LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Genesis 40
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Genesis

      • Joseff yn dehongli breuddwydion carcharorion (1-19)

        • ‘Duw sy’n esbonio breuddwydion’ (8)

      • Gwledd pen-blwydd Pharo (20-23)

Genesis 40:1

Troednodiadau

  • *

    Neu “trulliad,” un o swyddogion y llys brenhinol a oedd yn tywallt gwin neu ddiodydd eraill i’r brenin.

Genesis 40:14

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    4/2017, t. 21

Genesis 40:15

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “y pydew; y twll.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2023, t. 16

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    4/2017, t. 21

Genesis 40:20

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 44

Genesis 40:22

Troednodiadau

  • *

    Hynny yw, ar ôl torri ei ben i ffwrdd.

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Genesis 40:1-23

Genesis

40 Ar ôl y pethau hyn, dyma brif was gweini* brenin yr Aifft, a’r prif bobydd, yn pechu yn erbyn eu harglwydd, brenin yr Aifft. 2 Felly gwylltiodd Pharo yn erbyn ei ddau swyddog, y prif was gweini a’r prif bobydd, 3 a’u carcharu nhw yn nhŷ pennaeth y gwarchodlu, lle roedd Joseff yn garcharor. 4 Yna gwnaeth pennaeth y gwarchodlu benodi Joseff i fod gyda nhw ac i ofalu amdanyn nhw, ac arhoson nhw yn y carchar am beth amser.

5 Cafodd gwas gweini a phobydd brenin yr Aifft, a oedd yn y carchar, freuddwydion ar yr un noson, ac roedd gan bob breuddwyd ei hystyr ei hun. 6 Y bore wedyn, pan ddaeth Joseff i mewn a’u gweld nhw, roedden nhw’n edrych yn ddigalon. 7 Felly gofynnodd i swyddogion y Pharo oedd wedi eu carcharu gydag ef: “Pam mae eich wynebau mor drist heddiw?” 8 Gyda hynny, dywedon nhw wrtho: “Rydyn ni’n dau wedi cael breuddwyd, ond does ’na neb i esbonio’r ystyr inni.” Dywedodd Joseff wrthyn nhw: “Dim ond Duw sy’n gallu esbonio ystyr breuddwydion. Plîs, dywedwch wrtho i beth oedd y breuddwydion.”

9 Felly adroddodd y prif was gweini ei freuddwyd wrth Joseff, gan ddweud wrtho: “Yn fy mreuddwyd, roedd ’na winwydden o fy mlaen i. 10 Ac ar y winwydden, roedd ’na dri brigyn, ac fel roedd y winwydden yn blaguro, dechreuodd flodeuo, a dyma ei sypiau o rawnwin yn aeddfedu. 11 Ac roedd cwpan Pharo yn fy llaw, a chymerais y grawnwin a gwasgu eu sudd i mewn i gwpan Pharo. Ar ôl hynny, rhoddais y cwpan yn llaw Pharo.” 12 Yna dywedodd Joseff wrtho: “Dyma’r ystyr: Tri diwrnod ydy’r tri brigyn. 13 Mewn tri diwrnod, bydd Pharo yn dod â ti allan, yn rhoi dy swydd yn ôl iti, a byddi di’n rhoi cwpan Pharo yn ei law fel roeddet ti’n gwneud o’r blaen pan oeddet ti’n was gweini iddo. 14 Er hynny, mae’n rhaid iti fy nghofio i pan fydd pethau’n mynd yn dda iti. Plîs dangosa gariad ffyddlon ata i, a sôn amdana i wrth Pharo, er mwyn imi fedru dod allan o’r lle yma. 15 A dweud y gwir, ces i fy nghipio o wlad yr Hebreaid, a dydw i ddim wedi gwneud unrhyw beth yma i haeddu cael fy rhoi yn y carchar.”*

16 Pan sylweddolodd y prif bobydd fod ystyr y freuddwyd yn un ffafriol, dywedodd wrth Joseff: “Ces innau hefyd freuddwyd, ac roedd ’na dair basged o fara gwyn ar fy mhen, 17 ac yn y fasged uchaf, roedd ’na bob math o fwyd wedi ei bobi ar gyfer Pharo, ac roedd ’na adar yn eu bwyta nhw allan o’r fasged oedd ar fy mhen i.” 18 Yna atebodd Joseff, “Dyma’r ystyr: Tri diwrnod ydy’r tair basged. 19 Mewn tri diwrnod, bydd Pharo yn torri dy ben i ffwrdd ac yn dy hongian ar stanc, a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd oddi ar dy gorff.”

20 Nawr y trydydd dydd oedd pen-blwydd Pharo, a threfnodd wledd ar gyfer ei holl weision, a dyma’n dod â’r prif was gweini a’r prif bobydd allan o flaen ei weision. 21 A rhoddodd swydd y prif was gweini yn ôl iddo, a pharhaodd hwnnw i weini diodydd i Pharo. 22 Ond dyma’n hongian* y prif bobydd, yn union fel roedd Joseff wedi ei egluro iddyn nhw. 23 Ond, ni wnaeth y prif was gweini gofio am Joseff; yn hytrach, anghofiodd yn llwyr amdano.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu