Lefiticus
1 Galwodd Jehofa* ar Moses a siarad ag ef o babell y cyfarfod, gan ddweud: 2 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw, ‘Os bydd unrhyw un ohonoch chi’n cyflwyno offrwm i Jehofa o blith eich anifeiliaid domestig, dylech chi gyflwyno anifail o blith y gwartheg, y defaid, neu’r geifr.
3 “‘Os bydd rhywun yn cyflwyno tarw fel offrwm llosg, mae’n rhaid i’r tarw fod yn ddi-nam. Dylai ei gyflwyno o’i wirfodd o flaen Jehofa wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 4 Mae’n rhaid iddo osod ei law ar yr offrwm llosg, ar ben yr anifail, ac fe fydd ei offrwm yn cael ei dderbyn er mwyn iddo gael maddeuant am ei bechodau.
5 “‘Yna mae’n rhaid i’r tarw ifanc gael ei ladd o flaen Jehofa, a bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn cyflwyno’r gwaed ac yn ei daenellu ar bob ochr i’r allor sydd wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 6 Dylai’r offrwm llosg gael ei flingo* a’i dorri’n ddarnau. 7 Mae’n rhaid i feibion Aaron, yr offeiriaid, roi tân ar yr allor a threfnu coed ar y tân. 8 Bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn trefnu darnau’r offrwm gan roi’r pen, a’r braster sydd o amgylch yr arennau, dros y coed sy’n llosgi ar yr allor. 9 Bydd y perfeddion a’r coesau yn cael eu golchi â dŵr, a bydd yr offeiriad yn gwneud i fwg godi oddi arnyn nhw ar yr allor fel offrwm llosg, offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa, a bydd yr arogl yn ei blesio.
10 “‘Os bydd yn cyflwyno offrwm llosg o blith y praidd, yr hyrddod* ifanc neu’r geifr, dylai fod yn wryw di-nam. 11 Mae’n rhaid i’r anifail gael ei ladd ar ochr ogleddol yr allor o flaen Jehofa, a bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn taenellu’r gwaed ar bob ochr i’r allor. 12 Bydd yr offeiriad yn ei dorri’n ddarnau, ac yn eu trefnu nhw dros y coed sy’n llosgi ar yr allor, ynghyd â phen yr offrwm a’r braster sydd o amgylch yr arennau. 13 Fe fydd yn golchi’r perfeddion a’r coesau â dŵr ac yn cyflwyno’r cwbl, gan wneud i fwg godi oddi arnyn nhw ar yr allor. Mae’n offrwm llosg, offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa, a bydd yr arogl yn ei blesio.
14 “‘Fodd bynnag, os bydd rhywun yn offrymu adar fel offrwm llosg i Jehofa, bydd rhaid iddo gyflwyno turtur neu golomen ifanc. 15 Bydd yr offeiriad yn cyflwyno’r aderyn ar yr allor ac yn torri ei ben* ac yn gwneud i fwg godi oddi arno ar yr allor, ond dylai ei waed gael ei wasgu allan ar ochr yr allor. 16 Dylai dorri ei grombil* allan a thynnu ei blu a’u taflu nhw wrth ymyl yr allor, i’r dwyrain, i’r lle ar gyfer y lludw.* 17 Bydd yn ei hollti’n agos i’w adenydd heb ei wahanu’n ddwy ran. Yna bydd yr offeiriad yn gwneud i fwg godi oddi arno ar yr allor, dros y coed sydd ar y tân. Mae’n offrwm llosg, offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa, a bydd yr arogl yn ei blesio.