LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Cronicl 27
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Cronicl

      • Swyddogion yng ngwasanaeth y brenin (1-34)

1 Cronicl 27:1

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “Roedden nhw’n dod i mewn ac yn mynd allan.”

1 Cronicl 27:24

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “ac roedd llid ar Israel.”

1 Cronicl 27:33

Troednodiadau

  • *

    Neu “yn gynghorwr.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    3/2017, t. 29

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
  • 32
  • 33
  • 34
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Cronicl 27:1-34

Cyntaf Cronicl

27 Dyma’r grwpiau o Israeliaid a oedd ym myddin y brenin. Roedd y grwpiau hyn yn cynnwys y pennau teuluoedd, y penaethiaid ar filoedd ac ar gannoedd, a’r swyddogion a oedd yn gofalu am y grwpiau hynny. Roedden nhw’n cymryd eu tro* bob mis drwy gydol y flwyddyn, ac roedd ’na 24,000 ym mhob grŵp.

2 Roedd Jasobeam fab Sabdiel yn gyfrifol am y grŵp cyntaf, yn y mis cyntaf, ac roedd ’na 24,000 yn ei grŵp. 3 O blith meibion Peres, ef oedd yn ben ar holl benaethiaid y grwpiau a oedd wedi eu haseinio i wasanaethu yn ystod y mis cyntaf. 4 Dodai yr Ahohiad a oedd yn gyfrifol am grŵp yr ail fis, Micloth oedd yr arweinydd, ac roedd ’na 24,000 yn ei grŵp. 5 Pennaeth y trydydd grŵp, a oedd wedi ei aseinio i wasanaethu yn ystod y trydydd mis, oedd Benaia fab Jehoiada, y prif offeiriad, ac roedd ’na 24,000 yn ei grŵp. 6 Roedd y Benaia hwn yn filwr dewr ymhlith y tri deg, ac roedd yn gyfrifol am y tri deg, ac roedd ei fab Amisabad dros ei grŵp. 7 Pennaeth y pedwerydd grŵp, ar gyfer y pedwerydd mis, oedd Asahel, brawd Joab, a daeth ei fab Sebadeia ar ei ôl, ac roedd ’na 24,000 yn ei grŵp. 8 Y pumed pennaeth, ar gyfer y pumed mis, oedd Samuth yr Israhiad, ac roedd ’na 24,000 yn ei grŵp. 9 Pennaeth y chweched grŵp, ar gyfer y chweched mis, oedd Ira fab Icces y Tecoiad, ac roedd ’na 24,000 yn ei grŵp. 10 Pennaeth y seithfed grŵp, ar gyfer y seithfed mis, oedd Heles y Peloniad, un o ddisgynyddion Effraim, ac roedd ’na 24,000 yn ei grŵp. 11 Pennaeth yr wythfed grŵp, ar gyfer yr wythfed mis, oedd Sibbechai yr Husathiad, un o ddisgynyddion Sera, ac roedd ’na 24,000 yn ei grŵp. 12 Pennaeth y nawfed grŵp, ar gyfer y nawfed mis, oedd Abi-eser yr Anathothiad, un o ddisgynyddion Benjamin, ac roedd ’na 24,000 yn ei grŵp. 13 Pennaeth y degfed grŵp, ar gyfer y degfed mis, oedd Maharai y Netoffathiad, un o ddisgynyddion Sera, ac roedd ’na 24,000 yn ei grŵp. 14 Pennaeth yr unfed grŵp ar ddeg, ar gyfer yr unfed mis ar ddeg, oedd Benaia y Pirathoniad, un o ddisgynyddion Effraim, ac roedd ’na 24,000 yn ei grŵp. 15 Pennaeth y deuddegfed grŵp ar gyfer y deuddegfed mis, oedd Heldai y Netoffathiad, un o ddisgynyddion Othniel, ac roedd ’na 24,000 yn ei grŵp.

16 Y rhain oedd arweinwyr llwythau Israel: O blith y Reubeniaid, Elieser fab Sicri oedd yr arweinydd; o blith llwyth Simeon, Seffatia fab Maacha; 17 o blith llwyth Lefi, Hasabeia fab Cemuel; o blith disgynyddion Aaron, Sadoc; 18 o blith llwyth Jwda, Elihu, un o frodyr Dafydd; o blith llwyth Issachar, Omri fab Michael; 19 o blith llwyth Sabulon, Ismaia fab Obadeia; o blith llwyth Nafftali, Jerimoth fab Asriel; 20 o blith llwyth Effraim, Hosea fab Asaseia; o blith hanner llwyth Manasse, Joel fab Pedaia; 21 o blith hanner llwyth Manasse yn Gilead, Ido fab Sechareia; o blith llwyth Benjamin, Jasiel fab Abner; 22 o blith llwyth Dan, Asareel fab Jeroham. Y rhain oedd tywysogion llwythau Israel.

23 Ni wnaeth Dafydd gyfri’r rhai a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n iau, oherwydd roedd Jehofa wedi addo gwneud Israel mor niferus â sêr y nefoedd. 24 Dechreuodd Joab fab Seruia wneud cyfrifiad, ond wnaeth ef ddim gorffen; a daeth dicter Duw yn erbyn Israel* oherwydd hyn, ac ni chafodd y rhif ei gynnwys yn llyfr hanes y Brenin Dafydd.

25 Roedd Asmafeth fab Adiel yn gyfrifol am drysordai’r brenin. Roedd Jonathan fab Usseia yn gyfrifol am y stordai yn y caeau, yn y dinasoedd, yn y pentrefi, ac yn y tyrau. 26 Roedd Esri fab Celub yn gyfrifol am y gweithwyr yn y caeau a oedd yn trin y tir. 27 Simei y Ramathiad oedd yn gyfrifol am y gwinllannoedd; a Sabdi y Siffmiad oedd yn gyfrifol am gynnyrch y gwinllannoedd ar gyfer y cyflenwad o win. 28 Roedd Baal-hanan y Gederiad yn gyfrifol am y coed olewydd a’r coed sycamor yn y Seffela; ac roedd Joas yn gyfrifol am y cyflenwad o olew. 29 Roedd Sitrai y Saroniad yn gyfrifol am y gwartheg a oedd yn pori yn Saron, ac roedd Saffat fab Adlai yn gyfrifol am y gwartheg yn nhiroedd gwastad y dyffrynnoedd. 30 Roedd Obil yr Ismaeliad yn gyfrifol am y camelod; ac roedd Jehdeia y Meronothiad yn gyfrifol am yr asennod. 31 Roedd Jasis yr Hagariad yn gyfrifol am y preiddiau. Roedd y rhain i gyd yn benaethiaid ar eiddo y Brenin Dafydd.

32 Roedd Jonathan, nai Dafydd, yn gynghorwr, yn ddyn deallus, ac yn ysgrifennydd, ac roedd Jehiel fab Hachmoni yn edrych ar ôl meibion y brenin. 33 Roedd Ahitoffel yn gynghorwr i’r brenin, ac roedd Husai yr Arciad yn ffrind* i’r brenin. 34 Ar ôl Ahitoffel roedd Jehoiada fab Benaia, ac Abiathar; a Joab oedd pennaeth byddin y brenin.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu