Genesis
28 Felly galwodd Isaac ar Jacob a’i fendithio a gorchymyn iddo: “Paid â phriodi un o ferched Canaan. 2 Dos i ffwrdd i Padan-aram i dŷ Bethuel, tad dy fam, ac o fan ’na cymera wraig i ti dy hun o blith merched Laban, brawd dy fam. 3 Bydd y Duw Hollalluog yn dy fendithio di ac yn dy wneud di’n ffrwythlon ac yn rhoi nifer mawr o ddisgynyddion iti, a byddi di’n sicr yn dod yn dyrfa o bobloedd. 4 A bydd ef yn rhoi iti fendith Abraham, i ti ac i dy ddisgynyddion,* fel y gelli di gymryd drosodd y wlad lle rwyt ti wedi bod yn byw fel estronwr, y wlad a roddodd Duw i Abraham.”
5 Felly gwnaeth Isaac anfon Jacob i ffwrdd, ac fe aeth i Padan-aram, at Laban fab Bethuel yr Aramead, brawd Rebeca, mam Jacob ac Esau.
6 Fe welodd Esau fod Isaac wedi bendithio Jacob a’i anfon i ffwrdd i Padan-aram er mwyn cymryd gwraig o’r ardal honno a’i fod, ar ôl iddo ei fendithio, wedi gorchymyn iddo, “Paid â phriodi un o ferched Canaan,” 7 a gwelodd Esau fod Jacob wedi ufuddhau i’w dad a’i fam a mynd i Padan-aram. 8 Yna sylweddolodd Esau nad oedd merched Canaan yn plesio ei dad Isaac, 9 felly aeth Esau at Ismael a phriodi Mahalath yn ogystal â’r gwragedd eraill oedd ganddo. Roedd Mahalath yn chwaer i Nebaioth ac yn ferch i Ismael, mab Abraham.
10 Gadawodd Jacob Beer-seba a theithio tuag at Haran. 11 Ymhen amser daeth i ryw fan a pharatoi i aros dros nos yno oherwydd bod yr haul wedi machlud. Felly cymerodd un o gerrig y lle hwnnw a’i gosod hi er mwyn iddo fedru gorffwys ei ben arni a gorwedd i lawr yno. 12 Yna fe gafodd freuddwyd, ac edrycha! roedd grisiau* yn codi o’r ddaear i’r nefoedd; ac roedd angylion Duw yn mynd i fyny ac i lawr y grisiau. 13 Ac edrycha! roedd Jehofa uwchben y grisiau, ac fe ddywedodd:
“Fi ydy Jehofa, Duw Abraham dy dad a Duw Isaac. Rydw i’n mynd i roi’r tir rwyt ti’n gorwedd arno i ti, ac i dy ddisgynyddion.* 14 A bydd dy ddisgynyddion* di yn dod mor niferus â llwch y ddaear, a byddi di’n ymestyn dy diriogaeth di i’r gorllewin ac i’r dwyrain ac i’r gogledd ac i’r de, a thrwyddot ti a thrwy dy ddisgynyddion* di bydd holl deuluoedd y ddaear yn bendant yn cael eu bendithio. 15 Rydw i gyda ti, ac fe wna i dy amddiffyn di le bynnag y byddi di’n mynd, ac fe wna i ddod â ti yn ôl i’r wlad hon. Wna i ddim dy adael di hyd nes fy mod i wedi gwneud yr hyn y gwnes i ei addo iti.”
16 Yna deffrôdd Jacob o’i gwsg a dweud: “Yn wir mae Jehofa yn y lle hwn, a doeddwn i ddim yn gwybod.” 17 A daeth ofn arno ac ychwanegodd: “Am le syfrdanol! Mae’n rhaid mai tŷ Dduw ydy hwn, a dyma giât y nefoedd.” 18 Felly cododd Jacob yn gynnar yn y bore a chymryd y garreg roedd ef wedi gorffwys ei ben arni a’i gosod fel colofn a thywallt* olew ar ei phen. 19 Felly rhoddodd yr enw Bethel* ar y lle hwnnw, ond cyn hynny enw’r ddinas oedd Lus.
20 Yna gwnaeth Jacob adduned, gan ddweud: “Os bydd Duw’n parhau i fod gyda mi ac yn fy amddiffyn i ar fy siwrnai ac yn rhoi bara imi i’w fwyta a dillad i’w gwisgo 21 ac rydw i’n dod yn ôl mewn heddwch i dŷ fy nhad, yna’n sicr bydd Jehofa wedi ei brofi ei hun yn Dduw imi. 22 A bydd y garreg hon, yr un rydw i wedi ei gosod fel colofn, yn dŷ i Dduw, a heb os fe wna i roi iti un rhan o ddeg o bopeth rwyt ti wedi ei roi imi.”