Exodus
33 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: “Dos di oddi yma gyda’r bobl y gwnest ti eu harwain allan o wlad yr Aifft. Teithia i’r wlad y gwnes i ei haddo i Abraham, Isaac, a Jacob, gan ddweud, ‘I dy ddisgynyddion* bydda i’n ei rhoi.’ 2 Bydda i’n anfon angel o’ch blaenau chi ac yn gyrru allan y Canaaneaid, yr Amoriaid, yr Hethiaid, y Peresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid. 3 Ewch i wlad lle mae llaeth a mêl yn llifo. Ond ni fydda i yn eich plith chi rhag ofn imi eich lladd chi ar y ffordd, gan eich bod chi’n bobl bengaled.”
4 Pan glywodd y bobl y geiriau llym hyn, dechreuon nhw alaru, ac ni wnaethon nhw wisgo eu gemwaith.* 5 Dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Rydych chi’n bobl bengaled. Byddwn i’n gallu dod yn eich plith chi a’ch lladd mewn dim o amser. Felly nawr peidiwch â rhoi eich gemwaith* ymlaen tra fy mod i’n ystyried beth i’w wneud â chi.’” 6 Felly o Fynydd Horeb ymlaen, ni wnaeth yr Israeliaid wisgo* eu gemwaith.*
7 Nawr cymerodd Moses ei babell a’i gosod y tu allan i’r gwersyll, cryn dipyn o bellter oddi wrth y gwersyll, ac fe wnaeth ei galw’n babell y cyfarfod. Byddai pawb a oedd yn gofyn am arweiniad Jehofa yn mynd allan at babell y cyfarfod, a oedd y tu allan i’r gwersyll. 8 Unwaith i Moses fynd allan at y babell, byddai’r holl bobl yn codi ac yn sefyll wrth fynedfa eu pebyll nhw eu hunain, a bydden nhw’n syllu ar Moses nes iddo gerdded i mewn i’r babell. 9 Unwaith i Moses fynd i mewn i’r babell, byddai’r golofn o gwmwl yn dod i lawr ac yn sefyll wrth fynedfa’r babell tra oedd Duw yn siarad â Moses. 10 Pan welodd yr holl bobl y golofn o gwmwl yn sefyll wrth fynedfa’r babell, cododd pob un ohonyn nhw ac ymgrymu wrth fynedfa ei babell ei hun. 11 Siaradodd Jehofa â Moses wyneb yn wyneb, yn union fel y byddai dyn yn siarad â dyn arall. Pan fyddai’n mynd yn ôl i’r gwersyll, ni fyddai Josua fab Nun, ei weinidog a’i was, yn gadael y babell.
12 Nawr dyma Moses yn dweud wrth Jehofa: “Edrycha, rwyt ti’n dweud wrtho i, ‘Arwain y bobl hyn i fyny,’ ond dwyt ti ddim wedi gadael imi wybod pwy byddi di’n ei anfon gyda mi. Fodd bynnag, rwyt ti wedi dweud, ‘Rydw i wedi dy ddewis di,* ac rwyt ti wedi ennill fy ffafr.’ 13 Plîs, os ydw i wedi dy blesio, gad imi wybod dy ffyrdd, er mwyn imi allu dy adnabod di a pharhau i ennill dy ffafr. Cofia hefyd, mai’r genedl hon yw dy bobl.” 14 Felly dywedodd: “Bydda i fy hun yn mynd gyda ti, a bydda i’n rhoi gorffwys iti.” 15 Yna dywedodd Moses wrtho: “Os nad wyt ti am ddod gyda ni, paid â’n harwain ni o’r lle ’ma. 16 Sut bydda i’n gwybod fy mod i wedi ennill ffafr yn dy olwg, fi a dy bobl? Onid y ffaith dy fod ti gyda ni sy’n ein gwahaniaethu ni oddi wrth holl bobloedd eraill y ddaear?”
17 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: “Bydda i’n gwneud yr hyn rwyt ti wedi gofyn amdano, oherwydd rwyt ti wedi ennill ffafr yn fy ngolwg, ac rydw i’n dy adnabod di wrth dy enw.” 18 Yna dywedodd Moses: “Plîs dangosa dy ogoniant imi.” 19 Ond dywedodd ef: “Bydda i’n gwneud i fy holl ddaioni basio o flaen dy wyneb, a bydda i’n cyhoeddi o dy flaen di enw Jehofa, a bydda i’n dangos ffafr tuag at bwy bynnag rydw i’n ei ddymuno, a bydda i’n dangos trugaredd tuag at bwy bynnag rydw i’n ei ddewis.” 20 Ond ychwanegodd: “Chei di ddim gweld fy wyneb, oherwydd ni all unrhyw ddyn fy ngweld i a byw.”
21 Ychwanegodd Jehofa: “Dyma le sy’n agos ata i. Saf di ar y graig. 22 Pan fydd fy ngogoniant yn pasio heibio, bydda i’n dy roi di i mewn i ogof yn y graig, a bydda i’n dy amddiffyn di â fy llaw nes imi basio heibio. 23 Ar ôl hynny bydda i’n cymryd fy llaw i ffwrdd, a byddi di’n gweld fy nghefn. Ond chei di ddim gweld fy wyneb.”