Exodus
16 Ar ôl iddyn nhw adael Elim, daeth pob un o’r Israeliaid i anialwch Sin, sydd rhwng Elim a Sinai, ar bymthegfed* diwrnod yr ail fis ar ôl iddyn nhw adael gwlad yr Aifft.
2 Yna dechreuodd yr Israeliaid i gyd gwyno yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch. 3 Roedd yr Israeliaid yn dweud wrthyn nhw dro ar ôl tro: “Byddai’n well petai Jehofa wedi ein rhoi ni i farwolaeth yng ngwlad yr Aifft tra oedden ni’n bwyta cig ac yn bwyta bara nes ein bod ni’n llawn. Nawr rwyt ti wedi dod â ni allan i’r anialwch i roi’r gynulleidfa gyfan i farwolaeth drwy newyn.”
4 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Bydda i’n anfon bara i lawr o’r nefoedd fel glaw, a bydd rhaid i bob un fynd allan i gasglu’r hyn sydd ei angen arno bob dydd, er mwyn imi roi’r bobl ar brawf i weld a fyddan nhw’n dilyn fy nghyfraith neu beidio. 5 Ond ar y chweched diwrnod, pan fyddan nhw’n paratoi’r hyn maen nhw wedi ei gasglu, bydd rhaid iddyn nhw gasglu dwywaith cymaint ag y byddan nhw’n ei gasglu ar y diwrnodau eraill.”
6 Felly dywedodd Moses ac Aaron wrth yr holl Israeliaid: “Heno byddwch chi’n bendant yn gwybod mai Jehofa sydd wedi dod â chi allan o wlad yr Aifft. 7 Yn y bore byddwch chi’n gweld gogoniant Jehofa, oherwydd mae wedi clywed eich cwynion yn erbyn Jehofa. Pam rydych chi’n cwyno yn ein herbyn ni? Dydyn ni ddim yn bwysig.” 8 Aeth Moses yn ei flaen: “Pan fydd Jehofa’n rhoi cig ichi i’w fwyta gyda’r nos a bara yn y bore i’ch llenwi chi, byddwch chi’n gweld bod Jehofa wedi clywed eich bod chi’n cwyno yn ei erbyn. Ond pwy ydyn ni? Dydy eich cwynion ddim yn ein herbyn ni, ond yn erbyn Jehofa.”
9 Yna dywedodd Moses wrth Aaron: “Dyweda wrth yr Israeliaid i gyd, ‘Dewch at eich gilydd o flaen Jehofa, oherwydd mae wedi clywed eich cwynion.’” 10 Yn syth ar ôl i Aaron siarad â holl bobl Israel, fe wnaethon nhw droi a wynebu’r anialwch, ac edrycha! dyma ogoniant Jehofa yn ymddangos yn y cwmwl.
11 Gwnaeth Jehofa barhau i siarad â Moses, gan ddweud: 12 “Rydw i wedi clywed cwynion yr Israeliaid. Dyweda wrthyn nhw, ‘Yn y gwyll* byddwch chi’n bwyta cig, ac yn y bore byddwch chi’n cael digonedd o fara, a byddwch chi’n bendant yn gwybod mai fi yw Jehofa eich Duw.’”
13 Felly’r noson honno, daeth soflieir* a gorchuddio’r gwersyll, ac yn y bore roedd ’na haenen o wlith o gwmpas y gwersyll. 14 Pan gododd yr haenen o wlith, roedd ’na rywbeth tebyg i hadau bach ar wyneb yr anialwch, fel haenen denau o eira.* 15 O weld hyn, dechreuodd yr Israeliaid ddweud wrth ei gilydd, “Beth ydy hwn?” oherwydd nad oedden nhw wedi ei weld o’r blaen. Dywedodd Moses wrthyn nhw: “Dyma’r bara mae Jehofa wedi ei roi ichi fel bwyd. 16 Dyma beth mae Jehofa wedi ei orchymyn, ‘Dylai pob un ei gasglu yn ôl faint mae’n gallu bwyta. Mae’n rhaid ichi gymryd omer* ar gyfer pawb sydd yn eich pabell.’” 17 Dechreuodd yr Israeliaid wneud hyn; dyma nhw’n ei gasglu, rhai yn casglu llawer a rhai yn casglu dim ond ychydig. 18 Pan fydden nhw’n ei fesur yn ôl yr omer, nid oedd gormod gan y person a gasglodd lawer ac nid oedd prinder gan y person a gasglodd ychydig. Roedden nhw’n ei gasglu yn ôl beth roedden nhw’n gallu ei fwyta.
19 Yna dywedodd Moses wrthyn nhw: “Ddylai neb gadw dim ohono tan y bore.” 20 Ond ni wnaethon nhw wrando ar Moses. Pan wnaeth rhai dynion ei gadw tan y bore, dyma gynrhon yn tyfu ynddo ac roedd yn drewi, a gwylltiodd Moses. 21 Bydden nhw’n ei gasglu bob bore, pob un yn ôl beth roedd yn gallu ei fwyta. Yna roedd yn toddi yng ngwres yr haul.
22 Ar y chweched diwrnod, gwnaethon nhw gasglu dwywaith cymaint o fara, dau omer ar gyfer pob person. Felly daeth holl benaethiaid y gynulleidfa ac adrodd hyn wrth Moses. 23 Ar hynny dywedodd wrthyn nhw: “Dyma beth mae Jehofa wedi ei ddweud. Yfory fe fydd ’na ddiwrnod o orffwys llwyr, saboth sanctaidd i Jehofa. Mae’n rhaid ichi bobi’r hyn a fydd ei angen arnoch chi, a berwi’r hyn a fydd ei angen arnoch chi; yna cadwch beth bynnag sydd ar ôl tan y bore.” 24 Felly gwnaethon nhw ei gadw tan y bore, yn union fel roedd Moses wedi gorchymyn, ac nid oedd yn drewi nac yn llawn cynrhon. 25 Yna dywedodd Moses: “Mae’n rhaid ichi ei fwyta heddiw, oherwydd ei fod yn ddiwrnod saboth i Jehofa. Fyddwch chi ddim yn dod o hyd iddo ar y llawr heddiw. 26 Byddwch chi’n ei gasglu am chwe diwrnod, ond ar y seithfed diwrnod, y Saboth, fydd ’na ddim byd.” 27 Fodd bynnag, gwnaeth rhai o’r bobl fynd allan i gasglu ar y seithfed diwrnod, ond doedd ’na ddim byd yno.
28 Felly dywedodd Jehofa wrth Moses: “Am faint byddwch chi’n gwrthod cadw at fy ngorchmynion a fy neddfau? 29 Cymerwch sylw o’r ffaith fod Jehofa wedi rhoi’r Saboth ichi. Dyna pam, ar y chweched diwrnod, mae’n rhoi digon o fara ichi ar gyfer dau ddiwrnod. Mae’n rhaid i bawb aros lle maen nhw; ni ddylai neb fynd allan ar y seithfed diwrnod.” 30 Felly roedd y bobl yn cadw’r Saboth* ar y seithfed diwrnod.
31 Dyma bobl Israel yn galw’r bara yn “manna.”* Roedd yn wyn fel hadau coriander, ac roedd yn blasu fel cacennau tenau a mêl ynddyn nhw. 32 Yna dywedodd Moses: “Dyma beth mae Jehofa wedi ei orchymyn, ‘Cadwch omer o’r manna i un ochr fel rhywbeth i’w gadw drwy eich cenedlaethau, fel byddan nhw’n gweld y bara y gwnes i ei roi ichi i’w fwyta yn yr anialwch pan oeddwn i’n eich cymryd chi allan o wlad yr Aifft.’” 33 Felly dywedodd Moses wrth Aaron: “Cymera jar a rho omer o’r manna ynddi a’i gosod o flaen Jehofa fel rhywbeth i’w gadw drwy eich cenedlaethau.” 34 Gosododd Aaron y jar o flaen y Dystiolaeth er mwyn ei chadw’n saff, yn union fel gorchmynnodd Jehofa i Moses. 35 Roedd yr Israeliaid yn bwyta’r manna am 40 mlynedd, nes iddyn nhw gyrraedd gwlad lle roedd pobl eraill yn byw. Roedden nhw’n bwyta’r manna nes iddyn nhw gyrraedd ffin gwlad Canaan. 36 Nawr mae omer yn ddegfed ran o effa.*