Cyntaf Samuel
25 Ymhen amser bu farw Samuel; a daeth Israel i gyd at ei gilydd i alaru drosto ac i’w gladdu wrth ymyl ei dŷ yn Rama. Yna cododd Dafydd a mynd i lawr i anialwch Paran.
2 Nawr, roedd ’na ddyn ym Maon a oedd yn gweithio yng Ngharmel.* Roedd y dyn yn gyfoethog iawn; roedd ganddo 3,000 o ddefaid a 1,000 o eifr, ac roedd yn cneifio ei ddefaid yng Ngharmel. 3 Enw’r dyn oedd Nabal, ac enw ei wraig oedd Abigail. Roedd ei wraig yn gall ac yn brydferth, ond roedd ef, un o deulu Caleb, yn gas ac yn annifyr. 4 Clywodd Dafydd yn yr anialwch fod Nabal yn cneifio ei ddefaid. 5 Felly anfonodd Dafydd ddeg dyn ifanc ato, a dweud wrthyn nhw: “Ewch i fyny i Garmel, a phan ddewch chi at Nabal, dywedwch wrtho fy mod i’n holi amdano. 6 Yna dywedwch, ‘Rydw i’n dymuno heddwch i ti a hefyd i dy deulu a phopeth sydd gen ti. 7 Nawr rydw i wedi clywed dy fod ti wrthi’n cneifio. Pan oedd dy fugeiliaid gyda ni, wnaethon ni ddim eu niweidio nhw, a wnaethon ni ddim cymryd unrhyw beth oddi arnyn nhw yr holl amser roedden nhw yng Ngharmel. 8 Gofynna i dy ddynion ifanc, a byddan nhw’n cadarnhau hynny iti. Plîs bydda’n garedig â fy nynion ifanc oherwydd rydyn ni wedi dod ar amser llawen. Plîs rho beth bynnag gelli di ei sbario i dy weision ac i dy fab Dafydd.’”
9 Felly aeth dynion ifanc Dafydd at Nabal a dweud hyn i gyd wrtho ar ran Dafydd. Unwaith iddyn nhw orffen, 10 dyma Nabal yn ateb gweision Dafydd: “Pwy ydy Dafydd, a phwy ydy mab Jesse? Mae llawer o weision yn rhedeg i ffwrdd oddi wrth eu meistri y dyddiau ’ma. 11 Oes rhaid imi gymryd fy mara a fy nŵr a’r cig rydw i wedi ei baratoi i fy nghneifwyr a’u rhoi i ddynion sy’n dod o bwy a ŵyr lle?”
12 Gyda hynny, daeth dynion ifanc Dafydd yn eu holau ac adrodd y geiriau hyn i gyd wrtho. 13 Ar unwaith, dywedodd Dafydd wrth ei ddynion: “Cymerwch eich cleddyfau! Bob un ohonoch chi!” Felly dyma bob un yn gwisgo ei gleddyf, a gwnaeth Dafydd yr un peth, ac aeth tua 400 o ddynion i fyny gyda Dafydd, tra bod 200 o ddynion yn aros gyda’r offer.
14 Yn y cyfamser, aeth un o’r gweision at Abigail, gwraig Nabal, a dweud: “Edrycha! Anfonodd Dafydd negeswyr o’r anialwch i ddymuno’n dda i’n meistr, ond gwnaeth ef weiddi pethau cas arnyn nhw. 15 Roedd y dynion hynny yn dda iawn â ni. Wnaethon nhw erioed ein niweidio ni, na chymryd unrhyw beth oddi arnon ni yr holl amser roedden ni gyda nhw yn y caeau. 16 Roedden nhw fel wal amddiffynnol o’n cwmpas ni, yn ystod y nos ac yn ystod y dydd, yr holl amser roedden ni gyda nhw yn bugeilio’r praidd. 17 Nawr, penderfyna beth rwyt ti am ei wneud, oherwydd bydd hyn yn sicr yn dod â thrychineb ar ein meistr ac ar ei dŷ cyfan, ac mae’n ddyn mor ddiwerth does dim pwynt i neb siarad ag ef.”
18 Felly ar unwaith, cymerodd Abigail 200 torth o fara, dwy jar fawr o win, pum dafad wedi eu paratoi, pum mesur sea* o rawn wedi ei rostio,* 100 cacen o resins,* a 200 cacen o ffigys wedi eu gwasgu a rhoi’r cwbl ar yr asynnod. 19 Yna dywedodd hi wrth ei gweision: “Ewch o fy mlaen i; gwna i eich dilyn chi.” Ond ddywedodd hi ddim byd wrth ei gŵr Nabal.
20 Tra oedd hi ar gefn ei hasyn yn dod i lawr yng nghysgod y mynydd, allan o’r golwg, daeth hi ar draws Dafydd a’i ddynion a oedd yn dod i lawr o’r cyfeiriad arall. 21 Nawr roedd Dafydd wedi bod yn dweud: “Pam gwnes i drafferthu gwarchod popeth sy’n perthyn i’r dyn yma yn yr anialwch? Wnaethon ni ddim cymryd unrhyw beth sy’n perthyn iddo, ac eto mae’n talu drwg am dda imi. 22 Gad i Dduw gosbi gelynion Dafydd* yn llym os nad ydw i’n lladd Nabal a’i holl ddynion erbyn bore yfory.”
23 Pan welodd Abigail Dafydd, rhuthrodd hi i lawr oddi ar gefn ei hasyn a thaflu ei hun ar y llawr o flaen Dafydd ac ymgrymu. 24 Yna syrthiodd wrth ei draed a dweud: “Fy arglwydd, rho’r bai arna i; gad i dy forwyn siarad â ti, a gwranda ar eiriau dy forwyn. 25 Plîs fy arglwydd, paid â thalu sylw i’r Nabal diwerth yma, oherwydd mae ef yn union fel ei enw. Nabal* yw ei enw, a does ganddo ddim synnwyr o gwbl. Ond wnes i, dy forwyn, ddim gweld y dynion ifanc gwnest ti eu hanfon. 26 Ac nawr, fy arglwydd, mor sicr â’r ffaith fod Jehofa a tithau yn fyw, Jehofa sydd wedi dy ddal di yn ôl rhag bod yn waed-euog a rhag dial* â dy law dy hun. Gad i dy elynion, a’r rhai sydd eisiau dy niweidio di, fod fel Nabal. 27 Nawr gad i’r anrheg hon mae dy forwyn yn ei rhoi i ti fy arglwydd gael ei rhoi i’r dynion ifanc sy’n dy ddilyn di. 28 Plîs maddeua i dy forwyn am fy nghamgymeriad, oherwydd bydd Jehofa yn sicr o wneud i dy dŷ barhau yn gryf, oherwydd rwyt ti, fy arglwydd, yn ymladd brwydrau Jehofa, a does dim drwg wedi cael ei ddarganfod ynot ti dy holl ddyddiau. 29 Pan fydd rhywun yn codi i fynd ar dy ôl di er mwyn dy ladd di, bydd dy fywyd di, fy arglwydd, yn cael ei gadw’n saff gyda* Jehofa dy Dduw, ond bydd ef yn hyrddio bywydau dy elynion i ffwrdd fel cerrig o ffon dafl. 30 A phan fydd Jehofa wedi gwneud yr holl bethau da mae ef wedi eu haddo i ti fy arglwydd, ac yn dy benodi di yn arweinydd dros Israel, 31 fydd dy gydwybod ddim yn dy boeni, a fyddi di ddim yn difaru yn dy galon am dywallt* gwaed heb achos nac am ddial* â dy law dy hun. Pan fydd Jehofa yn dy fendithio di, cofia am dy forwyn.”
32 Gyda hynny, dywedodd Dafydd wrth Abigail: “Clod i Jehofa, Duw Israel, a wnaeth dy anfon di heddiw i fy nghyfarfod i! 33 A bendith Duw arnat ti am fod mor gall! Gad i Dduw dy fendithio di am fy nal i yn ôl heddiw rhag bod yn waed-euog a rhag dial* â fy nwylo fy hun. 34 Fel arall, mor sicr â’r ffaith fod Jehofa, Duw Israel, yn fyw, yr un wnaeth fy nal i yn ôl rhag dy niweidio di, petaset ti heb frysio i fy nghyfarfod i, fyddai dim un o ddynion Nabal yn dal yn fyw erbyn y bore.” 35 Gyda hynny, dyma Dafydd yn derbyn y pethau roedd hi wedi dod iddo, a dweud wrthi: “Dos i fyny i dy dŷ mewn heddwch. Edrycha, rydw i wedi gwrando arnat ti, a bydda i’n gwneud fel rwyt ti wedi gofyn.”
36 Yn hwyrach ymlaen, aeth Abigail yn ôl at Nabal a oedd yn gwledda fel brenin yn ei dŷ. Roedd Nabal mewn hwyliau da ac wedi meddwi’n gaib.* Wnaeth hi ddim dweud gair wrtho tan y bore. 37 Yn y bore, pan oedd Nabal wedi sobri, dywedodd ei wraig y pethau hyn wrtho. A daeth ei galon yn wan, ac roedd yn gorwedd yno wedi ei barlysu fel carreg. 38 Tua deg diwrnod wedyn, dyma Jehofa yn taro Nabal, a bu farw.
39 Pan glywodd Dafydd fod Nabal wedi marw, dywedodd: “Clod i Jehofa sydd wedi fy amddiffyn i ar ôl i Nabal fy sarhau, ac sydd wedi rhwystro ei was rhag gwneud unrhyw beth drwg, ac mae Jehofa wedi talu yn ôl i Nabal am ei ddrygioni!” Yna anfonodd Dafydd neges at Abigail i ofyn iddi ei briodi. 40 Felly daeth gweision Dafydd at Abigail yng Ngharmel a dweud wrthi: “Mae Dafydd wedi ein hanfon ni atat ti er mwyn dy gymryd di fel ei wraig.” 41 Cododd hi ar unwaith ac ymgrymu â’i hwyneb tua’r llawr a dweud: “Dyma fi, dy forwyn, yn fodlon golchi traed gweision fy arglwydd.” 42 Yna cododd Abigail ar unwaith a mynd ar gefn ei hasyn gyda phump o’i morynion yn cerdded y tu ôl iddi; aeth hi gyda negeswyr Dafydd a dod yn wraig iddo.
43 Roedd Dafydd hefyd wedi priodi Ahinoam o Jesreel, a daeth y ddwy ddynes* yn wragedd iddo.
44 Ond roedd Saul wedi rhoi ei ferch Michal, gwraig Dafydd, i Palti fab Lais, a oedd o Galim.