Ail Samuel
19 Cafodd neges ei rhoi i Joab i ddweud bod y brenin yn wylo ac yn galaru dros Absalom. 2 Felly ar y diwrnod hwnnw cafodd llawenydd y fuddugoliaeth ei droi’n alar ar gyfer y bobl i gyd, oherwydd roedden nhw wedi clywed bod y brenin yn galaru dros ei fab. 3 Aeth y bobl yn ôl i’r ddinas yn ddistaw y diwrnod hwnnw, fel pobl llawn cywilydd am eu bod nhw wedi ffoi oddi wrth frwydr. 4 Gorchuddiodd y brenin ei wyneb a chrio’n uchel gan ddweud: “Fy mab Absalom! Absalom fy mab, fy mab!”
5 Yna aeth Joab i mewn at y brenin yn y tŷ a dweud: “Heddiw rwyt ti wedi codi cywilydd ar dy weision i gyd, y rhai a wnaeth achub dy fywyd* heddiw a bywydau* dy feibion, dy ferched, dy wragedd, a dy wragedd eraill.* 6 Rwyt ti’n caru’r rhai sy’n dy gasáu di ac yn casáu’r rhai sy’n dy garu di, ac rwyt ti wedi ei gwneud hi’n amlwg heddiw fod dy benaethiaid a dy weision yn golygu dim iti, oherwydd rydw i’n sicr y byddai’n well gen ti petai dim ond Absalom yn fyw heddiw, a’r gweddill ohonon ni yn farw. 7 Nawr cod, dos allan a chalonoga dy weision, oherwydd rydw i’n addo yn enw Jehofa os na ei di allan, fydd na’r un dyn yn dal i fod gyda ti heno. Bydd hyn yn waeth iti na’r holl ddrwg sydd wedi dod arnat ti o dy ieuenctid hyd heddiw.” 8 Felly dyma’r brenin yn codi ac yn mynd i eistedd ym mhorth y ddinas, a chafodd y bobl i gyd wybod: “Nawr mae’r brenin yn eistedd yn y porth.” Yna daeth y bobl i gyd o flaen y brenin.
Ond roedd Israel wedi ffoi, pob un i’w gartref ei hun. 9 Roedd pawb yn holl lwythau Israel yn dadlau, gan ddweud: “Gwnaeth y brenin ein hachub ni rhag ein gelynion, a rhag y Philistiaid; ond nawr mae wedi ffoi’r wlad oherwydd Absalom. 10 Ac mae Absalom, yr un gwnaethon ni ei eneinio droston ni, wedi marw yn y frwydr. Felly pam nad ydych chi’n gwneud unrhyw beth i ddod â’r brenin yn ôl?”
11 Anfonodd y Brenin Dafydd y neges hon at Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid: “Siaradwch â henuriaid Jwda, gan ddweud, ‘Pam dylech chi oedi rhag dod â fi, y brenin, yn ôl i fy nhŷ, pan mae neges Israel i gyd wedi fy nghyrraedd i yma yn fy nhŷ? 12 Chi ydy fy mrodyr i, rydych chi’n perthyn imi drwy waed.* Pam rydych chi’n oedi rhag dod â fi, y brenin, yn ôl?’ 13 Hefyd dylech chi ddweud wrth Amasa, ‘Onid wyt ti’n perthyn imi drwy waed? Felly gad i Dduw fy nghosbi i’n llym os nad ydw i’n dy benodi di’n bennaeth ar fy myddin o hyn ymlaen yn lle Joab.’”
14 Felly, dyma’n ennill calonnau pob un o ddynion Jwda, ac anfonon nhw neges at y brenin: “Tyrd yn ôl, ti a dy holl weision.”
15 Cychwynnodd y brenin ar ei ffordd yn ôl a chyrraedd yr Iorddonen, a daeth pobl Jwda i Gilgal i gyfarfod y brenin ac i’w hebrwng ar draws yr Iorddonen. 16 Yna dyma Simei fab Gera, y Benjaminiad o Bahurim, yn brysio i lawr gyda dynion Jwda i gyfarfod y Brenin Dafydd, 17 ac roedd ’na 1,000 o ddynion o Benjamin gydag ef. Hefyd dyma Siba, gwas teulu Saul, gyda’i 15 mab ac 20 o weision yn rhuthro i lawr at yr Iorddonen o flaen y brenin. 18 Croesodd* y rhyd er mwyn dod â theulu’r brenin drosodd ac er mwyn gwneud beth bynnag roedd ef eisiau. Ond pan oedd y Brenin Dafydd ar fin croesi’r Iorddonen, syrthiodd Simei fab Gera i lawr o’i flaen. 19 Dywedodd wrth y brenin: “Plîs fy arglwydd, paid â fy marnu i’n euog, ac anghofia am y peth drwg a wnes i ar y diwrnod yr est ti, fy arglwydd y brenin, allan o Jerwsalem. Plîs anghofia am y peth, O frenin, 20 oherwydd rydw i, dy was, yn gwybod yn iawn fy mod i wedi pechu; dyma pam mai fi ydy’r cyntaf o holl dŷ Joseff i ddod i lawr yma heddiw i gyfarfod fy arglwydd y brenin.”
21 Ar unwaith dywedodd Abisai fab Seruia: “Oni ddylai Simei gael ei ladd am hyn, am ei fod wedi melltithio un eneiniog Jehofa?” 22 Ond dywedodd Dafydd: “Beth sydd gan hyn i’w wneud â chi feibion Seruia? Pam rydych chi’n troi yn fy erbyn i heddiw? A ddylai unrhyw un gael ei ladd heddiw yn Israel? Onid ydw i’n frenin ar Israel unwaith eto?” 23 Yna dyma’r brenin yn addo i Simei: “Fyddi di ddim yn marw.”
24 Aeth Meffiboseth, ŵyr Saul, i lawr i gyfarfod y brenin hefyd. Doedd ef ddim wedi golchi ei draed na thrimio ei fwstash na golchi ei ddillad o’r diwrnod roedd y brenin wedi gadael nes y diwrnod daeth yn ôl yn ddiogel. 25 Pan ddaeth i* Jerwsalem i gyfarfod y brenin, dywedodd y brenin wrtho: “Pam na wnest ti ddod gyda mi, Meffiboseth?” 26 I hynny dywedodd: “Fy arglwydd y brenin, rwyt ti’n gwybod fy mod i’n gloff. Roeddwn i wedi dweud wrth fy ngwas, ‘Paratoa fy asen imi, er mwyn imi gael mynd ar ei chefn a mynd gyda’r brenin,’ ond dyma ef yn fy nhwyllo i. 27 Dywedodd gelwydd amdana i wrth fy arglwydd y brenin. Ond rwyt ti fel un o angylion y gwir Dduw, felly gwna beth bynnag sy’n dda yn dy olwg. 28 Byddai fy arglwydd y brenin wedi gallu lladd holl deulu fy nhaid,* ond eto rwyt ti wedi caniatáu i mi, dy was, fod yn un o’r rhai sy’n bwyta wrth dy fwrdd. Felly pa hawl sydd gen i i ofyn unrhyw beth arall gan fy arglwydd y brenin?”
29 Ond dywedodd y brenin wrtho: “Paid â dweud dim mwy am y peth. Rydw i wedi penderfynu y byddi di a Siba yn rhannu’r tir.” 30 Gyda hynny dywedodd Meffiboseth wrth y brenin: “Gad iddo gymryd y cyfan, nawr dy fod ti, fy arglwydd y brenin, wedi dod yn ôl i dy dŷ yn ddiogel.”
31 Yna dyma Barsilai o Gilead yn dod i lawr o Rogelim i ardal yr Iorddonen er mwyn hebrwng y brenin at yr Iorddonen. 32 Roedd Barsilai yn hen iawn, yn 80 mlwydd oed, ac roedd wedi bod yn dod â bwyd at y brenin tra oedd ef yn aros yn Mahanaim, oherwydd roedd yn ddyn cyfoethog iawn. 33 Felly dywedodd y brenin wrth Barsilai: “Croesa drosodd gyda mi, a byddi di’n bwyta gyda mi yn Jerwsalem.” 34 Ond dywedodd Barsilai wrth y brenin: “Am faint mwy bydda i’n byw? Pam dylwn i ddod i fyny i Jerwsalem gyda’r brenin? 35 Rydw i’n 80 mlwydd oed heddiw. A alla i ddweud y gwahaniaeth rhwng pethau da a drwg? A alla i, dy was, flasu beth rydw i’n ei fwyta a’i yfed? A ydw i’n dal yn gallu clywed lleisiau dynion a merched* yn canu? Felly pam dylai dy was fod yn faich ychwanegol ar fy arglwydd y brenin? 36 Mae’n ddigon i mi gael dod â’r brenin at yr Iorddonen. Pam dylai’r brenin fy ngwobrwyo i fel hyn? 37 Plîs gad i dy was fynd yn ôl adref, a gad imi farw yn fy ninas yn agos at fedd fy nhad a fy mam. Ond dyma dy was Cimham. Gad iddo ef groesi drosodd gyda ti, a chei di wneud drosto ef beth bynnag sy’n dda yn dy olwg.”
38 Felly dywedodd y brenin: “Bydd Cimham yn croesi gyda mi, a bydda i’n gwneud drosto ef beth bynnag sy’n dda yn dy olwg; bydda i’n gwneud fel rwyt ti’n gofyn.” 39 Nawr dechreuodd y bobl i gyd groesi’r Iorddonen, a phan groesodd y brenin, rhoddodd gusan i Barsilai a’i fendithio; ac aeth Barsilai adref. 40 Pan aeth y brenin drosodd i Gilgal, croesodd Cimham gydag ef. Aeth holl bobl Jwda a hanner pobl Israel â’r brenin drosodd.
41 Yna daeth holl ddynion Israel at y brenin a dweud wrtho: “Pam gwnaeth ein brodyr, dynion Jwda, dy gipio di i ffwrdd a dod â ti a dy deulu a dy ddynion i gyd dros yr Iorddonen?” 42 Dyma holl ddynion Jwda yn ateb dynion Israel: “Am fod y brenin yn perthyn i ni. Pam rydych chi’n ddig am hyn? Ydy’r brenin wedi gorfod talu am fwyd i ni, neu wedi rhoi unrhyw anrheg i ni?”
43 Ond dyma ddynion Israel yn ateb dynion Jwda: “Rydyn ni’n ddeg llwyth, felly mae gynnon ni fwy o hawl i’r brenin nag sydd gynnoch chi. Felly pam rydych chi wedi dod â gwarth arnon ni? Oni ddylen ni fod wedi cael y flaenoriaeth i ddod â’n brenin yn ôl?” Ond roedd dadl dynion Jwda yn gryfach na dadl dynion Israel.