Numeri
6 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 2 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Os ydy dyn neu ddynes* yn tyngu llw arbennig i fyw fel Nasiread* i Jehofa, 3 dylai gadw draw oddi wrth win a diodydd alcoholig eraill. Ni ddylai yfed finegr gwin na finegr unrhyw beth alcoholig. Ni ddylai yfed unrhyw ddiod sydd wedi ei gwneud o rawnwin na bwyta grawnwin ffres, na grawnwin sydd wedi eu sychu. 4 Holl ddyddiau ei adduned fel Nasiread, ni ddylai fwyta unrhyw beth sy’n dod o’r winwydden, nid y grawnwin anaeddfed na hyd yn oed y crwyn.
5 “‘Ni ddylai dorri ei wallt* am holl ddyddiau ei adduned i fod yn Nasiread. Dylai ef aros yn sanctaidd drwy adael i’w wallt dyfu tra ei fod wedi ei neilltuo i Jehofa. 6 Tra ei fod wedi ei neilltuo i Jehofa, ar hyd y cyfnod hwnnw, ni ddylai fynd yn agos at rywun* sydd wedi marw. 7 Hyd yn oed os ydy ei dad, ei fam, ei frawd, neu ei chwaer yn marw, ni ddylai ei wneud ei hun yn aflan, oherwydd mae ei wallt yn arwydd o’i adduned i fod yn Nasiread i Dduw.
8 “‘Mae’n sanctaidd i Jehofa holl ddyddiau ei adduned i fod yn Nasiread. 9 Ond petai rhywun yn syrthio’n farw wrth ei ymyl gan wneud y Nasiread yn aflan tra bod ei wallt yn dangos ei adduned i Dduw, mae’n rhaid iddo siafio ei ben ar y diwrnod y mae ef yn cael ei buro. Dylai ef siafio ar y seithfed diwrnod. 10 Ac ar yr wythfed diwrnod, dylai ef ddod â dwy durtur neu ddwy golomen ifanc at yr offeiriad wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 11 Bydd yr offeiriad yn paratoi un fel offrwm dros bechod a’r llall fel offrwm llosg er mwyn iddo gael maddeuant am ei bechod o fynd yn agos at gorff marw. Yna, bydd rhaid iddo sancteiddio ei ben* ar y diwrnod hwnnw. 12 Ond bydd rhaid iddo gychwyn ei ddyddiau fel Nasiread i Jehofa unwaith eto, a bydd rhaid iddo ddod â hwrdd* ifanc sy’n llai na blwydd oed fel offrwm dros euogrwydd. Ond, fydd ei ddyddiau blaenorol fel Nasiread ddim yn cyfri, oherwydd fe ddaeth yn aflan tra oedd yn Nasiread.
13 “‘Nawr dyma’r gyfraith ynglŷn â’r Nasiread: Pan fydd wedi cwblhau ei gyfnod o fod yn Nasiread, bydd ef yn dod at fynedfa pabell y cyfarfod. 14 Yna, bydd rhaid iddo gyflwyno ei offrwm i Jehofa: un hwrdd* ifanc di-nam sy’n llai na blwydd oed fel offrwm llosg, un oen fenyw ddi-nam sy’n llai na blwydd oed fel offrwm dros bechod, un hwrdd* di-nam fel aberth heddwch, 15 basged o dorthau croyw siâp modrwy wedi eu gwneud o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew, bara croyw tenau sydd wedi ei daenu ag olew, a’r offrwm grawn a’r offrymau diod. 16 Bydd yr offeiriad yn eu cyflwyno nhw o flaen Jehofa ac yn offrymu ei offrwm dros bechod a’i offrwm llosg. 17 Bydd yn offrymu’r hwrdd* fel aberth heddwch i Jehofa, ynghyd â’r fasged o dorthau croyw, a bydd yr offeiriad yn cyflwyno’r offrwm grawn a’r offrwm diod.
18 “‘Yna, bydd rhaid i’r Nasiread siafio ei ben wrth fynedfa pabell y cyfarfod, a bydd ef yn cymryd y gwallt a dyfodd yn ystod ei adduned fel Nasiread ac yn ei roi ar y tân sydd o dan yr aberth heddwch. 19 Yna dylai’r offeiriad gymryd ysgwydd yr hwrdd* sydd wedi ei ferwi, un dorth groyw siâp modrwy o’r fasged, ac un darn o fara croyw tenau, a’u rhoi nhw yn nwylo’r Nasiread ar ôl iddo siafio’i wallt a oedd yn symbol o’i adduned fel Nasiread. 20 Bydd rhaid i’r offeiriad eu chwifio nhw yn ôl ac ymlaen fel offrwm chwifio o flaen Jehofa. Mae’n rhywbeth sanctaidd i’r offeiriad, ynghyd â brest yr offrwm chwifio a’r goes sydd wedi cael ei chyfrannu. Ar ôl hynny, bydd y Nasiread yn cael yfed gwin.
21 “‘Dyma’r gyfraith ynglŷn â’r Nasiread sy’n tyngu llw: Os yw’n gallu fforddio offrymu rhywbeth i Jehofa sy’n ychwanegol i’r hyn mae’n rhaid iddo ei roi, ac mae’n addo gwneud hynny, mae’n rhaid iddo weithredu yn unol â’i adduned allan o barch tuag at y gyfraith ynglŷn â Nasireaid.’”
22 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 23 “Dyweda wrth Aaron a’i feibion: ‘Dyma’r ffordd y dylech chi fendithio pobl Israel. Dywedwch wrthyn nhw:
24 “Bendith Jehofa arnat ti, a gad iddo dy amddiffyn di.
25 Gad i wyneb Jehofa ddisgleirio arnat ti, a gad iddo ddangos ffafr tuag atat ti.
26 Gad i Jehofa fod yn garedig* tuag atat ti, a rhoi heddwch iti.”’
27 A dylen nhw roi fy enw ar bobl Israel, fel fy mod i’n gallu eu bendithio nhw.”