Numeri
27 Yna dyma ferched Seloffehad, mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, o deuluoedd Manasse fab Joseff, yn dod at Moses. Enwau ei ferched oedd Mala, Noa, Hogla, Milca, a Tirsa. 2 Safon nhw o flaen Moses, Eleasar yr offeiriad, y penaethiaid, a’r gynulleidfa gyfan wrth fynedfa pabell y cyfarfod, gan ddweud: 3 “Bu farw ein tad yn yr anialwch, ond doedd ef ddim yn rhan o’r grŵp a ddaeth at ei gilydd yn erbyn Jehofa, sef cefnogwyr Cora, ond bu farw am ei bechod ei hun, a doedd ganddo ddim meibion. 4 Pam dylai enw ein tad ddiflannu o’i deulu, am nad oedd ganddo fab? Rho etifeddiaeth inni ymysg brodyr ein tad.” 5 Felly cyflwynodd Moses eu hachos o flaen Jehofa.
6 Yna dywedodd Jehofa hyn wrth Moses: 7 “Mae merched Seloffehad yn llygad eu lle. Dylet ti roi’r eiddo iddyn nhw fel etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad a throsglwyddo etifeddiaeth eu tad iddyn nhw. 8 A dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Os bydd dyn yn marw heb gael mab, yna dylech chi roi ei etifeddiaeth i’w ferch. 9 Ac os nad oes ganddo ferch, dylech chi roi ei etifeddiaeth i’w frodyr. 10 Ac os nad oes ganddo frodyr, dylech chi roi ei etifeddiaeth i frodyr ei dad. 11 Ac os nad oes gan ei dad frodyr, dylech chi roi ei etifeddiaeth i’w berthynas agosaf drwy waed, a bydd ef yn ei feddiannu. Bydd y penderfyniad hwn yn ddeddf i’r Israeliaid, yn union fel mae Jehofa wedi gorchymyn i Moses.’”
12 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dringa i ben y mynydd hwn yn Abarim, iti gael gweld y wlad bydda i’n ei rhoi i’r Israeliaid. 13 Unwaith iti ei gweld, byddi dithau hefyd yn cael dy gasglu at dy bobl,* yn union fel Aaron dy frawd, 14 oherwydd pan oedd y gynulleidfa yn cweryla â mi yn anialwch Sin, gwnest ti wrthryfela yn erbyn fy ngorchymyn drwy beidio â fy sancteiddio i wrth ymyl dyfroedd Meriba yn Cades yn anialwch Sin.”
15 Yna dywedodd Moses wrth Jehofa: 16 “O Jehofa, Duw ysbryd pob person, penoda ddyn dros y gynulleidfa 17 a fydd yn mynd allan ac yn dod i mewn o’u blaenau nhw ac a fydd yn eu harwain nhw i mewn ac allan, fel na fydd cynulleidfa Jehofa yn dod fel defaid heb fugail.” 18 Felly dywedodd Jehofa wrth Moses: “Cymera Josua fab Nun, dyn galluog,* a gosoda dy law arno. 19 Yna gwna iddo sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad ac o flaen y gynulleidfa gyfan, a dylet ti ei benodi yn arweinydd o flaen eu llygaid. 20 Dylet ti drosglwyddo peth o dy awdurdod iddo ef, er mwyn i gynulleidfa gyfan yr Israeliaid wrando arno. 21 Bydd yn sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad a fydd yn defnyddio’r Urim i ofyn am arweiniad Jehofa ar ei ran. Ar ei orchymyn ef byddan nhw’n mynd allan, ac ar ei orchymyn ef byddan nhw’n dod i mewn, ef a’r holl Israeliaid gydag ef a’r gynulleidfa gyfan.”
22 Felly gwnaeth Moses yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn iddo. Cymerodd Josua a gwneud iddo sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad a’r gynulleidfa gyfan, 23 a gosododd ei ddwylo arno a’i benodi’n arweinydd, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.