LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Rhufeiniaid 15
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Rhufeiniaid

      • Derbyn eich gilydd fel gwnaeth Crist (1-13)

      • Paul, gwas i’r cenhedloedd (14-21)

      • Cynlluniau teithio Paul (22-33)

Rhufeiniaid 15:1

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 35

    Cariad Duw, t. 20

Rhufeiniaid 15:2

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 52

Rhufeiniaid 15:4

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 189

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 1

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    7/2017, t. 14

Rhufeiniaid 15:5

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    4/2016, t. 10

Rhufeiniaid 15:7

Troednodiadau

  • *

    Neu “croesawu.”

  • *

    Neu “ichi groesawu.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    7/2023, t. 6

Rhufeiniaid 15:8

Troednodiadau

  • *

    Neu “yn weinidog.”

  • *

    Llyth., “i’r rhai sydd wedi cael eu henwaedu.”

Rhufeiniaid 15:14

Troednodiadau

  • *

    Neu “i geryddu.”

Rhufeiniaid 15:16

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Ein Gweinidogaeth,

    9/2011, t. 1

Rhufeiniaid 15:20

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “enw Crist.”

Rhufeiniaid 15:23

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    11/2020, tt. 16-17

Rhufeiniaid 15:26

Troednodiadau

  • *

    Neu “i roi rhodd.”

  • *

    Lyth., “y rhai sanctaidd.”

Rhufeiniaid 15:28

Troednodiadau

  • *

    Neu “rhodd hon.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Tystiolaethu’n Drylwyr, t. 214

Rhufeiniaid 15:31

Troednodiadau

  • *

    Neu “rhodd hon.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
  • 32
  • 33
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Rhufeiniaid 15:1-33

At y Rhufeiniaid

15 Mae’n rhaid i’r rhai ohonon ni sy’n gryf ystyried gwendidau’r rhai sydd ddim yn gryf. Ni ddylen ni ein plesio ein hunain yn unig. 2 Dylai pob un ohonon ni geisio plesio ei gymydog a gwneud beth sy’n dda iddo er mwyn ei gryfhau. 3 Ni wnaeth hyd yn oed Crist wneud pethau i’w blesio ei hun. Fel mae’r Ysgrythurau’n dweud: “Mae sarhad y rhai sy’n dy sarhau di wedi dod yn fy erbyn i.” 4 Oherwydd mae’r holl bethau a gafodd eu hysgrifennu amser maith yn ôl yn yr Ysgrythurau wedi cael eu hysgrifennu i’n dysgu ni, ac mae gynnon ni obaith oherwydd ein dyfalbarhad a’r anogaeth mae’r Ysgrythurau’n ei rhoi inni. 5 Rydw i’n dymuno i Dduw roi’r fath ddyfalbarhad ac anogaeth ichi, ac rydw i’n gweddïo y bydd yn rhoi i bob un ohonoch chi yr un agwedd â Christ Iesu. 6 Fel hyn, byddwch chi’n hollol unedig wrth ichi ogoneddu Duw, sy’n Dad i’n Harglwydd Iesu Grist.

7 Yn union fel gwnaeth y Crist eich derbyn* chi, mae’n rhaid ichi dderbyn* eich gilydd; mae hyn yn dod â gogoniant i Dduw. 8 Rydw i’n dweud wrthoch chi fod Crist wedi dod yn was* i’r Iddewon* er mwyn dangos bod Duw yn cadw at ei air ac i gadarnhau’r addewidion a wnaeth Ef i’w cyndadau. 9 Cafodd hyn hefyd ei wneud er mwyn i’r cenhedloedd allu gogoneddu Duw am ei drugaredd. Yn union fel mae’r Ysgrythurau’n dweud: “Dyna pam fe fydda i’n dy gydnabod di’n agored ymhlith y cenhedloedd, a bydda i’n canu mawl i dy enw.” 10 Ac unwaith eto mae Duw’n dweud: “Byddwch yn llawen, chi genhedloedd, gyda’i bobl.” 11 Ac unwaith eto: “Molwch Jehofa, chi’r cenhedloedd i gyd, a gadewch i’r holl bobloedd ei foli.” 12 Hefyd, mae Eseia’n dweud: “Bydd gwreiddyn Jesse yn dod, yr un a fydd yn codi i reoli dros y cenhedloedd; bydd y cenhedloedd yn gobeithio ynddo ef.” 13 Rydw i’n dymuno i’r Duw sy’n rhoi gobaith eich llenwi chi â phob llawenydd a heddwch wrth ichi drystio ynddo ef. Yn wir, rydw i’n dymuno ichi orlifo â gobaith a chael eich llenwi â grym yr ysbryd glân.

14 Frodyr, rydw i’n hollol sicr eich bod chi’n llawn daioni a bod gynnoch chi wybodaeth a’r gallu i ddysgu* eich gilydd. 15 Ond, rydw i wedi ysgrifennu atoch chi yn blwmp ac yn blaen am rai o’r pwyntiau hyn er mwyn eich atgoffa chi ohonyn nhw, oherwydd y caredigrwydd rhyfeddol mae Duw wedi ei ddangos tuag ata i. 16 Rydw i’n was i Grist Iesu ac i’r cenhedloedd. Rydw i’n gweithio’n galed yn y gwaith sanctaidd hwn o ledaenu’r newyddion da am Dduw, er mwyn i’r cenhedloedd hyn allu dod yn offrwm sy’n plesio Duw, yn offrwm sy’n cael ei wneud yn sanctaidd ar ei gyfer ef gan yr ysbryd glân.

17 Rydw i’n llawenhau oherwydd fy mod i’n ddisgybl i Grist Iesu ac oherwydd fy mod i’n gwneud gwaith Duw. 18 Fydda i ddim yn siarad am unrhyw beth rydw i fy hun wedi ei wneud heblaw am beth mae Crist wedi ei wneud a’i ddweud drwyddo i i helpu pobl o genhedloedd eraill i fod yn ufudd iddo. 19 Maen nhw wedi ufuddhau oherwydd y gwyrthiau pwerus a’r rhyfeddodau mae ysbryd Duw wedi eu gwneud. Fel hyn, rydw i wedi pregethu’n drylwyr y newyddion da am y Crist o Jerwsalem yr holl ffordd i Ilyricum. 20 Fy nod oedd osgoi cyhoeddi’r newyddion da lle roedd pobl eisoes yn gwybod am Grist,* oherwydd doeddwn i ddim eisiau adeiladu ar sylfaen dyn arall. 21 Mae’n union fel mae’r Ysgrythurau’n dweud: “Bydd y rhai sydd heb glywed sôn amdano yn ei weld, a’r rhai sydd heb glywed yn deall.”

22 Dyma pam roeddwn i’n aml yn cael fy rhwystro rhag dod atoch chi. 23 Ond nawr rydw i wedi gorffen fy mhregethu yn yr ardaloedd hyn, ac am lawer o flynyddoedd rydw i wedi bod yn awyddus i ymweld â chi. 24 Felly pan fydda i’n mynd i Sbaen, rydw i’n gobeithio eich gweld chi. Ar ôl imi fwynhau eich cwmni am gyfnod, rydw i’n gobeithio y byddwch chi’n gallu dod gyda mi ran o’r ffordd i Sbaen. 25 Ond nawr rydw i ar fin teithio i Jerwsalem i helpu’r rhai sanctaidd sydd yno. 26 Mae’r brodyr ym Macedonia ac Achaia wedi bod yn hapus i gyfrannu* ar gyfer y rhai tlawd ymhlith pobl Dduw* yn Jerwsalem. 27 Roedd y brodyr hynny yn hapus i wneud hyn oherwydd eu bod nhw’n teimlo’n ddyledus iddyn nhw. Mae hyn oherwydd bod y brodyr yn Jerwsalem wedi rhannu eu pethau ysbrydol â’r brodyr hynny. Felly mae’r brodyr hynny o dan ddyletswydd i rannu eu pethau materol â’r brodyr yn Jerwsalem. 28 Ar ôl imi orffen mynd â’r cyfraniad hwn* atyn nhw, bydda i’n gadael am Sbaen ac yn eich gweld chi ar fy ffordd yno. 29 Pan fydda i’n dod atoch chi, rydw i’n gwybod y bydda i’n dod â bendith fawr ichi oddi wrth Grist.

30 Rydw i’n erfyn arnoch chi, frodyr, trwy ein Harglwydd Iesu Grist a thrwy’r cariad sy’n dod o’r ysbryd glân, i ymuno â mi mewn gweddi daer ar Dduw drosto i. 31 Gweddïwch y bydda i’n cael fy achub rhag yr anghredinwyr yn Jwdea ac y bydd y cyfraniad hwn* rydw i’n ei gymryd i bobl Dduw yn Jerwsalem yn cael ei dderbyn yno. 32 Yna, os ydy Duw’n dymuno, bydda i’n dod atoch chi yn llawn llawenydd ac yn mwynhau ymweliad adfywiol gyda chi. 33 Rydw i’n gweddïo y bydd y Duw sy’n rhoi heddwch gyda chi i gyd. Amen.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu