Exodus
31 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 2 “Edrycha, rydw i wedi dewis Besalel, mab Uri, mab Hur o lwyth Jwda. 3 Bydda i’n ei lenwi ag ysbryd Duw, gan roi iddo ddoethineb, dealltwriaeth, a gwybodaeth am bob math o grefftwaith, 4 ar gyfer gwneud dyluniadau artistig, ar gyfer gweithio ag aur, arian, a chopr, 5 ar gyfer torri gemau a’u gosod, ac ar gyfer gwneud pob math o bethau allan o bren. 6 Ar ben hynny, rydw i wedi penodi Oholiab fab Ahisamach o lwyth Dan i’w helpu, ac rydw i am roi doethineb yng nghalonnau pob gweithiwr medrus, er mwyn iddyn nhw wneud popeth rydw i wedi ei orchymyn iti: 7 pabell y cyfarfod, arch y Dystiolaeth a’r caead sydd arni, holl offer y babell, 8 y bwrdd a’i offer, y canhwyllbren o aur pur a’i holl offer, allor yr arogldarth, 9 allor yr offrymau llosg a’i holl offer, y basn a’i stand, 10 y dillad hardd sydd wedi cael eu gweu, y dillad sanctaidd ar gyfer Aaron yr offeiriad, dillad ei feibion er mwyn iddyn nhw wasanaethu fel offeiriaid, 11 yr olew eneinio, a’r arogldarth persawrus ar gyfer y cysegr. Byddan nhw’n gwneud popeth rydw i wedi ei orchymyn iti.”
12 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 13 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw, ‘Yn bennaf, dylech chi gadw fy sabothau, gan eu bod nhw’n arwydd rhyngo i a chi drwy eich holl genedlaethau er mwyn ichi wybod fy mod i, Jehofa, yn eich sancteiddio chi. 14 Mae’n rhaid ichi gadw’r Saboth, gan ei fod yn rhywbeth sanctaidd ichi. Mae’n rhaid i bwy bynnag sy’n ei dorri gael ei roi i farwolaeth. Os ydy unrhyw un yn gweithio ar y Saboth, yna mae’n rhaid i’r person hwnnw gael ei ladd.* 15 Cewch chi weithio am chwe diwrnod, ond mae’r seithfed dydd yn saboth ar gyfer gorffwys llwyr. Mae’n rhywbeth sanctaidd i Jehofa. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gweithio ar y Saboth gael ei roi i farwolaeth. 16 Mae’n rhaid i’r Israeliaid gadw’r Saboth; dylen nhw gadw’r Saboth drwy eu holl genedlaethau. Mae hyn yn gyfamod parhaol. 17 Mae hyn yn arwydd parhaol rhyngo i a phobl Israel, oherwydd creodd Jehofa y nefoedd a’r ddaear mewn chwe diwrnod ac ar y seithfed dydd gwnaeth orffwys a’i adfywio ei hun.’”
18 Nawr unwaith iddo orffen siarad ag ef ar Fynydd Sinai, rhoddodd ddwy lech y Dystiolaeth i Moses, llechau carreg roedd Duw wedi ysgrifennu arnyn nhw â’i fys.