Numeri
33 Dyma’r camau ar daith yr Israeliaid pan aethon nhw allan o wlad yr Aifft yn ôl eu grwpiau milwrol o dan arweiniad Moses ac Aaron. 2 Ar orchymyn Jehofa, cofnododd Moses bob man roedden nhw’n ei adael yn ystod pob cam o’u taith, a dyma oedd y camau: 3 Gadawon nhw Rameses yn y mis cyntaf, ar y pymthegfed* diwrnod o’r mis. Ar y diwrnod yn syth ar ôl y Pasg, aeth yr Israeliaid allan yn hyderus yng ngolwg yr Eifftiaid i gyd. 4 Yn y cyfamser, roedd yr Eifftiaid yn claddu pob cyntaf-anedig a gafodd ei ladd gan Jehofa, oherwydd gwnaeth Jehofa farnu eu duwiau a’u cosbi nhw.
5 Felly dyma’r Israeliaid yn gadael Rameses ac yn gwersylla yn Succoth. 6 Yna gadawon nhw Succoth a gwersylla yn Etham, sydd ar ffin yr anialwch. 7 Nesaf gadawon nhw Etham a throi yn ôl tuag at Pihahiroth, sy’n wynebu Baal-seffon, a gwnaethon nhw wersylla o flaen Migdol. 8 Ar ôl hynny gadawon nhw Pihahiroth a chroeson nhw drwy ganol y môr i’r anialwch, a dyma nhw’n martsio* am dri diwrnod yn anialwch Etham ac yn gwersylla ym Mara.
9 Yna gadawon nhw Mara a daethon nhw i Elim. Nawr yn Elim roedd ’na 12 ffynnon ddŵr a 70 o goed palmwydd, felly gwnaethon nhw wersylla yno. 10 Nesaf gadawon nhw Elim a gwersylla wrth y Môr Coch. 11 Ar ôl hynny gadawon nhw’r Môr Coch a gwersylla yn anialwch Sin. 12 Yna gadawon nhw anialwch Sin a gwersylla yn Doffca. 13 Yn nes ymlaen gadawon nhw Doffca a gwersylla yn Alus. 14 Nesaf gadawon nhw Alus a gwersylla yn Reffidim, lle doedd ’na ddim dŵr i’r bobl i’w yfed. 15 Ar ôl hynny gadawon nhw Reffidim a gwersylla yn anialwch Sinai.
16 Gadawon nhw anialwch Sinai a gwersylla yn Cibroth-hattaafa. 17 Yna gadawon nhw Cibroth-hattaafa a gwersylla yn Haseroth. 18 Ar ôl hynny gadawon nhw Haseroth a gwersylla yn Rithma. 19 Nesaf gadawon nhw Rithma a gwersylla yn Rimmon-peres. 20 Yna gadawon nhw Rimmon-peres a gwersylla yn Libna. 21 Gadawon nhw Libna a gwersylla yn Rissa. 22 Nesaf gadawon nhw Rissa a gwersylla yn Cehelatha. 23 Yna gadawon nhw Cehelatha a gwersylla wrth Fynydd Seffer.
24 Ar ôl hynny gadawon nhw Fynydd Seffer a gwersylla yn Harada. 25 Yna gadawon nhw Harada a gwersylla ym Maceloth. 26 Nesaf gadawon nhw Maceloth a gwersylla yn Tahath. 27 Ar ôl hynny gadawon nhw Tahath a gwersylla yn Tera. 28 Yna gadawon nhw Tera a gwersylla ym Mithca. 29 Wedyn gadawon nhw Mithca a gwersylla yn Hasmona. 30 Nesaf gadawon nhw Hasmona a gwersylla ym Moseroth. 31 Yna gadawon nhw Moseroth a gwersylla yn Bene-jaacan. 32 A gadawon nhw Bene-jaacan a gwersylla yn Hor-haggidgad. 33 Nesaf gadawon nhw Hor-haggidgad a gwersylla yn Jotbatha. 34 Wedyn gadawon nhw Jotbatha a gwersylla yn Abrona. 35 Yna gadawon nhw Abrona a gwersylla yn Esion-geber. 36 Ar ôl hynny gadawon nhw Esion-geber a gwersylla yn anialwch Sin, hynny yw, Cades.
37 Yn nes ymlaen gadawon nhw Cades a gwersyllon nhw wrth Fynydd Hor, ar ffin gwlad Edom. 38 Yna, yn ôl gorchymyn Jehofa, aeth Aaron yr offeiriad i fyny Mynydd Hor a bu farw yno yn y ddeugeinfed* flwyddyn ar ôl i’r Israeliaid adael gwlad yr Aifft, ar y diwrnod cyntaf o’r pumed mis. 39 Roedd Aaron yn 123 mlwydd oed pan fu farw ar Fynydd Hor.
40 Nawr dyma frenin Arad, y Canaanead a oedd yn byw yn y Negef yng ngwlad Canaan, yn clywed bod yr Israeliaid yn dod.
41 Ymhen amser gadawon nhw Fynydd Hor a gwersylla yn Salmona. 42 Ar ôl hynny gadawon nhw Salmona a gwersylla yn Punon. 43 Nesaf gadawon nhw Punon a gwersylla yn Oboth. 44 Yna gadawon nhw Oboth a gwersylla yn Ie-abarim, ar ffin Moab. 45 Wedyn gadawon nhw Ie-im a gwersylla yn Dibon-gad. 46 Ar ôl hynny gadawon nhw Dibon-gad a gwersylla yn Almon-diblathaim. 47 Yna gadawon nhw Almon-diblathaim a gwersylla ym mynyddoedd Abarim o flaen Nebo. 48 O’r diwedd dyma nhw’n gadael mynyddoedd Abarim ac yn gwersylla yn anialwch Moab wrth yr Iorddonen gyferbyn â Jericho. 49 Dalion nhw ati i wersylla ar hyd yr Iorddonen, o Beth-jesimoth hyd at Abel-sittim, yn anialwch Moab.
50 Siaradodd Jehofa â Moses yn anialwch Moab wrth yr Iorddonen gyferbyn â Jericho, gan ddweud: 51 “Siarada â’r Israeliaid a dweud wrthyn nhw, ‘Rydych chi’n croesi’r Iorddonen ac yn mynd i mewn i wlad Canaan. 52 Dylech chi yrru i ffwrdd holl bobl y wlad a dinistrio eu cerrig cerfiedig a’u delwau metel i gyd, ac fe ddylech chi ddinistrio eu holl uchelfannau sanctaidd. 53 A byddwch chi’n meddiannu’r wlad ac yn byw ynddi, oherwydd yn bendant bydda i’n rhoi’r wlad yn eiddo ichi. 54 Dylech chi daflu coelbren i rannu’r wlad ymysg eich teuluoedd. Dylech chi roi etifeddiaeth fwy i’r grwpiau mawr, ac etifeddiaeth lai i’r grwpiau bach. Bydd y coelbren yn dangos lle bydd etifeddiaeth pob un. Byddwch chi’n derbyn eich eiddo fel etifeddiaeth yn ôl llwythau eich tadau.
55 “‘Ond, os nad ydych chi’n gyrru pobl y wlad allan, bydd y rhai sydd ar ôl fel pigau yn eich llygaid ac fel drain yn eich ochrau, a byddan nhw’n achosi helynt ichi yn y wlad lle byddwch chi’n byw. 56 A bydda i’n gwneud i chi beth roeddwn i’n bwriadu ei wneud iddyn nhw.’”