Lefiticus
22 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 2 “Dyweda wrth Aaron a’i feibion y dylen nhw fod yn ofalus sut maen nhw’n gofalu am y pethau mae’r Israeliaid yn eu hoffrymu fel rhywbeth sanctaidd i mi, ac ni ddylen nhw amharchu fy enw sanctaidd. Fi yw Jehofa. 3 Dyweda wrthyn nhw, ‘Os bydd unrhyw un o’ch disgynyddion, tra ei fod yn aflan, yn dod yn agos at y pethau mae’r Israeliaid yn eu hoffrymu fel rhywbeth sanctaidd i Jehofa, dylai gael ei ladd.* Bydd hyn yn berthnasol i’r holl genedlaethau ar eich olau. Fi yw Jehofa. 4 Ni fydd yr un o ddisgynyddion Aaron sydd â’r gwahanglwyf neu sydd â rhedlif yn cael bwyta o’r pethau sanctaidd nes ei fod yn lân, naill ai dyn sy’n cyffwrdd â rhywun a ddaeth yn aflan oherwydd rhywun sydd wedi marw, neu ddyn sy’n gollwng ei had,* 5 neu ddyn sy’n cyffwrdd ag anifail aflan sy’n heidio, neu unrhyw un sy’n cyffwrdd â dyn sydd am ryw reswm yn aflan ac sy’n gallu ei wneud yn aflan. 6 Bydd unrhyw un sy’n cyffwrdd â’r pethau hyn yn aflan tan fachlud yr haul ac ni fydd yn cael bwyta unrhyw un o’r pethau sanctaidd, ond fe ddylai ymolchi mewn dŵr. 7 Unwaith i’r haul fachlud fe fydd yn lân, ac ar ôl hynny fe fydd yn cael bwyta rhai o’r pethau sanctaidd oherwydd dyna yw ei fwyd. 8 Hefyd, ni ddylai ei wneud ei hun yn aflan drwy fwyta unrhyw anifail sydd wedi marw, nac unrhyw beth sydd wedi ei ladd gan anifeiliaid gwyllt. Fi yw Jehofa.
9 “‘Dylen nhw ufuddhau i fy ngorchmynion; ni ddylen nhw amharchu pethau sanctaidd, fel na fyddan nhw’n pechu ac yn gorfod marw. Fi yw Jehofa, yr un sy’n eu gwneud nhw’n sanctaidd.
10 “‘Ni all unrhyw un fwyta rhywbeth sanctaidd os nad oes ganddo’r hawl.* Ni fydd yr un estronwr sy’n ymweld ag offeiriad na gweithiwr sy’n derbyn cyflog yn cael bwyta unrhyw beth sanctaidd. 11 Ond os bydd offeiriad yn prynu rhywun â’i arian ei hun, gall y person hwnnw fwyta rhan o’i fwyd. Gall caethweision sydd wedi cael eu geni yn ei dŷ hefyd fwyta rhan o’i fwyd. 12 Os bydd merch offeiriad yn priodi rhywun sydd ddim yn offeiriad, ni fydd hi’n cael bwyta’r pethau sanctaidd mae’r bobl wedi eu cyfrannu. 13 Ond os bydd merch offeiriad yn colli ei gŵr, neu’n cael ysgariad, a hithau heb gael plant, ac yna mae’n mynd yn ôl i dŷ ei thad lle roedd hi’n byw pan oedd hi’n ifanc, fe fydd hi’n cael rhannu bwyd ei thad; ond ni all unrhyw un ei fwyta os nad oes ganddo’r hawl.*
14 “‘Nawr os bydd dyn yn bwyta rhywbeth sanctaidd yn ddamweiniol, fe ddylai ychwanegu pumed ran o’i werth ato a rhoi’r offrwm sanctaidd i’r offeiriad. 15 Felly ni ddylen nhw amharchu’r pethau sanctaidd mae’r Israeliaid wedi eu cyfrannu i Jehofa 16 a dod â chosb arnyn nhw eu hunain oherwydd eu heuogrwydd dros fwyta eu pethau sanctaidd; oherwydd fi yw Jehofa, yr un sy’n eu gwneud nhw’n sanctaidd.’”
17 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 18 “Siarada ag Aaron a’i feibion, ac â’r holl Israeliaid, a dyweda wrthyn nhw, ‘Pan fydd dyn o Israel neu estronwr sy’n byw yn Israel yn cyflwyno offrwm llosg i Jehofa er mwyn cyflawni ei addunedau neu er mwyn gwneud offrwm gwirfoddol, 19 fe ddylai gyflwyno gwryw di-nam o blith y praidd, yr hyrddod* ifanc, neu’r geifr er mwyn ennill ei gymeradwyaeth. 20 Ni ddylech chi gyflwyno unrhyw beth a nam arno, neu fel arall ni fyddwch chi’n ennill cymeradwyaeth Duw.
21 “‘Os bydd dyn yn cyflwyno aberth heddwch i Jehofa er mwyn talu adduned neu fel offrwm gwirfoddol, fe ddylai fod yn anifail di-nam o blith y gwartheg neu’r praidd er mwyn iddo ennill cymeradwyaeth. Ni ddylai unrhyw nam fod arno o gwbl. 22 Ni ddylech chi offrymu unrhyw anifail sy’n ddall, sydd wedi torri ei goes, sydd wedi torri ei groen, sydd â dafaden, sydd â chrach, neu sydd â haint ar y croen;* ni ddylech chi gyflwyno unrhyw un o’r rhain i Jehofa na gwneud y fath offrymau i Jehofa ar yr allor. 23 Cewch chi gyflwyno tarw neu ddafad sydd ag un goes yn rhy hir neu’n rhy fyr fel offrwm gwirfoddol, ond ni fydd yn cael ei dderbyn â chymeradwyaeth fel offrwm adduned. 24 Ni ddylech chi gyflwyno i Jehofa anifail sydd â cheilliau sydd wedi eu niweidio, eu gwasgu, eu tynnu i ffwrdd, neu eu torri i ffwrdd, ac ni ddylech chi offrymu’r fath anifeiliaid yn eich gwlad. 25 Ni ddylech chi gyflwyno unrhyw un o’r rhain o law estronwr fel bara i’ch Duw, am fod ganddyn nhw amherffeithion. Ni fydd Duw yn eu derbyn nhw.’”
26 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 27 “Pan fydd llo neu oen neu fyn gafr yn cael ei eni, fe fydd yn aros gyda’i fam am saith diwrnod, ond o’r wythfed diwrnod ymlaen fe fydd yn cael ei dderbyn â chymeradwyaeth fel offrwm, offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa. 28 Ni ddylai buwch neu ddafad gael ei lladd ar yr un diwrnod â’i rhai bach.
29 “Os byddwch chi’n cyflwyno aberth o ddiolchgarwch i Jehofa, dylech chi ei aberthu yn y ffordd iawn er mwyn ennill cymeradwyaeth. 30 Dylai gael ei fwyta ar y diwrnod hwnnw. Ni ddylech chi adael unrhyw ran ohono tan y bore. Fi yw Jehofa.
31 “Dylech chi gadw fy ngorchmynion a’u dilyn nhw. Fi yw Jehofa. 32 Peidiwch â dwyn gwarth ar fy enw sanctaidd, dylwn i gael fy sancteiddio ymhlith yr Israeliaid. Fi yw Jehofa, yr un sy’n eich gwneud chi’n sanctaidd, 33 yr un a ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft i brofi fy mod i’n Dduw ichi. Fi yw Jehofa.”