Numeri
36 Dyma bennau teuluoedd disgynyddion Gilead fab Machir, mab Manasse, o deuluoedd meibion Joseff yn dod at Moses a’r penaethiaid, pennau teuluoedd yr Israeliaid, er mwyn siarad â nhw. 2 Dywedon nhw: “Rhoddodd Jehofa orchymyn i’n harglwydd i ddosbarthu’r wlad fel etifeddiaeth i’r Israeliaid drwy daflu coelbren; a chafodd ein harglwydd orchymyn gan Jehofa i roi etifeddiaeth ein brawd Seloffehad i’w ferched. 3 Petasen nhw’n priodi dynion o un o lwythau eraill Israel, byddai etifeddiaeth y merched* yn cael ei thynnu oddi ar etifeddiaeth ein tadau, a byddai’n cael ei hychwanegu at etifeddiaeth y llwyth y bydden nhw’n dod yn rhan ohono, wedyn bydden ni’n colli allan ar ran o’r etifeddiaeth a gafodd ei rhoi inni drwy daflu coelbren. 4 Nawr pan ddaw Jiwbilî yr Israeliaid, byddai etifeddiaeth y merched* hefyd yn cael ei hychwanegu at etifeddiaeth y llwyth y bydden nhw wedi dod yn rhan ohono, fel byddai eu hetifeddiaeth yn cael ei thynnu o etifeddiaeth llwyth ein tadau.”
5 Yna ar orchymyn Jehofa, dywedodd Moses wrth yr Israeliaid: “Mae’r hyn mae llwyth meibion Joseff yn ei ddweud yn gywir. 6 Dyma beth mae Jehofa wedi ei orchymyn ynglŷn â merched Seloffehad: ‘Gallan nhw briodi pwy bynnag maen nhw eisiau. Ond, dylen nhw briodi rhywun o un o deuluoedd llwyth eu tad. 7 Ni ddylai etifeddiaeth unrhyw un o’r Israeliaid gael ei throsglwyddo o un llwyth i’r llall, oherwydd dylai’r Israeliaid ddal eu gafael ar etifeddiaeth llwyth eu cyndadau. 8 A dylai pob merch sydd ag etifeddiaeth ymysg llwythau Israel briodi un o ddisgynyddion llwyth ei thad, fel bydd yr Israeliaid yn dal eu gafael ar etifeddiaeth eu cyndadau. 9 Ni ddylai etifeddiaeth gael ei throsglwyddo o un llwyth i’r llall, oherwydd dylai pob un o lwythau Israel ddal ei afael ar ei etifeddiaeth ei hun.’”
10 Gwnaeth merched Seloffehad yn union beth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses. 11 Felly dyma Mala, Tirsa, Hogla, Milca, a Noa, merched Seloffehad, yn priodi meibion brodyr eu tad. 12 Daethon nhw’n wragedd i ddynion o deuluoedd Manasse fab Joseff, fel bod eu hetifeddiaeth yn aros yn llwyth teulu eu tad.
13 Dyma’r gorchmynion a’r barnedigaethau a roddodd Jehofa i’r Israeliaid trwy Moses yn anialwch Moab wrth yr Iorddonen gyferbyn â Jericho.