LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Genesis 48
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Genesis

      • Jacob yn bendithio dau fab Joseff (1-12)

      • Effraim yn cael bendith mwy (13-22)

Genesis 48:4

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “had.”

Genesis 48:11

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “had.”

Genesis 48:12

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “oddi wrth ei liniau.”

Genesis 48:15

Troednodiadau

  • *

    Neu “fy nhad-cu.”

Genesis 48:16

Troednodiadau

  • *

    Neu “fy nhad-cu.”

Genesis 48:19

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “had.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Genesis 48:1-22

Genesis

48 Ar ôl y pethau hyn, clywodd Joseff: “Edrycha, mae dy dad yn mynd yn wan.” Gyda hynny cymerodd ei ddau fab Manasse ac Effraim gydag ef. 2 Pan gafodd Jacob wybod bod ei fab Joseff wedi dod i’w weld, gwnaeth Israel ymdrech fawr i eistedd i fyny ar ei wely. 3 A dywedodd Jacob wrth Joseff:

“Gwnaeth Duw Hollalluog ymddangos imi yn Lus yng ngwlad Canaan a fy mendithio i. 4 A dywedodd wrtho i, ‘Rydw i’n dy wneud di’n ffrwythlon, a bydda i’n dy wneud di’n dad i lawer, ac yn dad i lawer o genhedloedd, a bydda i’n rhoi’r wlad hon i dy ddisgynyddion* er mwyn iddyn nhw ei meddiannu yn barhaol.’ 5 Nawr mae dy ddau fab a gafodd eu geni iti yng ngwlad yr Aifft, cyn imi ddod atat ti yn yr Aifft, yn feibion imi. Bydd Effraim a Manasse yn feibion imi yn union fel mae Reuben a Simeon. 6 Ond bydd y plant sy’n cael eu geni iti ar eu holau nhw yn perthyn i ti. Byddan nhw’n cael eu hetifeddiaeth yn enw eu brodyr. 7 A phan oeddwn i yn dod o Padan, bu farw Rachel wrth fy ymyl yng ngwlad Canaan, tra oedd ’na dipyn i fynd eto cyn cyrraedd Effrath. Felly gwnes i ei chladdu hi yno ar y ffordd i Effrath, hynny yw, Bethlehem.”

8 Yna gwelodd Israel feibion Joseff, a gofynnodd: “Pwy yw’r rhain?” 9 Felly dywedodd Joseff wrth ei dad: “Dyma fy meibion mae Duw wedi eu rhoi imi yn y lle hwn.” Gyda hynny dywedodd: “Tyrd â nhw ata i, plîs, er mwyn imi eu bendithio nhw.” 10 Nawr roedd Israel yn colli ei olwg oherwydd ei oed, a doedd ef ddim yn gallu gweld. Felly daeth Joseff â nhw yn agos ato, a gwnaeth ef eu cusanu nhw a’u cofleidio nhw. 11 Dywedodd Israel wrth Joseff: “Wnes i erioed ddychmygu y byddwn i’n gweld dy wyneb eto, ond mae Duw wedi gadael imi weld dy ddisgynyddion* hefyd.” 12 Yna gwnaeth Joseff eu tynnu nhw yn ôl oddi wrth Israel,* ac ymgrymu gyda’i wyneb ar y llawr.

13 Cymerodd Joseff Effraim yn ei law dde, a Manasse yn ei law chwith. Yna daeth â’i ddau fab yn agos at Israel, a rhoddodd Effraim wrth ochr chwith Israel, a Manasse wrth ei ochr dde. 14 Ond, estynnodd Israel ei law dde a’i rhoi ar ben Effraim, er mai ef oedd yr ieuengaf, a rhoddodd ei law chwith ar ben Manasse. Gwnaeth hyn yn fwriadol oherwydd Manasse oedd y cyntaf-anedig. 15 Yna bendithiodd ef Joseff a dweud:

“O Dduw, y gwir Dduw y gwnaeth fy nhaid* Abraham a fy nhad Isaac gerdded o’i flaen,

Y gwir Dduw sydd wedi bod yn fy mugeilio i drwy gydol fy mywyd hyd heddiw,

16 Yr Un sydd wedi bod yn defnyddio ei angel i fy achub rhag fy holl drafferthion, plîs bendithia’r bechgyn.

Gad i bobl wybod fy mod i, fy nhaid* Abraham, a fy nhad Isaac, yn gyndadau iddyn nhw,

A gad iddyn nhw ddod yn bobl niferus ar y ddaear.”

17 Pan welodd Joseff fod ei dad yn cadw ei law dde ar ben Effraim, doedd ef ddim yn hapus am hynny, felly ceisiodd afael yn llaw ei dad a’i symud o ben Effraim i ben Manasse. 18 Dywedodd Joseff wrth ei dad: “Na dad, nid fel ’na, oherwydd dyma’r cyntaf-anedig. Rho dy law dde ar ei ben ef.” 19 Ond parhaodd ei dad i wrthod a dweud: “Rydw i’n gwybod hynny fy mab, rydw i’n gwybod. Bydd ef hefyd yn dod yn genedl fawr o bobl. Ond bydd ei frawd ieuengaf yn dod yn fwy nag ef, a bydd ei ddisgynyddion* yn ddigon niferus i ffurfio cenhedloedd cyfan.” 20 Felly aeth ymlaen i’w bendithio nhw y diwrnod hwnnw, gan ddweud:

“Bydd pobl Israel yn defnyddio dy enw di pan fyddan nhw’n bendithio ei gilydd, ac yn dweud,

‘Gad i Dduw dy fendithio di fel gwnaeth ef fendithio Effraim a Manasse.’”

Felly parhaodd i roi Effraim o flaen Manasse.

21 Yna dywedodd Israel wrth Joseff: “Edrycha, rydw i ar fin marw, ond yn bendant bydd Duw yn aros gyda ti ac yn mynd â ti yn ôl i wlad dy gyndadau. 22 Rydw i am roi mwy o dir i ti nag i dy frodyr, un darn o dir yn ychwanegol, y darn gwnes i ei gymryd oddi wrth yr Amoriaid gyda fy nghleddyf a fy mwa.”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu