LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Galatiaid 6
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Galatiaid

      • Cario beichiau ein gilydd (1-10)

        • Yr hyn sy’n cael ei hau yn cael ei fedi (7, 8)

      • Enwaediad yn ddiwerth (11-16)

        • Person newydd (15)

      • Diweddglo (17, 18)

Galatiaid 6:1

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 57

Galatiaid 6:2

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    5/2019, tt. 3-4

Galatiaid 6:4

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    7/2021, tt. 20-25

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    8/2020, t. 24

    Ein Gweinidogaeth,

    7/2012, t. 1

Galatiaid 6:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “ei lwyth cyfrifoldeb.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    8/2023, tt. 26-29

Galatiaid 6:9

Troednodiadau

  • *

    Neu “rhoi’r gorau iddi.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    10/2021, tt. 24-28

Galatiaid 6:10

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 44

Galatiaid 6:12

Troednodiadau

  • *

    Neu “sydd eisiau edrych yn dda ar y tu allan.”

  • *

    Gweler Geirfa.

Galatiaid 6:14

Troednodiadau

  • *

    Gweler Geirfa.

  • *

    Neu “ei ddienyddio ar y stanc.”

Galatiaid 6:15

Troednodiadau

  • *

    Neu “yn greadigaeth newydd.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Galatiaid 6:1-18

At y Galatiaid

6 Frodyr, hyd yn oed os yw dyn yn cymryd cam gwag cyn iddo fod yn ymwybodol o’r peth, y chi sydd â’r cymwysterau ysbrydol, ceisiwch roi dyn o’r fath ar ben ffordd mewn ysbryd o addfwynder. Ond cadwa lygad arnat ti dy hyn, rhag ofn i tithau hefyd gael dy demtio. 2 Daliwch ati i gario beichiau eich gilydd, ac felly fe fyddwch chi’n cyflawni cyfraith Crist. 3 Oherwydd os ydy rhywun yn meddwl ei fod yn rhywbeth ac yntau’n ddim byd, mae’n ei dwyllo ei hun. 4 Ond dylai pob un dalu sylw i’w weithredoedd ei hun, ac yna y bydd ganddo achos i lawenhau ynddo ef ei hun yn unig, ac nid mewn cymhariaeth â rhywun arall. 5 Oherwydd bydd pob un yn cario ei lwyth* ei hun.

6 Ar ben hynny, dylai unrhyw un sy’n cael ei ddysgu am y gair rannu pob peth da â’r un sy’n rhoi hyfforddiant o’r fath.

7 Peidiwch â chael eich camarwain: Allwch chi ddim gwneud ffŵl o Dduw. Oherwydd beth bynnag mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi; 8 oherwydd bydd yr un sy’n hau i’w gnawd yn medi llygredigaeth o’i gnawd, ond bydd yr un sy’n hau i’r ysbryd yn medi bywyd tragwyddol o’r ysbryd. 9 Felly, mae’n rhaid inni beidio â rhoi’r gorau i wneud daioni, oherwydd pan ddaw’r amser penodedig fe fyddwn ni’n medi os nad ydyn ni’n blino’n lân.* 10 Felly, tra bydd y cyfle gynnon ni, gadewch inni wneud yr hyn sy’n dda i bawb, ond yn enwedig i’n brodyr a’n chwiorydd yn y ffydd.

11 Edrychwch pa mor fawr ydy’r llythrennau rydw i fy hun wedi eu hysgrifennu atoch chi.

12 Y rhai sydd eisiau gwneud argraff dda yn y cnawd* ydy’r rhai sy’n ceisio eich cymell chi i gael eich enwaedu, ac yn gwneud hynny dim ond er mwyn osgoi cael eu herlid o achos stanc dienyddio’r* Crist. 13 Oherwydd dydy hyd yn oed y rhai sy’n cael eu henwaedu ddim yn cadw’r Gyfraith, ond maen nhw eisiau i chi gael eich enwaedu er mwyn iddyn nhw gael rheswm dros frolio o achos eich cnawd. 14 Ond dydw i byth eisiau brolio, oni bai am ein Harglwydd Iesu Grist sydd wedi marw ar y stanc dienyddio.* Trwy ei farwolaeth ef mae’r byd wedi cael ei roi i farwolaeth* i mi, a minnau i’r byd. 15 Oherwydd dydy enwaediad na dienwaediad ddim yn bwysig, ond yr hyn sy’n wir yn bwysig ydy bod Duw yn eich gwneud chi’n berson newydd.* 16 Pawb sy’n cerdded yn ôl y rheol hon, heddwch a thrugaredd arnyn nhw, ie, ar Israel Duw.

17 O hyn ymlaen gadewch i neb achosi trwbl imi, oherwydd mae gen i greithiau wedi eu serio ar fy nghorff sy’n dangos fy mod i’n gaethwas i Iesu.

18 Rydw i’n dymuno i garedigrwydd rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist fod gyda’r ysbryd rydych chi’n ei ddangos, frodyr. Amen.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu