Genesis
41 Ar ôl dwy flynedd gyfan, breuddwydiodd Pharo ei fod yn sefyll wrth Afon Nîl. 2 Ac yno, yn dod allan o’r afon, roedd saith o wartheg tew, oedd yn edrych yn dda, ac roedden nhw’n pori wrth lan Afon Nîl. 3 Daeth saith o wartheg eraill i fyny o’r afon ar eu holau. Roedden nhw’n hyll ac yn denau, a safon nhw wrth ymyl y gwartheg tew wrth lan yr afon. 4 Yna dechreuodd y gwartheg hyll a thenau fwyta’r gwartheg oedd yn edrych yn dda ac yn dew. A gyda hynny deffrôdd Pharo.
5 Yna aeth yn ôl i gysgu ac fe gafodd ail freuddwyd. Roedd ’na saith tywysen o wenith yn tyfu ar un coesyn a oedd yn llawn ac yn dda. 6 A thyfodd saith tywysen o wenith ar eu holau a oedd yn denau ac wedi eu crino gan wynt y dwyrain. 7 A dechreuodd y tywysennau tenau o wenith lyncu’r saith tywysen o wenith a oedd yn llawn ac yn dda. Gyda hynny deffrôdd Pharo a sylweddoli mai breuddwyd oedd hyn.
8 Ond yn y bore, roedd wedi cynhyrfu. Felly anfonodd am holl ddewiniaid yr Aifft a’i holl ddynion doeth. Gwnaeth Pharo adrodd ei freuddwydion wrthyn nhw, ond doedd yr un ohonyn nhw’n gallu esbonio eu hystyr i Pharo.
9 Ar hynny dywedodd prif was gweini* Pharo wrtho: “Rydw i’n cyffesu fy mhechodau heddiw. 10 Roedd Pharo wedi digio wrth ei weision. Felly fe wnaeth fy anfon i garchardy pennaeth y gwarchodlu, a’r prif bobydd gyda mi. 11 Ar ôl hynny cawson ni’n dau freuddwyd ar yr un noson. Ac roedd gan y ddwy freuddwyd eu hystyron eu hunain. 12 Ac yno gyda ni roedd ’na Hebread ifanc, un o weision pennaeth y gwarchodlu. Pan wnaethon ni sôn wrtho amdanyn nhw, esboniodd ystyr y ddwy freuddwyd inni. 13 A digwyddodd pethau yn union fel roedd ef wedi esbonio inni. Ces i fy swydd yn ôl, ond cafodd y dyn arall ei hongian.”
14 Felly anfonodd Pharo am Joseff, a daethon nhw ag ef allan o’r carchar* ar frys. Dyma’n siafio ac yn newid ei ddillad ac yn mynd i mewn at Pharo. 15 Yna dywedodd Pharo wrth Joseff: “Fe ges i freuddwyd, ond does ’na neb i’w hesbonio. Nawr rydw i wedi clywed dy fod ti’n gallu esbonio ystyron breuddwydion.” 16 Ar hynny atebodd Joseff: “Duw ydy’r un a fydd yn rhoi newyddion da i Pharo, nid fi!”
17 Aeth Pharo ymlaen i ddweud wrth Joseff: “Yn fy mreuddwyd roeddwn i’n sefyll ar lan Afon Nîl. 18 Ac yno, yn dod allan o’r afon, roedd saith o wartheg tew a oedd yn edrych yn dda, a dechreuon nhw bori wrth lan yr afon. 19 Ac roedd ’na saith o wartheg eraill yn dod allan ar eu holau nhw, rhai gwan a oedd yn denau ac yn edrych yn wael. Dydw i erioed wedi gweld gwartheg a oedd yn edrych mor wael yn holl wlad yr Aifft. 20 A dechreuodd y gwartheg gwan a thenau fwyta’r saith o wartheg tew. 21 Ond ar ôl iddyn nhw eu bwyta, fyddai neb wedi gwybod eu bod nhw wedi gwneud hynny, oherwydd eu bod nhw’r un mor denau a hyll ag yr oedden nhw ar y cychwyn. Ac yna fe wnes i ddeffro.
22 “Ar ôl hynny gwelais yn fy mreuddwyd saith tywysen o wenith yn tyfu ar un coesyn a oedd yn llawn ac yn dda. 23 Yn tyfu ar eu holau nhw roedd saith tywysen o wenith a oedd yn denau ac wedi gwywo, ac wedi cael eu crino gan wynt y dwyrain. 24 Yna dechreuodd y tywysennau tenau o wenith lyncu’r saith tywysen dda o wenith. Felly gwnes i sôn am hyn wrth y dewiniaid, ond doedd neb yn gallu esbonio’r freuddwyd imi.”
25 Yna dywedodd Joseff wrth Pharo: “Mae gan freuddwydion Pharo yr un ystyr. Mae’r gwir Dduw wedi dweud wrth Pharo beth bydd Ef yn ei wneud. 26 Mae’r saith o wartheg da yn saith mlynedd. Felly hefyd, mae’r saith tywysen dda o wenith yn saith mlynedd. Mae gan y ddwy freuddwyd yr un ystyr. 27 Mae’r saith o wartheg tenau a gwan, y rhai a ddaeth i fyny ar eu holau nhw, yn saith mlynedd. A bydd y saith tywysen wag o wenith, a gafodd eu crino gan wynt y dwyrain, yn saith mlynedd o newyn. 28 Felly, fel dywedais i wrth Pharo: Mae’r gwir Dduw yn datgelu i Pharo beth bydd Ef yn ei wneud.
29 “Bydd ’na ddigonedd o fwyd yn holl wlad yr Aifft am saith mlynedd. 30 Ond yn sicr bydd ’na saith mlynedd o newyn ar ôl hynny, a bydd pobl yn anghofio’n llwyr am yr adeg pan oedd ’na ddigonedd o fwyd yng ngwlad yr Aifft, a bydd y newyn yn difetha’r wlad. 31 Ac ni fydd neb yn cofio’r adeg pan oedd ’na ddigonedd o fwyd yn y wlad, oherwydd bydd y newyn a fydd yn dod wedyn mor ddifrifol. 32 Mae Pharo wedi breuddwydio am hyn ddwywaith oherwydd bod y gwir Dduw wedi penderfynu y bydd yn bendant yn gwneud hyn i gyd, a bydd y gwir Dduw yn gwneud hyn yn fuan.
33 “Felly gad i Pharo nawr chwilio am ddyn call a doeth a rhoi awdurdod iddo dros wlad yr Aifft. 34 Gad i Pharo weithredu a phenodi arolygwyr yn y wlad, a dylai ef gasglu un rhan o bump o gynnyrch yr Aifft yn ystod y saith mlynedd pan fydd ’na ddigonedd o fwyd. 35 A gad iddyn nhw gasglu’r holl fwyd yn ystod y blynyddoedd da hyn sydd i ddod, a gad iddyn nhw storio grawn o dan awdurdod Pharo yn stordai’r dinasoedd. 36 Dylai’r bwyd gael ei ddefnyddio yn ystod y saith mlynedd o newyn a fydd yn digwydd yng ngwlad yr Aifft, fel na fydd y bobl na’r anifeiliaid yn marw yn y newyn.”
37 Roedd y syniad hwn yn swnio’n dda i Pharo ac i’w holl weision. 38 Felly dywedodd Pharo wrth ei weision: “Oes ’na unrhyw ddyn arall sy’n debyg i Joseff sydd ag ysbryd Duw ynddo?” 39 Yna dywedodd Pharo wrth Joseff: “Gan fod Duw wedi datgelu hyn i gyd i ti, does ’na neb sydd mor ddoeth a chall â ti. 40 Byddi di’n gofalu am fy nhŷ, a bydd fy holl bobl yn hollol ufudd iti. Dim ond fi fydd yn bwysicach na ti am fy mod i’n frenin.” 41 Ac ychwanegodd Pharo: “Edrycha, rydw i’n dy wneud di’n gyfrifol am holl wlad yr Aifft.” 42 Yna tynnodd Pharo ei fodrwy* oddi ar ei law ei hun a’i rhoi ar law Joseff, a rhoddodd ef ddillad o liain main amdano a chadwyn o aur am ei wddf. 43 Ar ben hynny, rhoddodd ef ail gerbyd y brenin iddo er mwyn iddo deithio ynddo, a bydden nhw’n gweiddi, “Avrékh!”* o’i flaen. Felly gosododd ef dros holl wlad yr Aifft.
44 Aeth Pharo ymlaen i ddweud wrth Joseff: “Pharo ydw i, ond ni fydd unrhyw ddyn yn cael gwneud unrhyw beth* yn holl wlad yr Aifft heb dy ganiatâd di.” 45 Ar ôl hynny rhoddodd Pharo yr enw Saffnath-panea ar Joseff, a rhoddodd ef Asnath ferch Potiffera, offeiriad On,* iddo yn wraig. A dechreuodd Joseff arolygu popeth oedd yn cael ei wneud yng ngwlad yr Aifft.* 46 Roedd Joseff yn 30 mlwydd oed pan safodd o flaen Pharo* brenin yr Aifft.
Yna aeth Joseff allan oddi wrth Pharo a theithio trwy gydol gwlad yr Aifft. 47 Ac yn ystod y saith mlynedd o ddigonedd, cynhyrchodd y tir lawer o gnydau. 48 A pharhaodd i gasglu holl fwyd gwlad yr Aifft yn ystod y saith mlynedd, a byddai’n storio’r bwyd yn y dinasoedd. Ym mhob dinas byddai’n storio’r bwyd o’r caeau o’i chwmpas. 49 Parhaodd Joseff i bentyrru llawer o rawn, fel tywod y môr. Yn y pen draw gwnaethon nhw roi’r gorau i’w bwyso oherwydd roedd yn amhosib cadw cofnod ohono.
50 Cyn i flynyddoedd y newyn ddechrau, cafodd Joseff ddau fab, drwy Asnath ferch Potiffera, offeiriad On.* 51 Rhoddodd Joseff yr enw Manasse* ar y cyntaf-anedig, oherwydd dywedodd ef, “Mae Duw wedi gwneud imi anghofio fy holl drafferthion a holl deulu fy nhad.” 52 A rhoddodd yr enw Effraim* ar yr ail fab, oherwydd dywedodd ef, “Mae Duw wedi fy ngwneud i’n ffrwythlon yn y wlad lle rydw i wedi dioddef.”
53 Yna daeth y saith mlynedd o ddigonedd yng ngwlad yr Aifft i ben, 54 a dechreuodd y saith mlynedd o newyn, yn union fel roedd Joseff wedi dweud. Lledaenodd y newyn ym mhob gwlad, ond roedd ’na fara* yn holl wlad yr Aifft. 55 Yn y pen draw, roedd holl wlad yr Aifft yn dioddef oherwydd y newyn, a dechreuodd y bobl alw ar Pharo am fara. Yna dywedodd Pharo wrth yr Eifftwyr i gyd: “Ewch at Joseff, a gwnewch beth bynnag mae’n ei ddweud wrthoch chi.” 56 Parhaodd y newyn drwy’r ddaear gyfan. Yna dechreuodd Joseff agor y stordai o rawn a’i werthu i’r Eifftwyr, oherwydd roedd y newyn yn drwm yng ngwlad yr Aifft. 57 Ar ben hynny, daeth pobl y ddaear gyfan i’r Aifft i brynu oddi wrth Joseff, oherwydd roedd y newyn yn drwm drwy’r byd i gyd.