Numeri
32 Nawr roedd gan feibion Reuben a meibion Gad lawer iawn o anifeiliaid, a gwelson nhw fod y tir yn ardal Jaser a Gilead yn dda ar gyfer anifeiliaid. 2 Felly aeth meibion Gad a meibion Reuben at Moses, Eleasar yr offeiriad, a phenaethiaid y bobl a dweud: 3 “Mae Ataroth, Dibon, Jaser, Nimra, Hesbon, Eleale, Sebam, Nebo, a Beon, 4 y diriogaeth gwnaeth Jehofa ei choncro o flaen pobl Israel, yn dir da ar gyfer anifeiliaid, ac mae gynnon ni, dy weision, lawer o anifeiliaid.” 5 Aethon nhw ymlaen i ddweud: “Os ydyn ni wedi dy blesio di, gad i ni, dy weision, feddiannu’r tir hwn. Paid â gwneud inni groesi’r Iorddonen.”
6 Yna dywedodd Moses wrth feibion Gad a meibion Reuben: “Ydy hi’n iawn i’ch brodyr fynd i ryfel, tra byddwch chi’n byw yn fan hyn? 7 Pam dylech chi ddigalonni pobl Israel, fel nad ydyn nhw eisiau croesi drosodd i’r wlad y bydd Jehofa yn bendant yn ei rhoi iddyn nhw? 8 Dyna beth wnaeth eich tadau, pan wnes i eu hanfon nhw o Cades-barnea i weld y wlad. 9 Pan aethon nhw i fyny i Ddyffryn* Escol a gweld y wlad, gwnaethon nhw ddigalonni pobl Israel fel nad oedden nhw eisiau mynd i mewn i’r wlad roedd Jehofa am ei rhoi iddyn nhw. 10 Gwylltiodd Jehofa ar y diwrnod hwnnw, a thyngu’r llw hwn: 11 ‘Ni fydd y dynion a ddaeth i fyny allan o’r Aifft sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn yn gweld y wlad y gwnes i ei haddo i Abraham, Isaac, a Jacob, am nad ydyn nhw wedi fy nilyn i â’u holl galon— 12 heblaw am Caleb fab Jeffunne y Cenesiad a Josua fab Nun, am eu bod nhw wedi dilyn Jehofa â’u holl galon.’ 13 Felly gwylltiodd Jehofa yn lân ag Israel, a gwnaeth iddyn nhw grwydro o gwmpas yn yr anialwch am 40 mlynedd, nes bod yr holl genhedlaeth a oedd yn gwneud pethau drwg yng ngolwg Jehofa wedi darfod. 14 Nawr rydych chi bechaduriaid yn gwneud yn union yr un fath â’ch tadau ac yn gwneud i Jehofa wylltio yn fwy byth yn erbyn Israel. 15 Os byddwch chi’n troi’n ôl rhag ei ddilyn, bydd ef yn bendant yn eu gadael nhw yn yr anialwch unwaith eto, a byddwch chi’n dod â dinistr ar yr holl bobl hyn.”
16 Yn nes ymlaen aethon nhw ato a dweud: “Gadewch inni adeiladu corlannau cerrig ar gyfer ein hanifeiliaid a dinasoedd ar gyfer ein plant yn fan hyn. 17 Ond byddwn ni’n parhau i fod yn barod i frwydro a byddwn ni’n mynd o flaen yr Israeliaid nes inni ddod â nhw i’w lle, tra bod ein plant yn aros yn y dinasoedd caerog, wedi eu diogelu rhag pobl y wlad. 18 Fyddwn ni ddim yn mynd yn ôl i’n tai nes bod pob un o’r Israeliaid wedi derbyn ei dir fel etifeddiaeth. 19 Fyddwn ni ddim yn derbyn etifeddiaeth gyda nhw ar yr ochr arall o’r Iorddonen a thu hwnt, oherwydd rydyn ni wedi derbyn ein hetifeddiaeth ar yr ochr ddwyreiniol o’r Iorddonen.”
20 Atebodd Moses: “Os gwnewch chi eich arfogi eich hunain o flaen Jehofa ar gyfer y rhyfel, 21 ac os bydd pob un ohonoch chi yn ei arfogi ei hun ac yn croesi’r Iorddonen o flaen Jehofa wrth iddo yrru ei elynion i ffwrdd 22 nes bod y wlad wedi ei choncro o flaen Jehofa, ar ôl hynny cewch chi fynd yn ôl a byddwch chi’n ddieuog yng ngolwg Jehofa ac Israel. Yna byddwch chi’n etifeddu’r wlad hon o flaen Jehofa. 23 Ond os na wnewch chi hyn, yna byddwch chi wedi pechu yn erbyn Jehofa. Yn yr achos hwnnw, byddwch chi’n bendant yn gorfod wynebu canlyniadau eich pechod. 24 Felly cewch chi adeiladu dinasoedd ar gyfer eich plant a chorlannau ar gyfer eich preiddiau, ond bydd rhaid ichi wneud beth rydych chi wedi ei addo.”
25 Dywedodd meibion Gad a meibion Reuben wrth Moses: “Bydd dy weision yn gwneud yn union fel mae ein harglwydd yn gorchymyn. 26 Bydd ein plant, ein gwragedd, ein hanifeiliaid, a’n holl anifeiliaid domestig yn aros yno yn ninasoedd Gilead, 27 ond bydd dy weision yn croesi drosodd, pob dyn wedi ei arfogi i ryfela o flaen Jehofa, yn union fel mae ein harglwydd yn dweud.”
28 Felly rhoddodd Moses orchymyn ynglŷn â nhw i Eleasar yr offeiriad, i Josua fab Nun, ac i benaethiaid teuluoedd estynedig llwythau Israel. 29 Dywedodd Moses wrthyn nhw: “Os bydd meibion Gad a meibion Reuben yn croesi’r Iorddonen gyda chi, pob dyn wedi ei arfogi ar gyfer y rhyfel o flaen Jehofa, ac mae’r wlad yn cael ei choncro o’ch blaenau chi, yna byddwch chi’n rhoi gwlad Gilead iddyn nhw fel etifeddiaeth. 30 Ond os nad ydyn nhw’n eu harfogi eu hunain ac yn croesi drosodd gyda chi, yna byddan nhw’n setlo yn eich plith chi yng ngwlad Canaan.”
31 Atebodd meibion Gad a meibion Reuben: “Byddwn ni’n gwneud fel mae Jehofa wedi dweud wrth dy weision. 32 Byddwn ni’n ein harfogi ein hunain ac yn croesi drosodd i wlad Canaan o flaen Jehofa, ond bydd ein hetifeddiaeth ar yr ochr yma o’r Iorddonen.” 33 Felly dyma Moses yn rhoi iddyn nhw—i feibion Gad, i feibion Reuben, ac i hanner llwyth Manasse fab Joseff—deyrnas Sihon brenin yr Amoriaid a theyrnas Og brenin Basan, y wlad i gyd, a’r holl ddinasoedd yn y wlad o gwmpas.
34 Ac adeiladodd* meibion Gad Dibon, Ataroth, Aroer, 35 Atroth-soffan, Jaser, Jogbeha, 36 Beth-nimra, a Beth-haran, dinasoedd caerog, ac adeiladon nhw gorlannau cerrig ar gyfer y preiddiau. 37 Ac adeiladodd meibion Reuben Hesbon, Eleale, Ciriathaim, 38 Nebo, a Baal-meon—gan newid eu henwau—a Sibma; a dechreuon nhw ailenwi’r dinasoedd roedden nhw wedi eu hailadeiladu.
39 Dyma feibion Machir fab Manasse yn martsio* yn erbyn Gilead ac yn ei chipio ac yn gyrru allan yr Amoriaid a oedd yn byw yno. 40 Felly gwnaeth Moses roi Gilead i Machir fab Manasse, a dechreuodd ef fyw yno. 41 A dyma Jair fab Manasse yn martsio yn eu herbyn nhw ac yn cipio eu gwersylloedd, a dechreuodd eu galw nhw’n Hafoth-jair.* 42 A dyma Noba yn martsio yn erbyn Cenath ac yn ei chipio hi a’i threfi cyfagos, a rhoddodd ei enw ei hun, Noba, arni.