Actau’r Apostolion
19 Tra oedd Apolos yng Nghorinth, aeth Paul trwy ardaloedd y canolbarth a daeth i lawr i Effesus. Yno dyma’n dod o hyd i rai disgyblion 2 a dywedodd wrthyn nhw: “A wnaethoch chi dderbyn yr ysbryd glân pan ddaethoch chi’n gredinwyr?” Atebon nhw: “Dydyn ni erioed wedi clywed bod ’na ysbryd glân.” 3 Felly dywedodd ef: “Sut cawsoch chi, felly, eich bedyddio?” Dywedon nhw: “Fe gawson ni’n bedyddio yn ôl dysgeidiaeth Ioan.” 4 Dywedodd Paul: “Roedd Ioan yn bedyddio â bedydd a oedd yn symbol o edifeirwch, gan ddweud wrth y bobl am gredu yn yr un a oedd yn dod ar ei ôl, hynny yw, yn Iesu.” 5 Ar ôl clywed hyn, fe gawson nhw eu bedyddio yn enw’r Arglwydd Iesu. 6 A phan roddodd Paul ei ddwylo arnyn nhw, daeth yr ysbryd glân arnyn nhw, a dechreuon nhw siarad mewn ieithoedd tramor a phroffwydo. 7 Roedd ’na tua 12 o ddynion i gyd.
8 Am dri mis, roedd yn siarad yn eofn yn y synagog, yn rhoi anerchiadau am Deyrnas Dduw ac yn rhesymu drwy ddefnyddio perswâd. 9 Ond pan oedd rhai yn eu hystyfnigrwydd yn gwrthod credu, ac yn siarad yn ddilornus o flaen y dyrfa am y Ffordd, tynnodd i ffwrdd oddi wrthyn nhw a mynd â’r disgyblion gydag ef, gan roi anerchiadau bob dydd yn narlithfa Tyranus. 10 Roedd hyn yn parhau am ddwy flynedd, nes i bawb oedd yn byw yn nhalaith Asia, yr Iddewon a’r Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd.
11 Ac roedd Duw yn parhau i wneud gwyrthiau eithriadol o rymus drwy ddwylo Paul, 12 fel y byddai hyd yn oed cadachau a ffedogau a oedd wedi cyffwrdd â’i gorff yn cael eu cymryd at y rhai sâl, a byddai eu clefydau yn eu gadael nhw, a’r ysbrydion drwg yn dod allan. 13 Ond roedd rhai o’r Iddewon a oedd yn teithio o gwmpas yn bwrw cythreuliaid allan hefyd yn ceisio defnyddio enw’r Arglwydd Iesu uwchben y rhai a oedd ag ysbrydion drwg ynddyn nhw; bydden nhw’n dweud: “Rydw i’n eich gorchymyn chi drwy Iesu, yr un mae Paul yn ei bregethu.” 14 Ac roedd ’na saith mab i brif offeiriad Iddewig o’r enw Scefa yn gwneud hyn. 15 Ond atebodd yr ysbryd drwg drwy ddweud wrthyn nhw: “Rydw i’n adnabod Iesu ac rydw i’n gwybod yn iawn am Paul; ond pwy ydych chi?” 16 Gyda hynny, dyma’r dyn a’r ysbryd drwg ynddo yn neidio arnyn nhw, a’u trechu nhw un ar ôl y llall, a’u gorchfygu, nes iddyn nhw ffoi allan o’r tŷ hwnnw yn noeth ac wedi eu clwyfo. 17 Daeth pawb i wybod am hyn, yr Iddewon a’r Groegiaid a oedd yn byw yn Effesus; a syrthiodd ofn arnyn nhw i gyd, ac roedd enw’r Arglwydd Iesu yn parhau i gael ei fawrygu. 18 A byddai llawer o’r rhai a ddechreuodd gredu yn dod ac yn cyffesu ac yn sôn am eu harferion yn agored. 19 Yn wir, fe wnaeth cryn nifer o’r rhai a oedd yn ymarfer hudoliaeth gasglu eu llyfrau ynghyd a’u llosgi nhw o flaen pawb. A dyma nhw’n gwneud cyfri ohonyn nhw a darganfod eu bod nhw’n werth 50,000 o ddarnau arian. 20 Felly mewn ffordd rymus, roedd gair Jehofa yn parhau i gynyddu a mynd o nerth i nerth.
21 Ar ôl i’r pethau hyn ddigwydd, penderfynodd Paul* y byddai’n teithio i Jerwsalem ar ôl mynd trwy Facedonia ac Achaia. Dywedodd: “Ar ôl mynd yno, mae’n rhaid imi hefyd weld Rhufain.” 22 Felly anfonodd i Facedonia ddau o’r rhai a oedd yn gweini arno, Timotheus ac Erastus, ond arhosodd ef ei hun am beth amser yn nhalaith Asia.
23 Ar yr adeg honno, cododd helynt mawr ynglŷn â’r Ffordd. 24 Roedd ’na ddyn o’r enw Demetrius, gof arian a oedd yn creu temlau Artemis wedi eu gwneud o arian, yn dod ag elw sylweddol i’r crefftwyr. 25 Casglodd ef y rhain at ei gilydd, ynghyd ag eraill a oedd yn gweithio ar bethau o’r fath, a dweud: “Ddynion, rydych chi’n gwybod yn iawn fod ein ffyniant ni yn dod o’r busnes hwn. 26 Nawr rydych chi’n gweld ac yn clywed bod y Paul hwn, nid yn unig yn Effesus ond drwy dalaith Asia gyfan bron, wedi perswadio tyrfa fawr ac wedi newid eu meddyliau, gan ddweud nad ydy’r duwiau o waith llaw yn dduwiau go iawn. 27 Ar ben hynny, mae ’na beryg nid yn unig y bydd y busnes hwn sydd gynnon ni yn colli ei enw da ond hefyd y bydd teml ein duwies fawr Artemis yn cael ei hystyried yn ddiwerth, a bydd y dduwies hon sy’n cael ei haddoli drwy holl dalaith Asia a’r byd i gyd yn colli ei gogoniant.” 28 Ar ôl clywed hyn a dod yn llawn dicter, dechreuodd y dynion weiddi: “Mawr yw Artemis yr Effesiaid!”
29 Felly daeth y ddinas yn llawn anhrefn, a dyma nhw i gyd yn rhuthro i mewn i’r theatr, gan lusgo gyda nhw Gaius ac Aristarchus, Macedoniaid, cyd-deithwyr Paul. 30 Roedd Paul yn fodlon mynd i mewn at y bobl, ond ni wnaeth y disgyblion ganiatáu iddo. 31 Gwnaeth hyd yn oed rhai o gomisiynwyr gwyliau a gemau a oedd yn gyfeillgar ag ef anfon neges ato, yn erfyn arno i beidio â mentro mynd i mewn i’r theatr. 32 Yn wir, roedd rhai yn gweiddi un peth ac eraill yn gweiddi rhywbeth arall; oherwydd roedd y dyrfa yn anhrefnus a doedd y rhan fwyaf ohonyn nhw ddim yn gwybod pam roedden nhw wedi dod at ei gilydd. 33 Felly dyma nhw’n dod ag Alecsander allan o’r dyrfa, ac roedd yr Iddewon yn ei wthio ymlaen, a gwnaeth Alecsander arwydd â’i law ac roedd eisiau esbonio’r sefyllfa i’r bobl. 34 Ond ar ôl iddyn nhw sylweddoli ei fod yn Iddew, dechreuon nhw i gyd weiddi ag un llais am tua dwy awr: “Mawr yw Artemis yr Effesiaid!”
35 Ar ôl i weinyddwr y ddinas* dawelu’r dorf o’r diwedd, dywedodd: “Ddynion Effesus, pwy sydd ddim yn gwybod, ymhlith dynion, fod dinas yr Effesiaid yn geidwad i deml Artemis fawr ac i’r ddelw a syrthiodd o’r nef? 36 Gan na all neb wadu’r pethau hyn, dylech chi gadw eich pennau a pheidio â bod yn fyrbwyll. 37 Oherwydd rydych chi wedi dod â’r dynion hyn yma sydd ddim yn dwyn o demlau nac yn cablu ein duwies ni. 38 Felly os oes gan Demetrius a’r crefftwyr sydd gydag ef achos yn erbyn rhywun, mae ’na ddyddiau pan fydd llysoedd yn cael eu cynnal ac mae proconsyliaid* ar gael; gadewch iddyn nhw ddwyn cyhuddiadau yn erbyn ei gilydd. 39 Ond os ydych chi’n chwilio am rywbeth y tu hwnt i hynny, mae’n rhaid penderfynu hynny mewn cynulliad swyddogol. 40 Oherwydd rydyn ni’n wir mewn peryg o gael ein cyhuddo o annog gwrthryfel ynglŷn â’r mater hwn heddiw, gan na allwn ni gyflwyno unrhyw reswm dros y dyrfa afreolus hon.” 41 Ac ar ôl dweud hyn, anfonodd ef y dyrfa i ffwrdd.