LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Cronicl 32
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Cronicl

      • Senacherib yn bygwth Jerwsalem (1-8)

      • Senacherib yn herio Jehofa (9-19)

      • Angel yn taro byddin Asyria (20-23)

      • Salwch a balchder Heseceia (24-26)

      • Llwyddiant Heseceia a’i farwolaeth (27-33)

2 Cronicl 32:1

Troednodiadau

  • *

    Neu “gwarchae ar y.”

2 Cronicl 32:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “Milo.” Term Hebraeg sy’n golygu “llenwi.”

2 Cronicl 32:6

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “a siarad â’u calon.”

2 Cronicl 32:8

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “Gydag ef y mae braich gnawdol.”

2 Cronicl 32:21

Troednodiadau

  • *

    Neu “i deml.”

2 Cronicl 32:25

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    3/2017, t. 26

2 Cronicl 32:31

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    3/2017, t. 26

2 Cronicl 32:33

Troednodiadau

  • *

    Neu “Yna gorweddodd Heseceia i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
  • 32
  • 33
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Cronicl 32:1-33

Ail Cronicl

32 Ar ôl i Heseceia wneud yr holl bethau hyn yn ffyddlon, daeth Senacherib brenin Asyria i ymosod ar Jwda. Gwnaeth ef amgylchynu’r* dinasoedd caerog, ac roedd yn benderfynol o dorri drwodd a’u cipio nhw.

2 Pan welodd Heseceia fod Senacherib wedi dod gyda’r bwriad o ryfela yn erbyn Jerwsalem, 3 penderfynodd, ar ôl trafod gyda’i dywysogion a’i filwyr, gau’r ffynhonnau y tu allan i’r ddinas, a gwnaethon nhw ei gefnogi. 4 Gwnaeth llawer o bobl gasglu at ei gilydd, a chau’r holl ffynhonnau, a stopio llif y nant a oedd yn llifo trwy’r wlad, gan ddweud: “Pam dylai brenhinoedd Asyria ddod a chael digonedd o ddŵr?”

5 Ar ben hynny, aeth ati yn benderfynol i ailadeiladu’r wal gyfan a oedd wedi torri, a chodi tyrau arni, ac adeiladodd wal arall ar y tu allan. Trwsiodd hefyd Fryn* Dinas Dafydd, ac fe wnaeth gynhyrchu nifer mawr o arfau a tharianau. 6 Yna penododd benaethiaid milwrol dros y bobl a’u casglu nhw yn y sgwâr cyhoeddus wrth ymyl giât y ddinas a’u hannog nhw,* drwy ddweud: 7 “Byddwch yn ddewr ac yn gryf. Peidiwch ag ofni na dychryn oherwydd brenin Asyria a’r fyddin fawr sydd gydag ef, oherwydd mae ’na fwy gyda ni nag sydd gyda nhw. 8 Mae ef yn dibynnu ar gryfder dynol,* ond mae Jehofa ein Duw gyda ni i’n helpu ni ac i frwydro droston ni.” A chafodd y bobl eu cryfhau gan eiriau Heseceia brenin Jwda.

9 Ar ôl hyn, tra oedd Senacherib brenin Asyria yn Lachis gyda’i holl fyddin, anfonodd ei weision i Jerwsalem, at Heseceia brenin Jwda ac at holl bobl Jwda yn Jerwsalem, gan ddweud:

10 “Dyma beth mae Senacherib brenin Asyria yn ei ddweud, ‘Pwy rydych chi’n ei drystio, fel eich bod chi’n aros yn Jerwsalem tra ei bod hi wedi ei hamgylchynu? 11 Onid ydy Heseceia yn eich camarwain chi ac yn eich condemnio chi i farw o newyn a syched, drwy ddweud: “Bydd Jehofa ein Duw yn ein hachub ni o law brenin Asyria”? 12 Onid Heseceia yw’r un a gafodd wared ar uchelfannau ac allorau eich Duw, ac yna dweud wrth Jwda a Jerwsalem: “Dylech chi ymgrymu o flaen un allor a’i defnyddio i wneud i fwg godi oddi ar eich aberthau”? 13 Onid ydych chi’n gwybod beth wnes i a fy nghyndadau i holl bobl y gwledydd eraill? A oedd duwiau’r cenhedloedd hynny yn gallu achub eu tiroedd o fy llaw? 14 Pa un o holl dduwiau’r cenhedloedd y gwnaeth fy nghyndadau eu dinistrio a oedd yn gallu achub ei bobl o fy llaw? Felly sut gall eich Duw eich achub chi o fy llaw? 15 Nawr peidiwch â gadael i Heseceia eich twyllo chi a’ch camarwain chi fel hyn! Peidiwch â rhoi ffydd ynddo, oherwydd doedd dim un duw o unrhyw wlad na theyrnas yn gallu achub ei bobl o fy llaw i ac o law fy nghyndadau. Felly does gan eich Duw chi ddim gobaith o’ch achub chi o fy llaw!’”

16 Dywedodd ei weision fwy byth yn erbyn Jehofa y gwir Dduw ac yn erbyn Heseceia ei was. 17 Hefyd ysgrifennodd ef lythyrau i sarhau Jehofa, Duw Israel, ac i siarad yn ei erbyn drwy ddweud: “Yn union fel roedd duwiau’r cenhedloedd yn methu achub eu pobl o fy llaw, ni fydd Duw Heseceia yn gallu achub ei bobl o fy llaw.” 18 Dalion nhw ati i weiddi’n uchel ar bobl Jerwsalem a oedd ar y wal, a hynny yn iaith yr Iddewon, er mwyn codi ofn arnyn nhw a’u dychryn nhw, ac er mwyn cipio’r ddinas. 19 Siaradon nhw yn erbyn Duw Jerwsalem yn yr un ffordd ag yr oedden nhw’n siarad yn erbyn duwiau pobl y ddaear, sydd wedi cael eu creu gan ddynion. 20 Ond parhaodd y Brenin Heseceia a’r proffwyd Eseia fab Amos i weddïo am hyn ac i erfyn ar Dduw yn y nefoedd am help.

21 Yna anfonodd Jehofa angel i gael gwared ar bob milwr cryf, pob arweinydd, a phob pennaeth yng ngwersyll brenin Asyria, fel bod rhaid i’r brenin fynd yn ôl i’w wlad ei hun mewn cywilydd. Yn nes ymlaen, aeth i mewn i dŷ* ei dduw, ac yno fe wnaeth rhai o’i feibion ei hun ei daro i lawr â’r cleddyf. 22 Felly gwnaeth Jehofa achub Heseceia a phobl Jerwsalem o law Senacherib brenin Asyria, ac o law pob gelyn arall, a rhoddodd lonydd iddyn nhw oddi wrth bawb o’u cwmpas. 23 Daeth llawer o bobl â rhoddion i Jehofa yn Jerwsalem a phethau gwerthfawr i Heseceia brenin Jwda, ac roedd y cenhedloedd i gyd yn ei barchu’n fawr ar ôl hynny.

24 Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia mor sâl nes ei fod ar fin marw. Yna, gweddïodd ar Jehofa a wnaeth ei ateb a rhoi arwydd iddo. 25 Ond trodd calon Heseceia yn falch, a doedd ef ddim yn gwerthfawrogi’r holl bethau da a oedd wedi cael eu gwneud ar ei gyfer, felly daeth dicter Duw yn ei erbyn ef ac yn erbyn Jwda a Jerwsalem. 26 Ond dangosodd Heseceia ostyngeiddrwydd a stopiodd fod yn falch, ef a phobl Jerwsalem. Felly, ni ddaeth dicter Jehofa yn eu herbyn nhw yn nyddiau Heseceia.

27 Daeth Heseceia yn hynod o gyfoethog ac anrhydeddus, ac adeiladodd storfeydd iddo’i hun ar gyfer ei arian, ei aur, ei emau gwerthfawr, ei olew balm, ei darianau, ac ar gyfer ei holl bethau gwerthfawr. 28 Adeiladodd hefyd storfeydd ar gyfer grawn, gwin newydd, ac olew, yn ogystal â llefydd ar gyfer pob math o anifeiliaid gwahanol a llefydd ar gyfer y preiddiau. 29 Adeiladodd ddinasoedd iddo’i hun, a chasglodd nifer mawr o anifeiliaid, defaid, a gwartheg iddo’i hun, oherwydd rhoddodd Duw lawer iawn o bethau iddo. 30 Heseceia wnaeth gau tarddiad uchaf dyfroedd Gihon, a’u cyfeirio nhw i lawr i’r gorllewin at Ddinas Dafydd, ac roedd Heseceia yn llwyddiannus ym mhopeth a wnaeth. 31 Ond, pan gafodd negeswyr tywysogion Babilon eu hanfon i ofyn iddo am yr arwydd a oedd wedi digwydd yn y wlad, gwnaeth y gwir Dduw ei adael ar ei ben ei hun a’i roi ar brawf, er mwyn dysgu popeth a oedd yn ei galon.

32 Ynglŷn â gweddill hanes Heseceia a’i weithredoedd o gariad ffyddlon, mae’r cwbl wedi ei ysgrifennu yng ngweledigaeth y proffwyd Eseia fab Amos, yn Llyfr Brenhinoedd Jwda ac Israel. 33 Yna bu farw Heseceia,* a chafodd ei gladdu ar y bryn a oedd yn arwain at feddau meibion Dafydd; a gwnaeth Jwda i gyd a phobl Jerwsalem ei anrhydeddu ar ôl iddo farw, a daeth ei fab Manasse yn frenin yn ei le.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu