LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Datguddiad 4
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Datguddiad

      • Gweledigaeth o bresenoldeb nefol Jehofa (1-11)

        • Jehofa yn eistedd ar ei orsedd (2)

        • Y 24 henuriad ar orseddau (4)

        • Y pedwar creadur byw (6)

Datguddiad 4:3

Troednodiadau

  • *

    Neu “a gem gwerthfawr coch.”

Datguddiad 4:6

Troednodiadau

  • *

    Neu “Yn y canol gyda’r orsedd.”

Datguddiad 4:8

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 4

Datguddiad 4:11

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 4

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Datguddiad 4:1-11

Datguddiad i Ioan

4 Ar ôl hyn edrycha! fe welais ddrws wedi ei agor yn y nef, ac roedd y llais cyntaf a glywais yn siarad â mi ac yn swnio fel trwmped, gan ddweud: “Tyrd i fyny yma, ac fe wna i ddangos iti’r pethau sy’n rhaid digwydd.” 2 Ar ôl hyn fe ddes i ar unwaith o dan rym yr ysbryd, ac edrychwch! roedd gorsedd yn ei safle yn y nef, ac roedd rhywun yn eistedd ar yr orsedd. 3 Ac roedd yr Un a oedd yn eistedd arni yn debyg o ran ei olwg i’r gem iasbis a’r gem sardion,* ac o amgylch yr orsedd roedd ’na enfys yn debyg i emrallt.

4 O amgylch yr orsedd roedd ’na 24 gorsedd, ac ar y gorseddau hyn fe welais 24 henuriad yn eistedd wedi eu gwisgo mewn dillad gwyn, ac roedd ’na goronau aur ar eu pennau. 5 Ac roedd mellt a lleisiau a tharanau yn dod o’r orsedd; ac roedd ’na saith lamp dân yn llosgi o flaen yr orsedd, ac mae’r rhain yn golygu saith ysbryd Duw. 6 O flaen yr orsedd roedd ’na rywbeth yn debyg i fôr o wydr, fel grisial.

Yng nghanol yr orsedd* ac o amgylch yr orsedd roedd ’na bedwar creadur byw a oedd yn llawn o lygaid o’r tu blaen a’r tu ôl. 7 Roedd y creadur byw cyntaf yn debyg i lew, ac roedd yr ail greadur byw yn debyg i darw ifanc, ac roedd gan y trydydd creadur byw wyneb fel dyn, ac roedd y pedwerydd creadur byw yn debyg i eryr yn hedfan. 8 Ac roedd gan bob un o’r pedwar creadur byw chwe adain; roedden nhw’n llawn o lygaid o amgylch ac o dan yr adenydd. Ac yn barhaol, ddydd a nos, maen nhw’n dweud: “Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd ydy Jehofa Dduw, yr Hollalluog, a oedd yn bodoli gynt ac sy’n bodoli nawr ac sy’n mynd i ddod.”

9 Bryd bynnag y bydd y creaduriaid byw yn rhoi gogoniant ac anrhydedd a diolchgarwch i’r Un sy’n eistedd ar yr orsedd, yr Un sy’n byw am byth bythoedd, 10 mae’r 24 henuriad yn syrthio o flaen yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd ac yn addoli’r Un sy’n byw am byth bythoedd, ac maen nhw’n taflu eu coronau o flaen yr orsedd, gan ddweud: 11 “Rwyt ti’n deilwng, Jehofa ein Duw, i dderbyn y gogoniant a’r anrhydedd a’r grym, oherwydd ti a greodd bob peth, ac oherwydd dy ewyllys di y daethon nhw i fodolaeth ac y cawson nhw eu creu.”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu