Nehemeia
3 Dyma Eliasib yr archoffeiriad a’i frodyr yr offeiriaid yn codi i adeiladu Porth y Defaid. Gwnaethon nhw ei sancteiddio* a gosod ei ddrysau yn eu lle; gwnaethon nhw ei sancteiddio mor bell â Thŵr Mea,* mor bell â Thŵr Hananel. 2 Ac wrth eu hochr nhw, roedd dynion Jericho yn adeiladu; ac wrth eu hochr nhwthau roedd Saccur fab Imri yn adeiladu.
3 Adeiladodd meibion Hasena Borth y Pysgod; gwnaethon nhw osod ei fframwaith pren, ac yna rhoi ei ddrysau, ei folltau, a’i farrau yn eu lle. 4 Ac wrth eu hochr nhw roedd Meremoth, mab Ureia, mab Haccos yn gwneud gwaith atgyweirio, ac wrth eu hochr nhwthau roedd Mesulam, mab Berecheia, mab Mesesabel yn gwneud gwaith atgyweirio, ac wrth eu hochr nhwthau roedd Sadoc fab Baana yn gwneud gwaith atgyweirio. 5 Ac wrth eu hochr nhw roedd y Tecoiaid yn gwneud gwaith atgyweirio, ond doedd eu dynion pwysig ddim yn ddigon gostyngedig i gael rhan yng ngwaith eu meistri.
6 Gwnaeth Joiada fab Pasea a Mesulam fab Besodeia atgyweirio Porth yr Hen Ddinas; gwnaethon nhw osod ei fframwaith pren ac yna rhoi ei ddrysau, ei folltau, a’i farrau yn eu lle. 7 Wrth eu hochr nhw roedd Melateia y Gibeoniad a Jadon y Meronothiad yn gwneud gwaith atgyweirio. Roedden nhw’n ddynion o Gibeon a Mispa a oedd o dan awdurdod llywodraethwr yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon.* 8 Wrth eu hochr nhw roedd Ussiel fab Harhaia, un o’r gofaint aur, yn gwneud gwaith atgyweirio, ac wrth ei ochr ef roedd Hananeia, un o’r cymysgwyr persawr, yn gwneud gwaith atgyweirio; a gwnaethon nhw osod llawr cerrig yn Jerwsalem mor bell â’r Wal Lydan. 9 Wrth eu hochr nhw roedd Reffaia fab Hur, tywysog hanner rhanbarth Jerwsalem, yn gwneud gwaith atgyweirio. 10 Ac wrth eu hochr nhw roedd Jedaia fab Harumaff yn gwneud gwaith atgyweirio o flaen ei dŷ ei hun, ac wrth ei ochr ef roedd Hattus fab Hasabneia yn gwneud gwaith atgyweirio.
11 Atgyweiriodd Malcheia fab Harim a Hasub fab Pahath-moab ran arall o’r wal, yn ogystal â Thŵr y Ffyrnau.* 12 Ac wrth eu hochr nhw roedd Salum fab Halohes, tywysog hanner rhanbarth Jerwsalem, yn gwneud gwaith atgyweirio gyda’i ferched.
13 Cafodd Porth y Dyffryn ei atgyweirio gan Hanun a phobl Sanoa. Gwnaethon nhw ei adeiladu ac yna gosod ei ddrysau, ei folltau, a’i farrau yn eu lle, a gwnaethon nhw atgyweirio 1,000 cufydd* o’r wal, mor bell â Phorth y Pentyrrau Lludw. 14 Cafodd Porth y Pentyrrau Lludw ei atgyweirio gan Malcheia fab Rechab, tywysog rhanbarth Beth-hacerem; gwnaeth ef ei adeiladu a gosod ei ddrysau, ei folltau, a’i farrau yn eu lle.
15 Salun fab Colhose, tywysog rhanbarth Mispa, a wnaeth atgyweirio Porth y Ffynnon. Gwnaeth ef adeiladu’r porth a’i do, a gosod ei ddrysau, ei folltau, a’i farrau yn eu lle, a hefyd atgyweirio wal Pwll y Gamlas, wrth ymyl Gardd y Brenin ac mor bell â’r grisiau sy’n mynd i lawr o Ddinas Dafydd.
16 Nesaf ato ef roedd Nehemeia fab Asbuc, tywysog hanner rhanbarth Beth-sur, yn gwneud gwaith atgyweirio o flaen Beddau Teulu Dafydd, ac mor bell â’r pwll a oedd wedi cael ei adeiladu ac mor bell â Thŷ’r Rhai Cryf.
17 Nesaf ato ef roedd y Lefiaid yn gwneud gwaith atgyweirio: Rehum fab Bani, ac wrth ei ochr ef roedd Hasabeia, tywysog hanner rhanbarth Ceila, yn gwneud gwaith atgyweirio ar gyfer ei ranbarth ef. 18 Nesaf ato ef roedd eu brodyr yn gwneud gwaith atgyweirio: Bafai fab Henadad, tywysog hanner rhanbarth Ceila.
19 Ac wrth ei ochr ef roedd Eser fab Jesua, tywysog Mispa, yn atgyweirio rhan arall o’r wal o flaen y llethr sy’n mynd i fyny at yr Arfdy wrth y Bwtres.
20 Nesaf ato ef gweithiodd Baruch fab Sabbai yn frwdfrydig ac atgyweiriodd ran arall o’r wal, o’r Bwtres mor bell â mynedfa tŷ Eliasib yr archoffeiriad.
21 Nesaf ato ef atgyweiriodd Meremoth, mab Ureia, mab Haccos ran arall o’r wal, o fynedfa tŷ Eliasib mor bell â phen arall tŷ Eliasib.
22 A nesaf ato ef roedd yr offeiriaid, dynion o ranbarth yr Iorddonen,* yn gwneud gwaith atgyweirio. 23 Nesaf atyn nhw roedd Benjamin a Hasub yn gwneud gwaith atgyweirio o flaen eu tŷ eu hunain. Nesaf atyn nhw roedd Asareia, mab Maaseia, mab Ananeia yn gwneud gwaith atgyweirio yn agos at ei dŷ ei hun. 24 Nesaf ato ef roedd Binnui fab Henadad yn atgyweirio rhan arall o’r wal, o dŷ Asareia mor bell â’r Bwtres ac mor bell â’r gornel.
25 Nesaf ato ef roedd Palal fab Usai yn gwneud gwaith atgyweirio o flaen y Bwtres a’r tŵr sy’n mynd allan o Dŷ’r Brenin,* yr un uchaf sy’n perthyn i Gwrt y Gwarchodlu. Nesaf ato ef roedd Pedaia fab Paros.
26 Ac roedd gweision y deml* a oedd yn byw yn Offel yn gwneud gwaith atgyweirio mor bell â’r tu blaen i Borth y Dŵr yn y dwyrain a’r tŵr sy’n ymestyn allan o’r wal.
27 Nesaf atyn nhw roedd y Tecoiaid yn atgyweirio rhan arall o’r wal, o’r tu blaen i’r tŵr mawr sy’n ymestyn allan o’r wal mor bell â wal Offel.
28 Roedd yr offeiriaid yn gwneud gwaith atgyweirio uwchben Porth y Ceffylau, pob un o flaen ei dŷ ei hun.
29 Nesaf atyn nhw roedd Sadoc fab Immer yn gwneud gwaith atgyweirio o flaen ei dŷ ei hun, a nesaf ato ef roedd Semaia fab Sechaneia, ceidwad Porth y Dwyrain, yn gwneud gwaith atgyweirio.
30 Nesaf ato ef roedd Hananeia fab Selemeia, a Hanun chweched mab Salaff, yn atgyweirio rhan arall o’r wal.
Nesaf ato ef roedd Mesulam fab Berecheia yn gwneud gwaith atgyweirio o flaen ei neuadd ei hun.
31 Nesaf ato ef roedd Malcheia, gof aur,* yn gwneud gwaith atgyweirio mor bell â thŷ gweision y deml* a’r masnachwyr, o flaen Porth yr Archwiliad ac mor bell â’r ystafell ar y to ar y gornel.
32 A rhwng yr ystafell ar y to ar y gornel a Phorth y Defaid, roedd y gofaint aur a’r masnachwyr yn gwneud gwaith atgyweirio.