Exodus
40 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 2 “Ar ddiwrnod cyntaf y mis cyntaf, dylet ti godi’r tabernacl, pabell y cyfarfod. 3 Dylet ti roi arch y Dystiolaeth ynddo, a chuddio’r Arch gyda’r llen. 4 Dylet ti ddod â’r bwrdd i mewn a threfnu ei holl offer arno, a dod â’r canhwyllbren i mewn a goleuo ei lampau. 5 Yna rho allor aur yr arogldarth o flaen arch y Dystiolaeth a rho sgrin* mynedfa’r tabernacl yn ei lle.
6 “Dylet ti roi allor yr offrymau llosg o flaen mynedfa’r tabernacl, pabell y cyfarfod, 7 a rhoi’r basn rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, a rhoi dŵr yn y basn. 8 Yna gosoda’r cwrt o amgylch y tabernacl a rho’r sgrin* i fyny ar gyfer mynedfa’r cwrt. 9 Nesaf dylet ti gymryd yr olew eneinio ac eneinio’r tabernacl a phopeth sydd ynddo, a sancteiddio’r tabernacl a’i holl offer, er mwyn iddo fod yn rhywbeth sanctaidd. 10 Dylet ti eneinio allor yr offrymau llosg a’i holl offer a sancteiddio’r allor, er mwyn iddi fod yn allor sanctaidd iawn. 11 A dylet ti eneinio’r basn a’i stand, a’i sancteiddio.
12 “Yna tyrd ag Aaron a’i feibion yn agos at fynedfa pabell y cyfarfod, a golcha nhw â dŵr. 13 A dylet ti roi’r dillad sanctaidd am Aaron a’i eneinio a’i sancteiddio, a bydd yn gwasanaethu fel offeiriad imi. 14 Ar ôl hynny, tyrd â’i feibion yn agos a rho’r mentyll amdanyn nhw. 15 Dylet ti eu heneinio nhw yn union fel gwnest ti eneinio eu tad, er mwyn iddyn nhw allu gwasanaethu fel offeiriaid imi. Bydd yr offeiriadaeth yn parhau gyda nhw o genhedlaeth i genhedlaeth am eu bod nhw wedi cael eu heneinio.”
16 Fe wnaeth Moses bopeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn iddo. Fe wnaeth yn union felly.
17 Ym mis cyntaf yr ail flwyddyn, ar ddiwrnod cyntaf y mis, cafodd y tabernacl ei godi. 18 Pan gododd Moses y tabernacl, gosododd ei sylfeini,* cododd ei fframiau, rhoddodd ei bolion i mewn, a chododd ei golofnau. 19 Lledaenodd y babell dros y tabernacl a rhoi gorchudd y babell dros honno, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.
20 Ar ôl hynny, cymerodd y Dystiolaeth a’i rhoi i mewn i’r Arch a rhoi’r polion ar yr Arch a rhoi’r caead ar yr Arch. 21 Fe ddaeth â’r Arch i mewn i’r tabernacl a rhoi llen y sgrin yn ei lle a chuddio arch y Dystiolaeth, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.
22 Nesaf rhoddodd y bwrdd ym mhabell y cyfarfod ar ochr ogleddol y tabernacl y tu allan i’r llen, 23 a gosododd y rhes o fara ar y bwrdd o flaen Jehofa, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.
24 Rhoddodd y canhwyllbren ym mhabell y cyfarfod o flaen y bwrdd, ar ochr ddeheuol y tabernacl. 25 Goleuodd y lampau o flaen Jehofa, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.
26 Nesaf rhoddodd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod o flaen y llen, 27 er mwyn gwneud i fwg godi oddi ar yr arogldarth persawrus ar yr allor, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.
28 Yna rhoddodd y sgrin* ar gyfer mynedfa’r tabernacl yn ei lle.
29 Rhoddodd allor yr offrymau llosg wrth fynedfa’r tabernacl, pabell y cyfarfod, er mwyn iddo gyflwyno’r offrymau llosg a’r offrymau grawn arni, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.
30 Yna rhoddodd y basn rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, a rhoi dŵr ynddo ar gyfer ymolchi. 31 Byddai Moses ac Aaron a’i feibion yn defnyddio’r dŵr hwnnw er mwyn golchi eu dwylo a’u traed. 32 Bryd bynnag y bydden nhw’n mynd i mewn i babell y cyfarfod neu’n mynd at yr allor, fe fydden nhw’n ymolchi, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.
33 Yn olaf gosododd y cwrt o amgylch y tabernacl a’r allor a rhoi sgrin* mynedfa’r cwrt i fyny.
Felly gorffennodd Moses y gwaith. 34 A dechreuodd y cwmwl orchuddio pabell y cyfarfod, ac fe wnaeth gogoniant Jehofa lenwi’r tabernacl. 35 Doedd Moses ddim yn gallu mynd i mewn i babell y cyfarfod oherwydd roedd y cwmwl yn aros drosto, ac roedd gogoniant Jehofa yn llenwi’r tabernacl.
36 A phan fyddai’r cwmwl yn codi oddi ar y tabernacl, byddai’r Israeliaid yn symud eu gwersyll i rywle arall. A dyna ddigwyddodd yr holl amser roedden nhw’n teithio drwy’r anialwch. 37 Ond, os nad oedd y cwmwl yn codi, nid oedden nhw’n symud eu gwersyll. Bydden nhw’n disgwyl tan y diwrnod roedd y cwmwl yn codi. 38 Roedd cwmwl Jehofa dros y tabernacl yn ystod y dydd, ac roedd tân drosto yn ystod y nos, ac roedd holl bobl Israel yn ei weld drwy’r adeg tra oedden nhw’n teithio yn yr anialwch.