LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Datguddiad 9
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Datguddiad

      • Y pumed trwmped (1-11)

      • Un gwae wedi pasio, dau arall yn dod (12)

      • Y chweched trwmped (13-21)

Datguddiad 9:4

Troednodiadau

  • *

    Neu “porfa.”

Datguddiad 9:8

Troednodiadau

  • *

    Neu “menywod.”

Datguddiad 9:11

Troednodiadau

  • *

    Sy’n golygu “Dinistr.”

  • *

    Sy’n golygu “Dinistrydd.”

Datguddiad 9:16

Troednodiadau

  • *

    Neu “20,000 wedi eu lluosi â 10,000,” hynny yw, 200,000,000.

Datguddiad 9:19

Troednodiadau

  • *

    Neu “seirff.”

Datguddiad 9:21

Troednodiadau

  • *

    Groeg, porneia. Gweler Geirfa.

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Datguddiad 9:1-21

Datguddiad i Ioan

9 Canodd y pumed angel ei drwmped. Ac fe welais seren a oedd wedi syrthio o’r nef i’r ddaear, a chafodd yr allwedd i dwll y dyfnder ei rhoi iddi. 2 Agorodd y seren dwll y dyfnder, a chododd mwg allan o’r twll fel mwg ffwrnais fawr, a chafodd yr haul ei dywyllu, hefyd yr awyr, gan fwg y twll. 3 A daeth locustiaid allan o’r mwg a dod i’r ddaear, a chafodd awdurdod ei roi iddyn nhw, yr un awdurdod sydd gan sgorpionau’r ddaear. 4 Fe ddywedwyd wrthyn nhw am beidio â niweidio glaswellt* y ddaear nac unrhyw blanhigyn nac unrhyw goeden, ond dim ond y bobl hynny sydd heb sêl Duw ar eu talcennau.

5 Ac fe gafodd y locustiaid yr awdurdod, nid i’w lladd nhw, ond i’w poenydio nhw am bum mis, ac roedd y poenydio yn debyg i boenydio sgorpion pan mae’n pigo rhywun. 6 Yn y dyddiau hynny bydd pobl yn chwilio am farwolaeth ond fyddan nhw ddim yn dod o hyd iddi ar unrhyw gyfri, a byddan nhw’n dyheu am gael marw, ond bydd marwolaeth yn ffoi oddi wrthyn nhw.

7 Ac roedd y locustiaid yn debyg o ran eu golwg i geffylau wedi eu paratoi ar gyfer brwydr; ar eu pennau roedd ’na bethau oedd yn debyg i goronau aur, ac roedd eu hwynebau yn debyg i wynebau dynol, 8 ond roedd ganddyn nhw wallt fel gwallt merched.* Ac roedd eu dannedd fel dannedd llewod, 9 ac roedd ganddyn nhw arfwisg oedd yn debyg i haearn sy’n amddiffyn y frest. Ac roedd sŵn eu hadenydd yn debyg i sŵn cerbydau rhyfel sy’n cael eu tynnu gan geffylau yn rhuthro i mewn i frwydr. 10 Hefyd, mae ganddyn nhw gynffonnau sy’n pigo fel cynffonnau sgorpionau, ac yn eu cynffonnau y mae eu hawdurdod i niweidio’r bobl am bum mis. 11 Mae ’na frenin arnyn nhw, angel y dyfnder. Yn Hebraeg ei enw yw Abadon,* ond yn yr iaith Roeg ei enw yw Apolyon.*

12 Mae’r gwae cyntaf wedi mynd heibio. Edrycha! Mae ’na ddau wae arall yn dod ar ôl y pethau hyn.

13 Canodd y chweched angel ei drwmped. Ac fe glywais un llais yn dod o gyrn yr allor aur sydd o flaen Duw 14 yn dweud wrth y chweched angel a oedd â’r trwmped: “Gollynga’n rhydd y pedwar angel sydd wedi eu rhwymo wrth afon fawr Ewffrates.” 15 A dyma’r pedwar angel sydd wedi cael eu paratoi ar gyfer yr awr a’r dydd a’r mis a’r flwyddyn yn cael eu gollwng yn rhydd i ladd traean o’r bobl.

16 Nifer y byddinoedd o wŷr meirch oedd dau fyrdd o fyrddiynau;* clywais eu rhif nhw. 17 A dyma sut y gwelais i’r ceffylau yn y weledigaeth a’r rhai oedd yn eistedd arnyn nhw: Roedd ganddyn nhw arfwisg yn amddiffyn eu brest a oedd yn goch fel tân ac yn las fel hiasinth ac yn felyn fel sylffwr, ac roedd pennau’r ceffylau yn debyg i bennau llewod, a daeth tân a mwg a sylffwr allan o’u cegau. 18 Fe gafodd traean o’r bobl eu lladd gan y tri phla hyn, gan y tân a’r mwg a’r sylffwr oedd yn dod allan o’u cegau. 19 Oherwydd mae awdurdod y ceffylau yn eu cegau ac yn eu cynffonnau, oherwydd mae eu cynffonnau’n debyg i nadroedd* ac mae ganddyn nhw bennau, ac â’r rhain maen nhw’n achosi niwed.

20 Ond ni wnaeth y gweddill o’r bobl a oedd heb gael eu lladd gan y plâu hyn edifarhau am weithredoedd eu dwylo; ni wnaethon nhw stopio addoli’r cythreuliaid a’r eilunod o aur ac o arian ac o gopr ac o garreg ac o bren, sydd ddim yn gallu gweld na chlywed na cherdded. 21 Ac ni wnaethon nhw edifarhau am eu llofruddio nac am eu harferion ysbrydegol nac am eu hanfoesoldeb rhywiol* nac am eu lladrata.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu