Yn Ôl Luc
17 Yna dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Mae’r pethau sy’n achosi i bobl faglu yn bendant yn mynd i ddigwydd. Serch hynny, gwae’r sawl sy’n gyfrifol am wneud y pethau hynny! 2 Byddai’n well iddo petai maen melin yn cael ei roi o amgylch ei wddf ac yntau’n cael ei daflu i mewn i’r môr nag iddo achosi i un o’r rhai bychain hyn gael eu baglu. 3 Gwyliwch eich hunain. Os yw dy frawd yn pechu, cerydda ef, ac os yw’n edifarhau, maddau iddo. 4 Hyd yn oed os yw’n pechu saith gwaith y diwrnod yn dy erbyn di ac mae’n dod yn ôl atat ti saith gwaith, gan ddweud, ‘Rydw i’n edifarhau,’ mae’n rhaid iti faddau iddo.”
5 Nawr, dywedodd y disgyblion wrth yr Arglwydd: “Rho fwy o ffydd inni.” 6 Yna dywedodd yr Arglwydd: “Petai gynnoch chi ffydd gymaint â hedyn mwstard, fe fyddech chi’n dweud wrth y forwydden hon, ‘Cod dy wreiddiau a phlanna dy hun yn y môr!’ ac fe fyddai hi’n ufuddhau ichi.
7 “Pa un ohonoch chi sydd â chaethwas yn aredig neu’n bugeilio a fydd yn dweud wrtho pan fydd yn dod i mewn o’r cae, ‘Tyrd yma ar unwaith a bwyta wrth y bwrdd’? 8 Yn hytrach, oni fydd yn dweud wrtho, ‘Dos i baratoi rhywbeth ar gyfer fy swper, a gwisga ffedog a gweina arna i nes imi orffen bwyta ac yfed, ac wedyn fe gei di fwyta ac yfed’? 9 A fydd ef yn diolch i’r caethwas am wneud yr hyn a aseiniwyd iddo? 10 Yn yr un modd, ar ôl ichi wneud yr holl bethau a aseiniwyd ichi, dywedwch: ‘Caethweision da i ddim ydyn ni. Yr hyn a wnaethon ni ydy’r hyn a ddylen ni fod wedi ei wneud.’”
11 Tra oedd ef ar ei ffordd i Jerwsalem, roedd yn pasio rhwng Samaria a Galilea. 12 Ac wrth iddo fynd i mewn i ryw bentref, daeth deg o ddynion gwahanglwyfus i gyfarfod ag ef, ond roedden nhw’n sefyll yn bell i ffwrdd oddi wrtho. 13 A chodon nhw eu lleisiau arno: “Iesu, Athro, bydda’n drugarog wrthon ni!” 14 Pan welodd ef nhw, dywedodd wrthyn nhw: “Ewch i’ch dangos eich hunain i’r offeiriaid.” Yna tra oedden nhw ar eu ffordd, fe gawson nhw eu glanhau. 15 Dyma un ohonyn nhw, pan welodd ei fod wedi cael ei iacháu, yn troi yn ei ôl, gan ogoneddu Duw â llais uchel. 16 Ac fe syrthiodd ar ei wyneb wrth draed Iesu, gan ddiolch iddo. Ar ben hynny, Samariad oedd y dyn. 17 Atebodd Iesu: “Oni chafodd y deg i gyd eu glanhau? Ble, felly, mae’r naw arall? 18 Ai’r dyn hwn o genedl arall oedd yr unig un i droi yn ôl i roi gogoniant i Dduw?” 19 Yna dywedodd ef wrtho: “Cod a dos ar dy ffordd; mae dy ffydd wedi dy iacháu di.”
20 Ond pan ofynnodd y Phariseaid wrtho pa bryd roedd Teyrnas Dduw yn dod, atebodd yntau: “Dydy Teyrnas Dduw ddim yn dod mewn ffordd sy’n amlwg i bawb; 21 ni fydd pobl yn dweud chwaith, ‘Edrychwch fan yma!’ neu, ‘Edrychwch fan acw!’ Oherwydd edrychwch! mae Teyrnas Dduw yn eich plith chi.”
22 Yna dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Mae dyddiau’n dod pan fyddwch chi’n dymuno gweld un o ddyddiau Mab y dyn, ond fyddwch chi ddim yn ei weld. 23 A bydd pobl yn dweud wrthoch chi, ‘Edrychwch fan acw!’ neu, ‘Edrychwch fan hyn!’ Peidiwch â mynd allan na rhedeg ar eu holau nhw. 24 Oherwydd yn union fel mae mellt yn fflachio o un rhan o’r nef i’r llall, felly y bydd Mab y dyn yn ei ddydd ef. 25 Yn gyntaf, fodd bynnag, mae’n rhaid iddo ddioddef llawer a chael ei wrthod gan y genhedlaeth hon. 26 Ar ben hynny, yn union fel yr oedd hi yn nyddiau Noa, felly y bydd hi yn nyddiau Mab y dyn: 27 roedden nhw’n bwyta, roedden nhw’n yfed, roedd dynion a merched* yn priodi hyd nes y diwrnod hwnnw pan aeth Noa i mewn i’r arch, ac fe ddaeth y Dilyw a’u dinistrio nhw i gyd. 28 Yn yr un modd, yn union fel roedd hi yn nyddiau Lot: roedden nhw’n bwyta, roedden nhw’n yfed, roedden nhw’n prynu, roedden nhw’n gwerthu, roedden nhw’n plannu, roedden nhw’n adeiladu. 29 Ond y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, glawiodd tân a sylffwr o’r nef a’u dinistrio nhw i gyd. 30 Dyna’n union sut y bydd hi y diwrnod pan fydd Mab y dyn yn cael ei ddatgelu.
31 “Y dydd hwnnw mae’n rhaid i’r person sydd ar ben y tŷ, ond sydd ag eiddo yn y tŷ, beidio â mynd i lawr i nôl y pethau hyn, ac yn yr un modd, ni ddylai’r person yn y cae droi yn ei ôl. 32 Cofiwch wraig Lot. 33 Bydd pwy bynnag sy’n ceisio achub ei fywyd yn ei golli, ond bydd pwy bynnag sy’n colli ei fywyd yn ei achub. 34 Rydw i’n dweud wrthoch chi, y nos honno bydd dau mewn un gwely; bydd un yn cael ei gymryd, ond bydd y llall yn cael ei adael. 35 Bydd dwy ddynes* yn malu gwenith wrth yr un felin; bydd un yn cael ei chymryd, ond bydd y llall yn cael ei gadael.” 36 —— 37 Felly, dyma nhw’n ei ateb drwy ddweud wrtho: “Ble, Arglwydd?” Meddai ef wrthyn nhw: “Lle bydd y corff, yno hefyd y bydd yr eryrod yn heidio at ei gilydd.”