Datguddiad i Ioan
18 Ar ôl hyn, fe welais angel arall yn dod i lawr o’r nef ac roedd ganddo awdurdod mawr, ac roedd y ddaear wedi cael ei goleuo gan ei ogoniant. 2 Ac fe waeddodd â llais cryf, gan ddweud: “Mae hi wedi syrthio! Mae Babilon Fawr wedi syrthio, ac mae hi wedi dod yn gartref i gythreuliaid lle mae pob ysbryd* aflan a phob aderyn aflan ac atgas yn llechu! 3 Oherwydd gwin ei chwant* am anfoesoldeb rhywiol,* mae’r holl genhedloedd wedi cael eu maglu, ac mae brenhinoedd y ddaear wedi cyflawni anfoesoldeb rhywiol gyda hi, a daeth masnachwyr y ddaear yn gyfoethog oherwydd grym ei moethusrwydd digywilydd.”
4 Ac fe glywais lais arall yn dod o’r nef yn dweud: “Dewch allan ohoni, fy mhobl, os nad ydych chi eisiau pechu ynghyd â hi, ac os nad ydych chi eisiau dioddef ei phlâu. 5 Oherwydd mae ei phechodau wedi cael eu pentyrru nes iddyn nhw gyrraedd y nef, ac mae Duw wedi dwyn i gof ei gweithredoedd o anghyfiawnder.* 6 Talwch yn ôl iddi fel y gwnaeth hi drin eraill, yn wir, talwch yn ôl iddi ddwbl y pethau mae hi wedi eu gwneud; yn y cwpan a gymysgodd hi, cymysgwch ddwbl iddi. 7 I’r graddau y gwnaeth hi ei gogoneddu ei hun a byw mewn moethusrwydd digywilydd, i’r graddau hynny rhowch iddi boenedigaeth a galar. Oherwydd mae hi’n parhau i ddweud yn ei chalon: ‘Rydw i’n eistedd yn frenhines, a dydw i ddim yn wraig weddw, ac ni fydda i byth yn gweld galar.’ 8 Dyna pam mewn un dydd y bydd ei phlâu yn dod, marwolaeth a galar a newyn, ac fe fydd hi’n cael ei llosgi’n llwyr â thân, oherwydd bod Jehofa Dduw, yr un a wnaeth ei barnu hi, yn gryf.
9 “A bydd brenhinoedd y ddaear, y rhai a wnaeth gyflawni anfoesoldeb rhywiol* gyda hi a’r rhai a oedd yn byw gyda hi mewn moethusrwydd digywilydd, yn wylo ac yn eu curo eu hunain mewn galar drosti hi pan fyddan nhw’n gweld y mwg wrth iddi losgi. 10 Fe fyddan nhw’n sefyll yn bell i ffwrdd oherwydd eu bod nhw’n ofni ei phoenedigaeth ac yn dweud: ‘Druan ohonot ti, druan ohonot ti, y ddinas fawr Babilon, ti’r ddinas gadarn, oherwydd mewn un awr mae dy farnedigaeth wedi dod!’
11 “Hefyd, mae masnachwyr y ddaear yn wylo ac yn galaru drosti, oherwydd does ’na neb mwyach i brynu eu holl nwyddau, 12 sef aur, arian, gemau gwerthfawr, perlau, lliain main, defnydd porffor, sidan, a defnydd ysgarlad; a phopeth wedi ei wneud o bren persawrus; a phob math o bethau wedi eu gwneud o ifori, ac o bren gwerthfawr, copr, haearn, a marmor; 13 hefyd sinamon, sbeis o India,* arogldarth, olew persawrus, thus, gwin, olew olewydd, blawd mân, gwenith, gwartheg, defaid, ceffylau, cerbydau, caethweision, a bywydau* dynol. 14 Yn wir, mae’r ffrwyth da roeddet ti’n* ei ddymuno wedi mynd oddi wrthot ti, a’r holl ddanteithion a’r pethau ysblennydd wedi diflannu oddi wrthot ti, byth mwy i’w gweld.
15 “Bydd y masnachwyr a werthodd y pethau hyn, y rhai a ddaeth yn gyfoethog drwyddi, yn sefyll yn bell i ffwrdd oherwydd eu bod nhw’n ofni ei phoenedigaeth a byddan nhw’n wylo ac yn galaru, 16 gan ddweud: ‘Druan ohonot ti, druan ohonot ti, y ddinas fawr, wedi dy wisgo â lliain main, porffor, ac ysgarlad ac wedi dy addurno â llawer o dlysau aur, gemau gwerthfawr, a pherlau, 17 oherwydd mewn un awr mae cyfoeth mawr o’r fath wedi cael ei gymryd oddi arnat ti!’
“A dyma bob capten llong a phob un sy’n teithio ar y môr a morwyr a’r holl rai sy’n ennill bywoliaeth ar y môr yn sefyll yn bell i ffwrdd 18 ac yn gweiddi tra oedden nhw’n edrych ar y mwg wrth iddi losgi ac yn dweud: ‘Pa ddinas sy’n debyg i’r ddinas fawr?’ 19 Dyma nhw’n taflu llwch ar eu pennau ac yn gweiddi, yn wylo, ac yn galaru, a dywedon nhw: ‘Druan ohonot ti, druan ohonot ti, y ddinas fawr, lle cafodd yr holl rai oedd â llongau ar y môr eu gwneud yn gyfoethog drwy ei chyfoeth hi, oherwydd mewn un awr mae popeth wedi cael ei gymryd oddi arni hi!’
20 “Llawenha drosti hi, O nef, hefyd chi rai sanctaidd ac apostolion a phroffwydi, oherwydd bod Duw wedi cyhoeddi ei farnedigaeth arni hi er eich mwyn chi!”
21 A chododd angel cryf garreg a oedd yn debyg i faen melin mawr a’i hyrddio i mewn i’r môr, gan ddweud: “Fel hyn bydd Babilon y ddinas fawr yn cael ei hyrddio i lawr yn gyflym, ac ni fydd hi i’w gweld yn unman byth eto. 22 Ac ni fydd sŵn cantorion sy’n canu’r delyn, y ffliwt, y trwmped, na cherddorion eraill yn cael eu clywed ynot ti byth eto. Ac ni fydd unrhyw grefftwr sy’n gwneud busnes yn cael ei weld ynot ti byth eto, ac ni fydd unrhyw sŵn maen melin yn cael ei glywed ynot ti byth eto. 23 Ni fydd golau lamp yn disgleirio ynot ti byth eto, ac ni fydd llais priodfab a phriodferch yn cael ei glywed ynot ti byth eto; oherwydd dy fasnachwyr di oedd dynion pwysig y ddaear, a thrwy dy arferion ysbrydegol cafodd yr holl genhedloedd eu camarwain. 24 Yn wir, roedd hi’n euog o dywallt* gwaed y proffwydi a’r rhai sanctaidd a’r holl rai sydd wedi cael eu lladd ar y ddaear.”