LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Cronicl 29
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Cronicl

      • Heseceia, brenin Jwda (1, 2)

      • Newidiadau Heseceia (3-11)

      • Y deml yn cael ei phuro (12-19)

      • Gwasanaeth y deml yn cael ei adfer (20-36)

2 Cronicl 29:8

Troednodiadau

  • *

    Neu “gwawdio.”

2 Cronicl 29:11

Troednodiadau

  • *

    Neu “i orffwys.”

2 Cronicl 29:17

Troednodiadau

  • *

    Neu “16eg diwrnod.”

2 Cronicl 29:18

Troednodiadau

  • *

    Neu “y bara gosod.”

2 Cronicl 29:21

Troednodiadau

  • *

    Neu “maharen.”

2 Cronicl 29:22

Troednodiadau

  • *

    Neu “meheryn.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
  • 32
  • 33
  • 34
  • 35
  • 36
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Cronicl 29:1-36

Ail Cronicl

29 Daeth Heseceia yn frenin pan oedd yn 25 mlwydd oed, a theyrnasodd am 29 mlynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Abeia ferch Sechareia. 2 Parhaodd i wneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa, yn union fel roedd Dafydd ei gyndad wedi gwneud. 3 Yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad, yn y mis cyntaf, agorodd ddrysau tŷ Jehofa a’u trwsio nhw. 4 Yna, casglodd ef yr offeiriaid a’r Lefiaid at ei gilydd yn y sgwâr i’r dwyrain. 5 Dywedodd wrthyn nhw: “Gwrandewch arna i, chi Lefiaid. Nawr sancteiddiwch eich hunain a sancteiddiwch dŷ Jehofa, Duw eich cyndadau, a chael gwared ar y pethau aflan o’r lle sanctaidd. 6 Oherwydd mae ein tadau wedi bod yn anffyddlon, ac wedi gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa ein Duw. Gwnaethon nhw ei adael, troi eu hwynebau i ffwrdd oddi wrth dabernacl Jehofa, a throi eu cefnau arno. 7 Gwnaethon nhw hefyd gau drysau’r cyntedd a diffodd y lampau. Stopion nhw losgi arogldarth ac offrymu aberthau llosg i Dduw Israel yn y lle sanctaidd. 8 Felly, daeth dicter Jehofa yn erbyn Jwda a Jerwsalem, fel bod y rhai a oedd yn gweld ac yn clywed y peth yn dychryn, yn synnu, ac yn chwibanu,* fel rydych chi’n gweld â’ch llygaid eich hunain. 9 Dyna pam cafodd ein cyndadau eu lladd â’r cleddyf, a pham cafodd ein meibion, ein merched, a’n gwragedd eu cymryd yn gaethion. 10 Nawr dymuniad fy nghalon ydy gwneud cyfamod â Jehofa, Duw Israel, fel y bydd ei ddicter tanbaid yn troi oddi wrthon ni. 11 Fy meibion, nid dyma’r amser i fod yn esgeulus,* oherwydd mae Jehofa wedi eich dewis chi i sefyll o’i flaen, i fod yn weision iddo, ac i wneud i fwg godi oddi ar ei aberthau.”

12 Gyda hynny, cododd y Lefiaid: o blith y Cohathiaid, Mahath fab Amasai a Joel fab Asareia; o blith y Merariaid, Cis fab Abdi ac Asareia fab Jehalelel; o blith y Gersoniaid, Joa fab Simma ac Eden fab Joa; 13 o blith meibion Elisaffan, Simri a Jeuel; o blith meibion Asaff, Sechareia a Mataneia; 14 o blith meibion Heman, Jehiel a Simei; o blith meibion Jeduthun, Semaia ac Ussiel. 15 Yna, casglon nhw eu brodyr at ei gilydd a’u sancteiddio eu hunain, a daethon nhw i buro tŷ Jehofa, fel roedd y brenin wedi gorchymyn yn ôl geiriau Jehofa. 16 Yna, aeth yr offeiriaid i mewn i dŷ Jehofa i wneud y gwaith puro, a daethon nhw â phopeth aflan a oedd yn nheml Jehofa allan a’i gymryd i gwrt tŷ Jehofa. Wedyn, dyma’r Lefiaid yn ei gymryd ac yn ei gario allan i Ddyffryn Cidron. 17 Felly, dechreuon nhw sancteiddio’r deml ar y diwrnod cyntaf o’r mis cyntaf, ac ar yr wythfed diwrnod o’r mis cyrhaeddon nhw gyntedd Jehofa. Gwnaethon nhw sancteiddio tŷ Jehofa am wyth diwrnod a gorffen ar yr unfed diwrnod ar bymtheg* o’r mis cyntaf.

18 Ar ôl hynny, aethon nhw i mewn at y Brenin Heseceia a dweud: “Rydyn ni wedi puro holl dŷ Jehofa, allor yr offrymau llosg a’i llestri i gyd, a’r bwrdd ar gyfer y bara sydd wedi ei gyflwyno i Dduw* a’i lestri i gyd. 19 Ac rydyn ni hefyd wedi paratoi a sancteiddio’r holl lestri a gymerodd y Brenin Ahas allan o’r deml yn ystod ei deyrnasiad pan oedd yn anffyddlon, ac maen nhw o flaen allor Jehofa.”

20 A chododd y Brenin Heseceia yn gynnar a chasglu tywysogion y ddinas at ei gilydd, ac aethon nhw i fyny i dŷ Jehofa. 21 Daethon nhw â saith tarw, saith hwrdd,* saith oen gwryw, a saith bwch gafr fel offrwm dros bechod ar gyfer y deyrnas, ar gyfer y cysegr, ac ar gyfer Jwda. Felly dywedodd wrth yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, i’w hoffrymu nhw ar allor Jehofa. 22 Yna gwnaethon nhw ladd y gwartheg, a chymerodd yr offeiriaid y gwaed a’i daenellu ar yr allor. Nesaf, lladdon nhw’r hyrddod* a thaenellu’r gwaed ar yr allor, ac yna lladd yr ŵyn gwryw a thaenellu’r gwaed ar yr allor. 23 Yna, dyma nhw’n dod â bychod geifr yr offrwm dros bechod o flaen y brenin a’r gynulleidfa, a gosod eu dwylo arnyn nhw. 24 Gwnaeth yr offeiriaid eu lladd nhw a’u cyflwyno nhw fel offrwm dros bechod, a rhoi eu gwaed ar yr allor er mwyn cael maddeuant dros bechodau Israel gyfan, oherwydd dywedodd y brenin y dylai’r offrwm llosg a’r offrwm dros bechod gael eu gwneud ar ran Israel gyfan.

25 Yn y cyfamser, gosododd ef y Lefiaid wrth dŷ Jehofa gyda symbalau, offerynnau llinynnol, a thelynau. Roedd hyn yn unol â gorchymyn Dafydd a Gad, gweledydd y brenin, a Nathan y proffwyd, oherwydd daeth y gorchymyn gan Jehofa drwy ei broffwydi. 26 Felly roedd y Lefiaid yn sefyll gydag offerynnau Dafydd, a’r offeiriaid gyda’r trwmpedi.

27 Yna gorchmynnodd Heseceia i’r offrwm llosg gael ei offrymu ar yr allor. Pan gychwynnodd yr offrwm llosg, cychwynnodd y gân i Jehofa hefyd, yn ogystal â’r trwmpedi, gan ddilyn arweiniad offerynnau Dafydd, brenin Israel. 28 Ac ymgrymodd y gynulleidfa gyfan tra bod y gân yn cael ei chanu a’r trwmpedi yn cael eu seinio. Parhaodd hyn i gyd nes bod yr offrwm llosg wedi ei orffen. 29 Unwaith iddyn nhw orffen cyflwyno’r offrwm, dyma’r brenin a phawb gydag ef yn plygu i lawr ac yn ymgrymu’n isel. 30 Nawr dywedodd y Brenin Heseceia a’r tywysogion wrth y Lefiaid i foli Jehofa gyda geiriau Dafydd ac Asaff y gweledydd. Felly dyma nhw’n moli Duw yn llawen iawn, ac yn plygu i lawr ac yn ymgrymu’n isel.

31 Yna dywedodd Heseceia: “Nawr eich bod chi wedi cael eich neilltuo ar gyfer gwasanaethu Jehofa, dewch ag aberthau ac offrymau o ddiolchgarwch i dŷ Jehofa.” Felly dechreuodd y gynulleidfa ddod ag aberthau ac offrymau o ddiolchgarwch, a dyma bawb a oedd â chalon fodlon yn dod ag offrymau llosg. 32 Dyma faint o offrymau llosg a gafodd eu rhoi gan y gynulleidfa: 70 o wartheg, 100 o hyrddod, 200 o ŵyn gwryw—pob un o’r rhain yn offrwm llosg i Jehofa— 33 a hefyd yr offrymau sanctaidd, 600 o wartheg a 3,000 o ddefaid. 34 Ond doedd ’na ddim digon o offeiriaid i dynnu croen yr holl offrymau llosg, felly dyma eu brodyr y Lefiaid yn eu helpu nhw, nes bod y gwaith wedi ei orffen ac nes bod yr offeiriaid yn gallu eu sancteiddio eu hunain, oherwydd roedd y Lefiaid yn fwy selog ynglŷn â’u sancteiddio eu hunain nag yr oedd yr offeiriaid. 35 Roedd ’na lawer o offrymau llosg, yn ogystal â braster yr aberthau dros heddwch, a’r offrymau diod ar gyfer yr offrymau llosg. Dyma sut gwnaeth gwasanaeth tŷ Jehofa ailgychwyn. 36 Felly dyma Heseceia a’r bobl i gyd yn llawenhau dros beth roedd y gwir Dduw wedi ei sefydlu ar gyfer y bobl, oherwydd roedd hyn i gyd wedi digwydd mor gyflym.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu