi’n cymryd y bobl i ffwrdd oddi wrth eu gwaith? Ewch yn ôl i lafurio!” 5 Ac aeth Pharo ymlaen i ddweud: “Edrychwch ar faint o bobl sy’n gweithio yn y wlad hon. Ond rydych chi eisiau eu stopio nhw rhag gweithio.”
6 Y diwrnod hwnnw, gorchmynnodd Pharo i’r tasgfeistri a’u fformyn: 7 “O hyn ymlaen, peidiwch â rhoi gwellt i’r bobl i wneud brics. Gadewch iddyn nhw fynd a chasglu gwellt iddyn nhw eu hunain. 8 Ond bydd rhaid iddyn nhw wneud yr un nifer o frics bob dydd. Peidiwch â lleihau’r nifer iddyn nhw, oherwydd maen nhw’n ymlacio.* Dyna pam maen nhw’n gweiddi, ‘Rydyn ni eisiau mynd, rydyn ni eisiau aberthu i’n Duw!’ 9 Gwnewch iddyn nhw weithio’n galetach, a’u cadw nhw’n brysur fel na fyddan nhw’n talu sylw i gelwyddau.”
10 Felly aeth y tasgfeistri a’u fformyn allan a dweud wrth y bobl: “Dyma beth mae Pharo wedi ei ddweud, ‘Dydw i ddim yn rhoi gwellt ichi bellach. 11 Ewch i nôl gwellt i chi’ch hunain le bynnag rydych chi’n cael hyd iddo, ond ni fydd eich gwaith yn cael ei leihau o gwbl.’” 12 Yna aeth y bobl allan i bob cyfeiriad yn yr Aifft i gasglu bonion* yn lle gwellt. 13 A dyma’r tasgfeistri yn mynnu o hyd: “Mae’n rhaid i bob un ohonoch chi orffen eich gwaith bob dydd, yn union fel gwnaethoch chi pan oedd gwellt yn cael ei ddarparu.” 14 Hefyd dyma fformyn yr Israeliaid, y rhai roedd tasgfeistri Pharo wedi eu penodi dros y bobl, yn cael eu curo. Gofynnodd y tasgfeistri iddyn nhw: “Pam na wnaethoch chi’r un nifer o frics ag o’r blaen? Digwyddodd hyn ddoe a heddiw.”
15 Felly aeth fformyn yr Israeliaid i mewn a chwyno wrth Pharo: “Pam rwyt ti’n trin dy weision fel hyn? 16 Does dim gwellt yn cael ei roi i dy weision, ond eto maen nhw’n dweud wrthon ni, ‘Gwnewch frics!’ Mae dy weision yn cael eu curo, ond dy bobl di sydd ar fai.” 17 Ond dywedodd ef: “Rydych chi’n ymlacio,* rydych chi’n ymlacio!* Dyna pam rydych chi’n dweud, ‘Rydyn ni eisiau mynd, rydyn ni eisiau aberthu i Jehofa.’ 18 Felly ewch yn ôl i weithio! Ni fydd gwellt yn cael ei roi ichi, ond bydd rhaid ichi wneud yr un nifer o frics.”
19 Yna gwelodd fformyn yr Israeliaid eu bod nhw yn wir mewn trwbwl oherwydd y gorchymyn: “Ddylech chi ddim lleihau’r nifer o frics rydych chi’n eu gwneud mewn diwrnod.” 20 Dyma’r fformyn yn gadael Pharo, a dyna lle roedd Moses ac Aaron yn disgwyl amdanyn nhw. 21 Ar unwaith, dywedodd y fformyn wrthyn nhw: “Gadewch i Jehofa edrych arnoch chi a’ch barnu chi, gan eich bod chi wedi gwneud i Pharo a’i weision ein casáu ni* ac rydych chi wedi rhoi cleddyf yn eu llaw i’n lladd ni.” 22 Yna trodd Moses at Jehofa a dweud: “Jehofa, pam rwyt ti wedi gadael i’r bobl hyn ddioddef? Pam rwyt ti wedi fy anfon i? 23 Ers imi fynd i mewn o flaen Pharo i siarad yn dy enw di, mae wedi trin y bobl hyn yn waeth, ac yn bendant dwyt ti ddim wedi achub dy bobl.”