Nehemeia
1 Geiriau Nehemeia* fab Hachaleia: Nawr ym mis Cislef, yn yr ugeinfed* flwyddyn, roeddwn i yn y gaer* yn Susan.* 2 Bryd hynny, cyrhaeddodd Hanani, un o fy mrodyr, gyda dynion eraill o Jwda, a gwnes i eu holi nhw am yr Iddewon, y gweddill a oedd wedi dianc o’u caethiwed, a hefyd am Jerwsalem. 3 Atebon nhw: “Mae’r rhai sydd nawr yn byw yn y dalaith ar ôl goroesi’r caethiwed yn dioddef helynt ofnadwy, ac maen nhw mewn cywilydd. Mae waliau Jerwsalem wedi eu chwalu, ac mae ei phyrth wedi cael eu llosgi â thân.”
4 Unwaith imi glywed y geiriau hyn, eisteddais i lawr a dechrau wylo a galaru am ddyddiau, a dyma fi’n ymprydio ac yn gweddïo o flaen Duw y nefoedd. 5 Dywedais: “O Jehofa,* Duw y nefoedd, y Duw mawr a rhyfeddol sy’n cadw ei gyfamod, ac sy’n dangos cariad ffyddlon tuag at y rhai sy’n ei garu ac sy’n cadw ei orchmynion, 6 plîs, tro dy sylw ata i, a rho glust i weddi dy was wrth imi weddïo arnat ti heddiw. Rydw i’n gweddïo ddydd a nos ynglŷn â dy weision, yr Israeliaid, gan gyffesu pechodau’r Israeliaid yn dy erbyn di. Rydyn ni wedi pechu, y fi a theulu fy nhad. 7 Rydyn ni’n sicr wedi ymddwyn yn ofnadwy ac wedi dy frifo di drwy beidio â chadw’r gorchmynion, y deddfau, a’r penderfyniadau barnwrol y gwnest ti eu rhoi i dy was Moses.
8 “Cofia, plîs, beth ddywedaist ti wrth* dy was Moses: ‘Os byddwch chi’n ymddwyn yn anffyddlon, bydda i’n eich gwasgaru chi ymysg y bobloedd. 9 Ond os byddwch chi’n troi yn ôl ata i ac yn cadw fy ngorchmynion, yna hyd yn oed os bydd y bobl wedi eu gwasgaru hyd at ben draw’r byd, bydda i’n eu casglu nhw i’r lle rydw i wedi ei ddewis ar gyfer fy enw.’ 10 Nhw ydy dy weision a dy bobl, y rhai gwnest ti eu rhyddhau drwy dy rym mawr a thrwy dy law nerthol. 11 O Jehofa, plîs, rho glust i weddi dy was, ac i weddïau dy weision sydd wrth eu boddau yn ofni dy enw, a plîs, rho lwyddiant i dy was heddiw, a gwna i’r dyn hwn ddangos trugaredd tuag ata i.”
Nawr roeddwn i’n was gweini* i’r brenin.