Exodus
6 Felly dywedodd Jehofa wrth Moses: “Nawr byddi di’n gweld beth bydda i’n ei wneud i Pharo. Bydd llaw gref yn ei orfodi i’w hanfon nhw i ffwrdd, a bydd llaw gref yn ei orfodi i’w gyrru nhw allan o’i wlad.”
2 Yna dywedodd Duw wrth Moses: “Jehofa ydw i. 3 Ac roeddwn i’n arfer ymddangos i Abraham, Isaac, a Jacob fel y Duw Hollalluog, ond wnes i ddim datgelu’n llwyr fy enw, Jehofa, iddyn nhw. 4 Gwnes i hefyd sefydlu cyfamod â nhw i roi gwlad Canaan iddyn nhw, y wlad lle roedden nhw’n byw fel estroniaid. 5 Nawr rydw i fy hun wedi clywed grwgnach pobl Israel, y rhai mae’r Eifftiaid yn eu caethiwo, ac rydw i’n cofio fy nghyfamod.
6 “Felly dyweda wrth yr Israeliaid: ‘Jehofa ydw i, a bydda i’n eich rhyddhau o gaethiwed yn yr Aifft, a bydda i’n eich achub chi â fy mraich nerthol ac â barnedigaethau mawr. 7 A bydda i’n eich casglu chi yn bobl i mi, a bydda i’n Dduw i chi, a byddwch chi’n sicr yn gwybod mai Jehofa eich Duw ydw i, yr un sy’n eich rhyddhau chi o gaethiwed yn yr Aifft. 8 A bydda i’n dod â chi i mewn i’r wlad y gwnes i ei haddo ar lw i Abraham, Isaac, a Jacob; a bydda i’n ei rhoi yn eiddo i chi. Jehofa ydw i.’”
9 Yn hwyrach ymlaen, rhoddodd Moses y neges honno i’r Israeliaid, ond doedden nhw ddim yn gwrando ar Moses oherwydd eu bod nhw’n ddigalon ac oherwydd y caethiwed ofnadwy.
10 Yna siaradodd Jehofa â Moses, gan ddweud: 11 “Dos i mewn a dyweda wrth Pharo, brenin yr Aifft, y dylai anfon yr Israeliaid allan o’i wlad.” 12 Ond, dyma Moses yn ateb Jehofa: “Edrycha! Dydy’r Israeliaid ddim wedi gwrando arna i; sut bydd Pharo’n gwrando arna i, gan ei bod hi’n anodd imi siarad?” 13 Ond gwnaeth Jehofa sôn unwaith eto wrth Moses ac Aaron am ba orchmynion i’w rhoi i’r Israeliaid ac i Pharo, brenin yr Aifft, er mwyn dod â’r Israeliaid allan o wlad yr Aifft.
14 Dyma bennau teuluoedd yr Israeliaid: Meibion Reuben, cyntaf-anedig Israel, oedd Hanoch, Palu, Hesron, a Carmi. Dyna deuluoedd Reuben.
15 Meibion Simeon oedd Jemwel, Jamin, Ohad, Jachin, Sohar, a Saul, mab i ddynes* o Ganaan. Dyna deuluoedd Simeon.
16 Dyma enwau meibion Lefi, yn ôl llinach eu teulu: Gerson, Cohath, a Merari. Hyd bywyd Lefi oedd 137 o flynyddoedd.
17 Meibion Gerson oedd Libni a Simei, yn ôl eu teuluoedd.
18 Meibion Cohath oedd Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel. Hyd bywyd Cohath oedd 133 o flynyddoedd.
19 Meibion Merari oedd Mali a Musi.
Dyna deuluoedd y Lefiaid, yn ôl llinach eu teulu.
20 Nawr dyma Amram yn cymryd Jochebed, chwaer ei dad, yn wraig iddo. Gwnaeth hi eni Aaron a Moses iddo. Hyd bywyd Amram oedd 137 o flynyddoedd.
21 Meibion Ishar oedd Cora, Neffeg, a Sicri.
22 Meibion Ussiel oedd Misael, Elsaffan, a Sithri.
23 Nawr dyma Aaron yn cymryd Eliseba, merch Aminadab, chwaer Naason, yn wraig iddo. Gwnaeth hi eni Nadab, Abihu, Eleasar, ac Ithamar iddo.
24 Meibion Cora oedd Assir, Elcana, ac Abiasaff. Dyna deuluoedd y Corahiaid.
25 Gwnaeth Eleasar, mab Aaron, gymryd un o ferched Putiel yn wraig iddo. Gwnaeth hi eni Phineas iddo.
Dyna bennau teuluoedd y Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd.
26 Dyma ydy’r Aaron a’r Moses y dywedodd Jehofa wrthyn nhw: “Dewch â phobl Israel allan o wlad yr Aifft, fesul grŵp.” 27 Nhw a wnaeth siarad â Pharo, brenin yr Aifft, i ddod â phobl Israel allan o’r Aifft. Moses ac Aaron oedden nhw.
28 Ar y diwrnod hwnnw, pan siaradodd Jehofa â Moses yng ngwlad yr Aifft, 29 dywedodd Jehofa wrth Moses: “Jehofa ydw i. Dyweda wrth Pharo, brenin yr Aifft, bopeth rydw i’n ei ddweud wrthot ti.” 30 Yna dywedodd Moses o flaen Jehofa: “Edrycha! Mae’n anodd imi siarad, felly sut bydd Pharo’n gwrando arna i?”