LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Rhufeiniaid 16
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Rhufeiniaid

      • Paul yn cyflwyno Phebe, sy’n weinidog (1, 2)

      • Cyfarchion i Gristnogion Rhufeinig (3-16)

      • Rhybudd yn erbyn rhaniadau (17-20)

      • Cyfarchion oddi wrth gyd-weithwyr Paul (21-24)

      • Y gyfrinach gysegredig wedi ei gwneud yn amlwg (25-27)

Rhufeiniaid 16:1

Troednodiadau

  • *

    Neu “Rydw i’n cyflwyno Phebe ichi.”

Rhufeiniaid 16:4

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “gyddfau.”

Rhufeiniaid 16:5

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “blaenffrwyth.”

Rhufeiniaid 16:12

Troednodiadau

  • *

    Neu “menywod.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio,

    15/1/2013,

Rhufeiniaid 16:15

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “a’r holl rai sanctaidd.”

Rhufeiniaid 16:16

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “â chusan sanctaidd.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Rhufeiniaid 16:1-27

At y Rhufeiniaid

16 Rydw i’n eich annog chi i roi croeso i Phebe,* ein chwaer, sy’n weinidog yn y gynulleidfa yn Cenchreae. 2 Os gwelwch yn dda, rhowch groeso iddi mewn ffordd sy’n deilwng o bobl sanctaidd yr Arglwydd. Rhowch pa bynnag help mae hi’n ei angen oherwydd mae hi wedi amddiffyn llawer, gan gynnwys fi.

3 Rhowch fy nghyfarchion i Prisca ac Acwila, fy nghyd-weithwyr yng Nghrist Iesu. 4 Maen nhw wedi mentro eu bywydau* er fy mwyn i. Rydw i a’r holl gynulleidfaoedd ymhlith y cenhedloedd yn ddiolchgar iddyn nhw. 5 Hefyd, cyfarchwch y gynulleidfa sy’n cwrdd yn eu tŷ. Cyfarchwch fy annwyl Epainetus, sydd ymhlith y cyntaf* o Asia i ddod yn ddilynwr i Grist. 6 Cyfarchwch Mair, sydd wedi gweithio’n galed ar eich rhan. 7 Cyfarchwch Andronicus a Jwnia, fy mherthnasau a fy nghyd-garcharorion. Mae’r apostolion yn eu hadnabod yn dda ac maen nhw wedi bod yn ddilynwyr i Grist yn hirach na mi.

8 Rhowch fy nghyfarchion i Ampliatus, fy ffrind annwyl yn yr Arglwydd. 9 Cyfarchwch Wrbanus, ein cyd-weithiwr yng Nghrist, a fy ffrind annwyl Stachus. 10 Cyfarchwch Apeles, gwas sydd wedi cael ei gymeradwyo gan Grist. Cyfarchwch y rhai sydd o dŷ Aristobwlus. 11 Cyfarchwch Herodion, fy mherthynas. Cyfarchwch y rhai sydd o dŷ Narcisus sy’n ddilynwyr i’r Arglwydd. 12 Cyfarchwch Tryffena a Tryffosa, merched* sy’n gweithio’n galed i’r Arglwydd. Cyfarchwch Persis, sy’n annwyl inni, oherwydd ei bod hi wedi gweithio’n galed i’r Arglwydd. 13 Cyfarchwch Rwffus, yr un sydd wedi cael ei ddewis yn yr Arglwydd, a’i fam, sydd wedi bod fel mam i minnau hefyd. 14 Cyfarchwch Asyncritus, Phlegon, Hermes, Patrobas, Hermas, a’r brodyr sydd gyda nhw. 15 Cyfarchwch Philologus a Jwlia, Nereus a’i chwaer, ac Olympas, a holl bobl Dduw* sydd gyda nhw. 16 Cyfarchwch eich gilydd yn gynnes.* Mae holl gynulleidfaoedd Crist yn eich cyfarch chi.

17 Nawr rydw i’n eich annog chi, frodyr, i wylio rhag y rhai sy’n creu rhaniadau ac sy’n tanseilio ffydd pobl eraill, rhai sy’n mynd yn erbyn y ddysgeidiaeth rydych chi wedi ei dysgu. Cadwch draw oddi wrthyn nhw. 18 Oherwydd dydy’r dynion hynny ddim yn gaethweision i’n Harglwydd Crist; maen nhw’n gaethweision i’w chwantau eu hunain. Maen nhw’n twyllo pobl trwy fod yn llyfn eu tafodau a thrwy siarad yn sebonllyd. 19 Ond mae pawb yn gwybod eich bod chi’n ufudd, ac rydw i’n hapus iawn am hynny. Rydw i eisiau ichi fod yn ddoeth a gwneud yr hyn sy’n dda ond i fod yn ddiniwed ac osgoi’r hyn sy’n ddrwg. 20 Yn fuan bydd y Duw sy’n rhoi heddwch yn sathru Satan o dan eich traed. Rydw i’n gweddïo y bydd ein Harglwydd Iesu yn dangos ichi ei garedigrwydd rhyfeddol.

21 Mae Timotheus, fy nghyd-weithiwr, yn anfon atoch chi ei gyfarchion, a hefyd fy mherthnasau, Lwcius, Jason, a Sosipater.

22 Ac rydw innau, Tertius, sydd wedi rhoi’r llythyr hwn ar bapur, yn eich cyfarch chi yn yr Arglwydd.

23 Mae fy lletywr Gaius, sy’n caniatáu i’r gynulleidfa gwrdd yn ei dŷ, hefyd yn eich cyfarch chi. Mae Erastus, trysorydd y ddinas, yn eich cyfarch chi, fel y mae hefyd Cwartus, ei frawd. 24 ——

25 Gall Duw eich gwneud chi’n gryf drwy gyfrwng y newyddion da rydw i’n eu cyhoeddi a thrwy’r pregethu am Iesu Grist. Mae’r neges hon wedi cael ei datgelu drwy’r gyfrinach gysegredig a oedd yn guddiedig ar hyd yr oesoedd. 26 Ond mae hyn nawr wedi cael ei ddangos inni ac wedi cael ei amlygu inni drwy’r Ysgrythurau proffwydol. Mae ein Duw tragwyddol wedi gorchymyn i hyn gael ei amlygu ymhlith y cenhedloedd er mwyn hyrwyddo ufudd-dod trwy ffydd. 27 I Dduw, yr unig un sy’n ddoeth, y mae’r gogoniant drwy Iesu Grist yn perthyn am byth. Amen.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu