LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Thesaloniaid 2
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Thesaloniaid

      • Dyn digyfraith (1-12)

      • Anogaeth i sefyll yn gadarn (13-17)

2 Thesaloniaid 2:2

Troednodiadau

  • *

    Neu “gan naill ai ysbryd.” Gweler Geirfa, “Ysbryd.”

  • *

    Gweler Geirfa, “Jehofa.”

2 Thesaloniaid 2:6

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Gweithlyfr Bywyd a Gweinidogaeth,

    7/2019, t. 4

2 Thesaloniaid 2:7

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Gweithlyfr Bywyd a Gweinidogaeth,

    7/2019, t. 4

2 Thesaloniaid 2:8

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “ag ysbryd ei geg.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Gweithlyfr Bywyd a Gweinidogaeth,

    7/2019, t. 4

2 Thesaloniaid 2:17

Troednodiadau

  • *

    Neu “yn eich cryfhau chi.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Thesaloniaid 2:1-17

Yr Ail at y Thesaloniaid

2 Fodd bynnag, frodyr, ynglŷn â phresenoldeb ein Harglwydd Iesu Grist a’n casglu at ein gilydd ato ef, rydyn ni’n gofyn ichi 2 beidio â chael eich ysgwyd yn gyflym allan o’ch synnwyr da na chael eich cynhyrfu gan naill ai datganiad ysbrydoledig* neu gan air neu gan lythyr sy’n ymddangos ei fod oddi wrthon ni, ac sy’n honni bod dydd Jehofa* wedi dod.

3 Peidiwch â gadael i neb eich arwain ar gyfeiliorn mewn unrhyw ffordd, oherwydd ni fydd yn dod oni bai bod y gwrthgiliad yn dod yn gyntaf a bod y dyn digyfraith yn cael ei ddatguddio, yr un a fydd yn cael ei ddinistrio. 4 Mae’n wrthwynebydd ac yn ei ddyrchafu ei hun uwchben pob un sy’n cael ei alw yn dduw neu bob peth sy’n cael ei addoli, felly mae’n eistedd yn nheml Duw, gan ddangos yn gyhoeddus ei fod ef ei hun yn dduw. 5 Onid ydych chi’n cofio fy mod i wedi dweud y pethau hyn wrthoch chi tra oeddwn i’n dal i fod gyda chi?

6 Ac nawr rydych chi’n gwybod beth sy’n ei ddal yn ôl, fel y bydd ef yn cael ei ddatguddio yn ei briod amser. 7 Yn wir, mae dirgelwch y drygioni hwn eisoes ar waith, ond dim ond nes y bydd yr un sydd nawr yn ei ddal yn ôl wedi mynd. 8 Yna, yn wir, bydd yr un digyfraith yn cael ei ddatguddio, yr un y bydd yr Arglwydd Iesu yn cael gwared arno drwy’r grym sy’n dod allan o’i geg* ac yn ei ddileu yn llwyr pan fydd ei bresenoldeb yn cael ei amlygu. 9 Ond bydd yr un digyfraith yn gweithredu o dan reolaeth Satan gyda phob gweithred nerthol ac arwyddion celwyddog a rhyfeddodau 10 a phob twyll anghyfiawn. Bydd y pethau hyn yn camarwain y rhai sy’n mynd i’w dinistr, fel cosb oherwydd nad oedden nhw’n caru’r wir ddysgeidiaeth a allai eu hachub nhw. 11 Dyna pam y mae Duw yn caniatáu i ddylanwad twyllodrus eu camarwain nhw fel y bydden nhw’n dod i gredu’r celwydd, 12 er mwyn iddyn nhw i gyd gael eu barnu oherwydd nad oedden nhw’n credu’r gwir ond yn cael pleser o anghyfiawnder.

13 Fodd bynnag, rydyn ni dan orfod i ddiolch i Dduw bob amser amdanoch chi, chi frodyr sy’n annwyl gan Jehofa, oherwydd bod Duw wedi eich dewis chi o’r dechreuad i gael eich achub drwy eich sancteiddio chi â’i ysbryd a thrwy eich ffydd yn y gwir. 14 Fe wnaeth eich galw chi i hyn drwy’r newyddion da rydyn ni’n eu cyhoeddi, er mwyn ichi gael gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist. 15 Felly, frodyr, safwch yn gadarn a daliwch eich gafael yn y traddodiadau a ddysgoch chi, p’run ai trwy air neu drwy lythyr oddi wrthon ni. 16 Ar ben hynny, rydyn ni’n gweddïo y bydd ein Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw ein Tad sydd wedi ein caru ni ac wedi rhoi cysur tragwyddol a gobaith da drwy gyfrwng caredigrwydd rhyfeddol, 17 yn cysuro eich calonnau ac yn eich gwneud chi’n gadarn* ym mhob gweithred a gair da.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu