LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Thesaloniaid 3
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Thesaloniaid

      • Parhau i weddïo (1-5)

      • Rhybudd yn erbyn ymddygiad afreolus (6-15)

      • Cyfarchion olaf (16-18)

2 Thesaloniaid 3:6

Troednodiadau

  • *

    Neu “cyfarwyddyd.”

  • *

    Neu efallai, “a dderbynion nhw.”

2 Thesaloniaid 3:8

Troednodiadau

  • *

    Neu “heb dalu.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    12/2019, t. 5

2 Thesaloniaid 3:12

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “a bwyta bwyd y maen nhw eu hunain wedi ei ennill.”

2 Thesaloniaid 3:14

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “gosodwch nod arno.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    11/2016, t. 12

2 Thesaloniaid 3:15

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    11/2016, t. 12

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Thesaloniaid 3:1-18

Yr Ail at y Thesaloniaid

3 Yn olaf, frodyr, parhewch i weddïo droston ni, er mwyn i air Jehofa ddal i ledaenu yn gyflym a chael ei ogoneddu, yn union fel y mae yn eich plith, 2 ac i ni gael ein hachub rhag dynion drwg iawn, oherwydd nid oes gan bawb ffydd. 3 Ond mae’r Arglwydd yn ffyddlon, a bydd ef yn eich cryfhau chi ac yn eich gwarchod chi rhag yr un drwg. 4 Ar ben hynny, mae gynnon ni hyder yn yr Arglwydd amdanoch chi, eich bod chi’n dilyn ein cyfarwyddiadau, ac y byddwch yn parhau i’w dilyn. 5 Rydyn ni’n dymuno i’r Arglwydd barhau i gyfeirio eich calonnau yn llwyddiannus at garu Duw ac at y dyfalbarhad sydd ei angen arnoch chi i wasanaethu Crist.

6 Nawr rydyn ni’n rhoi cyfarwyddiadau i chi, frodyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, i dynnu’n ôl oddi wrth bob brawd sy’n cerdded yn afreolus ac nid yn ôl y traddodiad* a dderbynioch chi* gynnon ni. 7 Rydych chi’ch hunain yn gwybod sut y dylech chi ein hefelychu ni, oherwydd dydyn ni ddim wedi ymddwyn mewn ffordd afreolus yn eich plith, 8 nac wedi bwyta bwyd unrhyw un am ddim.* I’r gwrthwyneb, drwy lafurio ac ymdrechu roedden ni’n gweithio nos a dydd er mwyn peidio â gosod baich ariannol ar unrhyw un ohonoch chi. 9 Mae gynnon ni’r awdurdod, ond roedden ni eisiau bod yn esiampl i chi i’w hefelychu. 10 Yn wir, pan oedden ni gyda chi, roedden ni’n arfer rhoi’r gorchymyn hwn ichi: “Os nad ydy rhywun eisiau gweithio, ni ddylai fwyta.” 11 Oherwydd rydyn ni’n clywed bod rhai yn cerdded yn afreolus yn eich plith, a dydyn nhw ddim yn gweithio o gwbl, ond yn busnesu mewn pethau sydd ddim yn fusnes iddyn nhw. 12 I bobl o’r fath rydyn ni’n rhoi’r gorchymyn a’r cyngor yn yr Arglwydd Iesu Grist, iddyn nhw weithio’n dawel ac ennill eu tamaid.*

13 Ond chithau frodyr, peidiwch â rhoi’r gorau i wneud daioni. 14 Ond os bydd unrhyw un yn anufudd i’n gair ni drwy’r llythyr hwn, cadwch eich llygaid arno* a stopiwch gymdeithasu ag ef, er mwyn iddo deimlo cywilydd. 15 Er hynny peidiwch â’i ystyried yn elyn, ond daliwch ati i roi cyngor iddo fel brawd.

16 Nawr rydyn ni’n gweddïo y bydd Arglwydd heddwch yn rhoi ichi heddwch yn barhaol ym mhob ffordd. Rydyn ni’n dymuno i’r Arglwydd fod gyda chi i gyd.

17 Mae’r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul, sy’n arwydd ym mhob llythyr; fel hyn rydw i’n ysgrifennu.

18 Rydyn ni’n dymuno i garedigrwydd rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist fod gyda chi i gyd.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu