Yn Ôl Ioan
9 Wrth iddo gerdded, fe welodd dyn oedd wedi bod yn ddall ers iddo gael ei eni. 2 A gofynnodd ei ddisgyblion iddo: “Rabbi, pwy wnaeth bechu, y dyn hwn neu ei rieni, i achosi iddo gael ei eni’n ddall?” 3 Atebodd Iesu: “Ni wnaeth y dyn hwn bechu na’i rieni, ond mae hyn wedi creu cyfle i weithredoedd Duw gael eu gwneud yn amlwg trwyddo ef. 4 Mae’n rhaid inni wneud gweithredoedd yr Un a wnaeth fy anfon i tra mae hi’n ddydd; mae’r nos yn dod pan na all unrhyw ddyn weithio. 5 Cyn belled â fy mod i yn y byd, goleuni’r byd ydw i.” 6 Ar ôl iddo ddweud y pethau hyn, dyma’n poeri ar y llawr a gwneud past gyda’r poer, ac yna fe wnaeth rwbio’r past ar lygaid y dyn 7 a dywedodd wrtho: “Dos i ymolchi ym mhwll Siloam” (sy’n cael ei gyfieithu “Yr Hyn Sy’n Ffrydio”). A dyma’n mynd ac yn ymolchi, a phan ddaeth yn ôl, roedd yn gweld.
8 Yna gwnaeth y cymdogion a’r rhai a oedd wedi gweld ei fod yn gardotyn ddechrau dweud: “Onid hwn ydy’r dyn a oedd yn arfer eistedd a begian?” 9 Roedd rhai yn dweud: “Hwn ydy ef.” Roedd eraill yn dweud: “Na, ond mae’n edrych yn debyg iddo.” Parhaodd y dyn i ddweud: “Fi ydy ef.” 10 Felly gofynnon nhw iddo: “Sut, felly, cafodd dy lygaid eu hagor?” 11 Atebodd ef: “Gwnaeth y dyn o’r enw Iesu bast a’i rwbio ar fy llygaid a dweud wrtho i, ‘Dos i Siloam ac ymolchi.’ Felly fe es i ac ymolchi ac fe ges i fy ngolwg.” 12 Ar hynny, dywedon nhw wrtho: “Ble mae’r dyn hwnnw?” Dywedodd ef: “Dydw i ddim yn gwybod.”
13 Gwnaethon nhw arwain y dyn a oedd wedi bod yn ddall at y Phariseaid. 14 Digwydd bod, y diwrnod pan oedd Iesu wedi gwneud y past ac agor ei lygaid oedd y Saboth. 15 Felly dechreuodd y Phariseaid hefyd ofyn i’r dyn sut roedd ef wedi cael ei olwg. Dywedodd wrthyn nhw: “Fe roddodd bast ar fy llygaid, a gwnes i ymolchi, ac rydw i’n gallu gweld.” 16 Yna dechreuodd rhai o’r Phariseaid ddweud: “Nid dyn o Dduw ydy hwn, oherwydd nid yw’n cadw’r Saboth.” Dywedodd eraill: “Sut gall dyn sy’n bechadur wneud arwyddion o’r fath?” Felly roedd ’na anghytuno yn eu plith nhw. 17 Ac eto, fe ddywedon nhw wrth y dyn dall: “Beth rwyt ti’n ei ddweud amdano, gan mai dy lygaid di gwnaeth ef eu hagor?” Dywedodd y dyn: “Mae’n broffwyd.”
18 Fodd bynnag, doedd yr Iddewon ddim yn credu ei fod wedi bod yn ddall ac wedi cael ei olwg, nes iddyn nhw alw rhieni’r dyn oedd nawr yn gallu gweld. 19 A dyma nhw’n gofyn iddyn nhw: “Ai hwn ydy eich mab chi? Ydych chi’n dweud ei fod wedi cael ei eni’n ddall? Sut, felly, mae ef yn gallu gweld nawr?” 20 Atebodd ei rieni: “Rydyn ni’n gwybod mai hwn ydy ein mab a’i fod wedi cael ei eni’n ddall. 21 Ond dydyn ni ddim yn gwybod sut mae ef yn gallu gweld nawr, a dydyn ni ddim yn gwybod pwy wnaeth agor ei lygaid. Gofynnwch iddo. Mae’n ddigon hen. Rhaid iddo siarad drosto’i hun.” 22 Dywedodd ei rieni y pethau hyn oherwydd eu bod nhw’n ofni’r Iddewon, oherwydd roedd yr Iddewon eisoes wedi cytuno y dylai unrhyw un sy’n ei gydnabod ef fel Crist gael ei dorri allan o’r synagog. 23 Dyna pam dywedodd ei rieni: “Mae’n ddigon hen. Gofynnwch iddo.”
24 Felly, am yr ail dro, galwon nhw’r dyn a oedd wedi bod yn ddall atyn nhw a dweud wrtho: “Rho ogoniant i Dduw; rydyn ni’n gwybod bod y dyn hwn yn bechadur.” 25 Atebodd ef: “Dydw i ddim yn gwybod a yw’n bechadur neu beidio. Un peth rydw i yn ei wybod, roeddwn i’n ddall, ond nawr rydw i’n gallu gweld.” 26 Yna dywedon nhw wrtho: “Beth wnaeth ef iti? Sut gwnaeth ef agor dy lygaid?” 27 Dyma’n eu hateb nhw: “Gwnes i ddweud wrthoch chi’n barod, ond eto ni wnaethoch chi wrando. Pam rydych chi eisiau clywed hynny eto? Ydych chi eisiau dod yn ddisgyblion iddo hefyd?” 28 Ar hynny, fe ddywedon nhw wrtho yn llawn dirmyg: “Rwyt ti’n ddisgybl i’r dyn hwnnw, ond rydyn ninnau’n ddisgyblion i Moses. 29 Rydyn ni’n gwybod bod Duw wedi siarad â Moses, ond ynglŷn â’r dyn hwn, dydyn ni ddim yn gwybod o le mae’n dod.” 30 Atebodd y dyn: “Mae hyn yn wir yn rhyfeddol, nad ydych chi’n gwybod o le mae’n dod, ac eto fe wnaeth agor fy llygaid. 31 Rydyn ni’n gwybod nad ydy Duw yn gwrando ar bechaduriaid, ond os oes unrhyw un yn ofni Duw ac yn gwneud ei ewyllys, mae’n gwrando arno. 32 Ers amser maith yn ôl, does neb erioed wedi clywed bod unrhyw un wedi agor llygaid rhywun a gafodd ei eni’n ddall. 33 Petai’r dyn hwn ddim yn dod o Dduw, ni allai wneud unrhyw beth o gwbl.” 34 Atebon nhw drwy ddweud wrtho: “Fe gest ti dy eni mewn pechod yn gyfan gwbl, ac eto wyt ti’n ein dysgu ni?” A dyma nhw’n ei daflu allan!
35 Clywodd Iesu eu bod nhw wedi ei daflu allan, a phan ddaeth o hyd iddo, dywedodd ef: “A wyt ti’n rhoi ffydd ym Mab y dyn?” 36 Atebodd y dyn: “A phwy ydy ef, syr, er mwyn imi allu rhoi ffydd ynddo?” 37 Dywedodd Iesu wrtho: “Rwyt ti wedi ei weld, ac yn wir, ef ydy’r un sy’n siarad â ti.” 38 Dywedodd ef: “Rydw i yn rhoi ffydd ynddo, Arglwydd.” A dyma’n ymgrymu* o’i flaen. 39 Yna dywedodd Iesu: “Fe ddes i i mewn i’r byd hwn fel y gall Duw farnu’r byd, fel y bydd y rhai sydd ddim yn gweld yn gallu gweld, ac fel y bydd y rhai sydd yn gweld yn mynd yn ddall.” 40 Clywodd rhai o’r Phariseaid a oedd gydag ef y pethau hyn, a dywedon nhw wrtho: “Ydyn ni’n ddall hefyd?” 41 Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Petasech chi’n ddall, fyddech chi ddim yn euog o bechod. Ond gan eich bod chi’n dweud eich bod chi’n gweld, rydych chi’n parhau i fod yn euog o bechod.”