Actau’r Apostolion
6 Nawr yn y dyddiau hynny pan oedd y disgyblion yn cynyddu, dechreuodd yr Iddewon Groeg eu hiaith gwyno yn erbyn yr Iddewon Hebraeg eu hiaith, oherwydd bod eu gweddwon yn cael eu hesgeuluso yn y dosbarthu dyddiol. 2 Felly galwodd y Deuddeg yr holl ddisgyblion at ei gilydd a dweud: “Nid yw’n iawn i ni adael gair Duw er mwyn gweini wrth fyrddau. 3 Felly, frodyr, dewiswch saith o ddynion ag enw da o’ch plith, yn llawn yr ysbryd a doethineb, fel y gallwn ni eu penodi dros y mater angenrheidiol hwn; 4 ond byddwn ninnau’n ymroi i weddi ac i weinidogaeth y gair.” 5 Roedd yr hyn a ddywedon nhw yn plesio’r holl ddisgyblion, a dyma nhw’n dewis Steffan, dyn yn llawn ffydd a’r ysbryd glân, yn ogystal â Philip, Prochorus, Nicanor, Timon, Parmenas, a Nicolaus, proselyt o Antiochia. 6 Dyma nhw’n dod â nhw gerbron yr apostolion, ac ar ôl gweddïo, rhoddon nhw eu dwylo arnyn nhw.
7 O ganlyniad, roedd gair Duw yn dal i ledaenu, ac roedd nifer y disgyblion yn dal i luosogi yn fawr iawn yn Jerwsalem; a dechreuodd tyrfa fawr o offeiriaid fod yn ufudd i’r ffydd.
8 Nawr roedd Steffan, a oedd wedi ennill ffafr Duw ac yn llawn nerth, yn gwneud rhyfeddodau ac arwyddion mawr ymhlith y bobl. 9 Ond gwnaeth rhai dynion o’r synagog a oedd yn cael ei alw’n Synagog y Caethweision Rhydd ddod ymlaen, ynghyd â rhai Cyreniaid ac Alecsandriaid, a rhai o Cilicia ac Asia, i ddadlau â Steffan. 10 Ond doedden nhw ddim yn gallu dal eu tir yn erbyn y doethineb a’r ysbryd a oedd yn ei gyfarwyddo i siarad. 11 Yna, yn ddistaw bach, dyma nhw’n perswadio dynion i ddweud: “Rydyn ni wedi ei glywed ef yn dweud pethau cableddus yn erbyn Moses a Duw.” 12 A gwnaethon nhw gynhyrfu’r bobl, yr henuriaid, a’r ysgrifenyddion, ac ar ôl ymosod arno’n fwyaf sydyn, gafaelon nhw ynddo a’i arwain i’r Sanhedrin. 13 A daethon nhw â gau dystion ymlaen, a ddywedodd: “Dydy’r dyn hwn ddim yn stopio dweud pethau yn erbyn y lle sanctaidd hwn ac yn erbyn y Gyfraith. 14 Er enghraifft, rydyn ni wedi ei glywed ef yn dweud y bydd yr Iesu hwn o Nasareth yn bwrw’r lle hwn i lawr ac yn newid yr arferion a drosglwyddodd Moses i ni.”
15 Ac wrth i bawb oedd yn eistedd yn y Sanhedrin syllu arno, fe welson nhw fod ei wyneb fel wyneb angel.