Yr Ail at y Corinthiaid
11 Hoffwn i petasech chi’n fy ngoddef, hyd yn oed os ydw i’n ymddangos braidd yn afresymol. Ond, yn wir, rydych chi yn fy ngoddef! 2 Oherwydd rydw i’n genfigennus drostoch chi â chenfigen dduwiol,* gan fy mod i wedi eich dyweddïo chi i un gŵr fel y galla i eich cyflwyno chi yn wyryf bur i’r Crist. 3 Ond fel y gwnaeth y neidr* dwyllo Efa trwy ei chyfrwystra, rydw i’n ofni rywsut y bydd eich meddyliau yn cael eu llygru a’u troi oddi wrth y didwylledd a’r purdeb sy’n ddyledus i’r Crist. 4 Dweud hyn rydw i oherwydd os daw rhywun yn pregethu Iesu sy’n wahanol i’r un roedden ni’n ei bregethu, neu rydych chi’n derbyn ysbryd sy’n wahanol i’r ysbryd a dderbynioch chi, neu newyddion da sy’n wahanol i’r newyddion da a dderbynioch chi, rydych chi’n ei oddef ef yn hawdd. 5 Oherwydd rydw i’n ystyried nad ydw i wedi fy mhrofi fy hun yn israddol i’ch “uwch-apostolion” mewn unrhyw beth. 6 Ond hyd yn oed os nad ydw i’n fedrus fel siaradwr, dydw i ddim fel ’na mewn gwybodaeth; yn wir rydyn ni wedi gwneud hyn yn glir ym mhob ffordd ac ym mhob peth.
7 Neu a wnes i bechu drwy fy ngostwng fy hun er mwyn i chi gael eich dyrchafu, oherwydd fy mod i, o’m gwirfodd, wedi cyhoeddi newyddion da Duw i chi heb gost? 8 Rydw i wedi dwyn oddi ar gynulleidfaoedd* eraill drwy dderbyn darpariaethau* er mwyn eich gwasanaethu chi. 9 Ac eto, pan oeddwn i’n bresennol gyda chi ac mewn angen, doeddwn i ddim yn faich ar neb, oherwydd bod y brodyr a ddaeth o Facedonia wedi cwrdd â fy anghenion yn hael. Yn wir, ym mhob ffordd, fe wnes i fy nghadw fy hun rhag dod yn faich arnoch chi ac fe fydda i’n parhau i wneud hynny. 10 Cyhyd ag yr ydw i’n dilyn Crist, wna i ddim stopio’r brolio hwn drwy ardaloedd Achaia i gyd. 11 Am ba reswm? Oherwydd nad ydw i’n eich caru chi? Mae Duw yn gwybod fy mod i.
12 Ond yr hyn rydw i’n ei wneud fe fydda i’n parhau i’w wneud, er mwyn cael gwared ar esgus y rhai sy’n ceisio bod yn gyfartal â ni drwy frolio am eu statws.* 13 Oherwydd mae dynion o’r fath yn gau apostolion, yn weithwyr twyllodrus, yn ffugio bod yn apostolion Crist. 14 A does dim syndod, oherwydd bod Satan ei hun yn ffugio bod yn angel goleuni. 15 Felly nid yw’n beth rhyfeddol pan fydd ei weinidogion hefyd yn ffugio bod yn weinidogion cyfiawnder. Ond bydd eu diwedd yn unol â’u gweithredoedd.
16 Rydw i’n dweud unwaith eto: Peidiwch â meddwl fy mod i’n afresymol. Ond hyd yn oed os ydych chi’n meddwl hynny, derbyniwch fi fel person afresymol, fel fy mod innau hefyd yn gallu brolio ychydig bach. 17 Dydw i ddim yn siarad bellach drwy ddilyn esiampl yr Arglwydd, ond yn hytrach rydw i’n siarad fel person afresymol, sy’n ymddiried ynddo’i hun ac yn brolio. 18 Gan fod llawer yn brolio yn ôl safonau’r cnawd,* fe fydda innau hefyd yn brolio. 19 Gan eich bod chi mor “rhesymol,” rydych chi’n hapus i oddef y rhai afresymol. 20 Yn wir, rydych chi’n goddef pwy bynnag sy’n eich caethiwo chi, pwy bynnag sy’n cipio eich eiddo, pwy bynnag sy’n gafael yn yr hyn sydd gynnoch chi, pwy bynnag sy’n ei godi ei hun yn uwch na chi, a phwy bynnag sy’n taro eich wyneb.
21 Mae dweud hyn yn codi cywilydd arnon ni, oherwydd efallai fod rhai ohonoch chi yn meddwl ein bod ni’n rhy wan i ddefnyddio ein hawdurdod.
Ond, os dydy rhai pobl ddim yn teimlo cywilydd wrth frolio, dydw innau ddim yn teimlo cywilydd wrth frolio chwaith, hyd yn oed os bydd rhywun yn meddwl fy mod i’n afresymol. 22 Ai Hebreaid ydyn nhw? Minnau hefyd. Ai Israeliaid ydyn nhw? Minnau hefyd. Ai disgynyddion* Abraham ydyn nhw? Minnau hefyd. 23 Ai gweinidogion Crist ydyn nhw? Rydw i’n ateb yn wallgof, rydw innau yn fwy byth: Rydw i wedi gwneud mwy o waith, wedi cael fy ngharcharu yn fwy aml, wedi cael fy nghuro dro ar ôl tro, a bu bron imi farw lawer o weithiau. 24 Pump o weithiau ces i 39 o chwipiadau gan yr Iddewon, 25 tair gwaith ces i fy nghuro â ffyn, unwaith ces i fy llabyddio, tair gwaith roeddwn i mewn llongddrylliad, ac rydw i wedi treulio noson a diwrnod yn y môr; 26 wrth deithio’n aml, roeddwn i mewn peryg oherwydd afonydd, mewn peryg oherwydd lladron, mewn peryg oherwydd fy mhobl fy hun, mewn peryg oherwydd y cenhedloedd, mewn peryg yn y ddinas, mewn peryg yn yr anialwch, mewn peryg ar y môr, mewn peryg ymhlith gau frodyr, 27 rydw i hefyd wedi llafurio ac ymdrechu, wedi colli cwsg yn aml, wedi llwgu a sychedu, roeddwn i heb fwyd yn aml, yn oer a heb ddillad.
28 Heblaw am y pethau allanol hynny, mae ’na rywbeth sy’n rhuthro arna i ddydd ar ôl dydd:* pryder am yr holl gynulleidfaoedd. 29 Pan fydd rhywun yn wan, onid ydw innau’n wan? Pan fydd rhywun yn baglu, onid ydw innau’n ddig?
30 Os oes rhaid imi frolio, fe fydda i’n brolio am y pethau sy’n dangos fy ngwendid. 31 Mae Duw a Thad yr Arglwydd Iesu, yr Un sydd i’w foli am byth, yn gwybod nad ydw i’n dweud celwydd. 32 Yn Namascus roedd y llywodraethwr o dan Aretas y brenin yn gwarchod dinas y Damasciaid er mwyn fy nal i, 33 ond ces i fy ngollwng i lawr mewn basged drwy ffenest yn wal y ddinas, a dyma fi’n dianc o’i ddwylo.