LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Cronicl 20
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Cronicl

      • Gwledydd cyfagos yn bygwth Jwda (1-4)

      • Jehosaffat yn gweddïo am help (5-13)

      • Ateb Jehofa (14-19)

      • Jwda yn cael ei hachub drwy wyrth (20-30)

      • Teyrnasiad Jehosaffat yn dod i ben (31-37)

2 Cronicl 20:1

Troednodiadau

  • *

    Neu efallai, “y Meuniaid.”

2 Cronicl 20:2

Troednodiadau

  • *

    Mae’n debyg y Môr Marw; y Môr Heli.

2 Cronicl 20:7

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “had.”

2 Cronicl 20:16

Troednodiadau

  • *

    Neu “wadi.”

2 Cronicl 20:17

Troednodiadau

  • *

    Neu “byddwch yn gweld sut mae Jehofa yn eich achub chi.”

2 Cronicl 20:20

Troednodiadau

  • *

    Neu “gallu dyfalbarhau.”

2 Cronicl 20:26

Troednodiadau

  • *

    Neu “yng Ngwastatir Isel.”

  • *

    Llyth., “bendithio.”

  • *

    Sy’n golygu “Bendith.”

2 Cronicl 20:32

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    3/2017, t. 20

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
  • 32
  • 33
  • 34
  • 35
  • 36
  • 37
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Cronicl 20:1-37

Ail Cronicl

20 Ar ôl hynny, daeth y Moabiaid a’r Ammoniaid, yn ogystal â rhai o’r Ammonim,* i ryfela yn erbyn Jehosaffat. 2 Felly cafodd Jehosaffat wybod: “Mae tyrfa fawr wedi dod yn dy erbyn di o ardal y môr,* o Edom, ac maen nhw yn Hasason-tamar, hynny yw, En-gedi.” 3 Cododd hynny ofn ar Jehosaffat, ac roedd yn benderfynol o geisio Jehofa. Felly gorchmynnodd i bawb yn Jwda ymprydio. 4 Daeth pobl Jwda at ei gilydd i ofyn am help gan Jehofa; daethon nhw o holl ddinasoedd Jwda i ofyn am arweiniad gan Jehofa.

5 Yna safodd Jehosaffat i fyny yng nghynulleidfa Jwda a Jerwsalem, yn nhŷ Jehofa, o flaen y cwrt newydd, 6 a dywedodd:

“O Jehofa, Duw ein cyndadau, onid wyt ti’n Dduw yn y nefoedd; onid oes gen ti awdurdod dros holl deyrnasoedd y cenhedloedd? Mae gen ti rym a chryfder yn dy law, ac ni all neb sefyll yn dy erbyn di. 7 O ein Duw, oni wnest ti yrru pobl y wlad hon i ffwrdd o flaen dy bobl Israel, ac yna ei rhoi fel eiddo parhaol i ddisgynyddion* dy ffrind Abraham? 8 A gwnaethon nhw setlo yno, ac adeiladu cysegr ar gyfer dy enw di yno, gan ddweud, 9 ‘Os bydd trychineb yn dod arnon ni drwy gleddyf, barnedigaeth niweidiol, pla, neu newyn, gad inni sefyll o flaen y tŷ hwn ac o dy flaen di (oherwydd mae dy enw di yn y tŷ hwn) a galw arnat ti am help yn ein helbul, yna plîs gwranda arnon ni a’n hachub ni.’ 10 Nawr edrycha, mae dynion Ammon, Moab, ac ardal fynyddig Seir yn dod, y rhai gwnest ti rwystro Israel rhag ymosod arnyn nhw pan ddaethon nhw allan o wlad yr Aifft. Gwnaeth Israel droi i ffwrdd oddi wrthyn nhw a pheidio â’u dinistrio nhw. 11 Ond maen nhw’n talu’n ôl inni drwy ddod i mewn i’n gyrru ni allan o’r wlad gwnest ti ei rhoi inni fel etifeddiaeth. 12 O ein Duw, oni wnei di eu cosbi nhw? Oherwydd does gynnon ni ddim y nerth i wrthsefyll y dyrfa fawr hon sy’n dod yn ein herbyn ni, a dydyn ni ddim yn gwybod beth dylen ni ei wneud, ond rydyn ni’n edrych tuag atat ti.”

13 Yn y cyfamser, roedd pobl Jwda i gyd, gan gynnwys eu rhai bach, eu gwragedd, a’u plant, yn sefyll o flaen Jehofa.

14 Yna, yng nghanol y gynulleidfa, daeth ysbryd Jehofa ar Jehasiel, mab Sechareia, mab Benaia, mab Jeiel, mab Mataneia, y Lefiad o blith meibion Asaff. 15 Dywedodd: “Talwch sylw, Jwda i gyd, a chi bobl Jerwsalem, a’r Brenin Jehosaffat! Dyma mae Jehofa yn ei ddweud wrthoch chi, ‘Peidiwch ag ofni na dychryn oherwydd y dyrfa fawr hon, oherwydd brwydr Duw yw hon, nid eich brwydr chi. 16 Ewch i lawr yn eu herbyn nhw yfory. Byddan nhw’n dod i fyny drwy fwlch Sis, a byddwch chi’n dod o hyd iddyn nhw ym mhen y dyffryn* yn agos i anialwch Jeruel. 17 Ni fydd rhaid ichi ymladd yn y frwydr hon. Safwch yn llonydd yn eich lle, a byddwch yn gweld achubiaeth Jehofa ar eich rhan.* O Jwda a Jerwsalem, peidiwch ag ofni na dychryn. Ewch allan yn eu herbyn nhw yfory, a bydd Jehofa gyda chi.’”

18 Ar unwaith, ymgrymodd Jehosaffat yn isel â’i wyneb i’r llawr, a syrthiodd Jwda gyfan a phobl Jerwsalem o flaen Jehofa i addoli Jehofa. 19 Yna dyma’r Lefiaid a oedd yn ddisgynyddion i’r Cohathiaid a’r Corahiaid yn codi i foli Jehofa, Duw Israel, nerth eu lleisiau.

20 Codon nhw’n gynnar y bore wedyn a mynd allan i anialwch Tecoa. Wrth iddyn nhw fynd allan, safodd Jehosaffat a dweud: “Gwrandewch arna i, O Jwda a chi bobl Jerwsalem! Rhowch ffydd yn Jehofa eich Duw, fel y byddwch chi’n gallu sefyll yn gadarn.* Rhowch ffydd yn ei broffwydi, a byddwch chi’n llwyddiannus.”

21 Ar ôl iddo ymgynghori â’r bobl, penododd ddynion i fynd allan o flaen y dynion arfog i ganu i Jehofa a’i foli mewn dillad sanctaidd, gan ddweud: “Diolchwch i Jehofa, oherwydd mae ei gariad ffyddlon yn dragwyddol.”

22 Pan ddechreuon nhw ganu mawl yn llawen, trefnodd Jehofa ymosodiad dirybudd yn erbyn dynion Ammon, Moab, ac ardal fynyddig Seir a oedd yn ymosod ar Jwda, a dyma nhw’n taro ei gilydd i lawr. 23 Trodd yr Ammoniaid a’r Moabiaid yn erbyn pobl ardal fynyddig Seir er mwyn eu lladd nhw a’u dinistrio nhw; ac unwaith iddyn nhw orffen â phobl Seir, dyma nhw’n troi ar ei gilydd.

24 Ond pan ddaeth Jwda at dŵr gwylio yr anialwch ac edrych ar y dyrfa, gwelson nhw’r holl gyrff oedd wedi syrthio i’r ddaear; doedd neb wedi goroesi. 25 Felly daeth Jehosaffat a’i bobl i’w hysbeilio nhw, a daethon nhw o hyd i lawer iawn o nwyddau, dillad, a phethau gwerthfawr, gan gymryd cymaint ag yr oedden nhw’n gallu ei gario. Cymerodd dri diwrnod i gasglu’r holl ysbail, oherwydd bod ’na gymaint ohono. 26 Ar y pedwerydd diwrnod dyma nhw’n casglu at ei gilydd yn Nyffryn* Beracha er mwyn moli* Jehofa. Dyna pam rhoddon nhw’r enw Dyffryn Beracha* ar y lle hwnnw—a dyna ei enw hyd heddiw.

27 Yna aeth holl ddynion Jwda a Jerwsalem, gyda Jehosaffat yn eu harwain nhw, yn ôl i Jerwsalem. Roedden nhw’n llawenhau oherwydd bod Jehofa wedi rhoi buddugoliaeth iddyn nhw dros eu gelynion. 28 Felly daethon nhw i mewn i Jerwsalem gydag offerynnau llinynnol, telynau, a thrwmpedi, a mynd i dŷ Jehofa. 29 A daeth ofn Duw ar yr holl deyrnasoedd pan glywson nhw fod Jehofa wedi brwydro yn erbyn gelynion Israel. 30 Felly cafodd teyrnas Jehosaffat heddwch, a pharhaodd ei Dduw i roi llonydd iddo oddi wrth bawb o’i gwmpas.

31 A pharhaodd Jehosaffat i deyrnasu dros Jwda. Roedd yn 35 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 25 mlynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Asuba ferch Silhi. 32 Parhaodd i efelychu esiampl ei dad Asa heb wyro, a gwnaeth beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa. 33 Ond roedd yr uchelfannau yn dal i fod yno, a doedd y bobl ddim eto wedi paratoi eu calonnau ar gyfer addoli Duw eu cyndadau.

34 Ynglŷn â gweddill hanes Jehosaffat, o’r dechrau i’r diwedd, mae hynny wedi ei ysgrifennu ymhlith geiriau Jehu fab Hanani, a gafodd eu cynnwys yn Llyfr Brenhinoedd Israel. 35 Ar ôl hynny, gwnaeth Jehosaffat brenin Jwda gytundeb ag Ahaseia brenin Israel, a oedd yn ddyn drwg. 36 Felly dyma nhw’n gweithio gyda’i gilydd i wneud llongau i fynd i Tarsis, a’u hadeiladu yn Esion-geber. 37 Ond proffwydodd Elieser fab Dodafahu o Maresa yn erbyn Jehosaffat, gan ddweud: “Am dy fod ti wedi gwneud cytundeb ag Ahaseia, bydd Jehofa yn difetha dy waith.” Felly, cafodd y llongau eu dryllio, ac roedden nhw’n methu mynd i Tarsis.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu