Nehemeia
10 Y rhai a wnaeth ei gadarnhau drwy roi eu sêl arno oedd:
Nehemeia y llywodraethwr,* mab Hachaleia,
A Sedeceia, 2 Seraia, Asareia, Jeremeia, 3 Passur, Amareia, Malcheia, 4 Hattus, Sebaneia, Maluc, 5 Harim, Meremoth, Obadeia, 6 Daniel, Ginnethon, Baruch, 7 Mesulam, Abeia, Mijamin, 8 Maasia, Bilgai, Semaia; y rhain yw’r offeiriaid.
9 A hefyd y Lefiaid: Jesua fab Asaneia, Binnui o blith meibion Henadad, Cadmiel, 10 a’u brodyr Sebaneia, Hodeia, Celita, Pelaia, Hanan, 11 Mica, Rehob, Hasabeia, 12 Saccur, Serebeia, Sebaneia, 13 Hodeia, Bani, a Beninu.
14 Penaethiaid y bobl: Paros, Pahath-moab, Elam, Sattu, Bani, 15 Bunni, Asgad, Bebai, 16 Adoneia, Bigfai, Adin, 17 Ater, Heseceia, Assur, 18 Hodeia, Hasum, Besai, 19 Hariff, Anathoth, Nebai, 20 Magpias, Mesulam, Hesir, 21 Mesesabel, Sadoc, Jadua, 22 Pelatia, Hanan, Anaia, 23 Hosea, Hananeia, Hasub, 24 Halohes, Pileha, Sobec, 25 Rehum, Hasabna, Maaseia, 26 Aheia, Hanan, Anan, 27 Maluc, Harim, a Baana.
28 Dyma weddill y bobl—yr offeiriaid, y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, gweision y deml,* a phawb a oedd wedi eu gwahanu eu hunain oddi wrth bobl y cenhedloedd er mwyn dilyn Cyfraith y gwir Dduw, ynghyd â’u gwragedd, eu meibion, a’u merched, yr holl rai â gwybodaeth a dealltwriaeth*— 29 yn ymuno â’u brodyr, eu dynion pwysig, ac yn tyngu llw* i ddilyn Cyfraith y gwir Dduw a gafodd ei rhoi drwy Moses gwas y gwir Dduw, ac i ddilyn holl orchmynion Jehofa ein Harglwydd yn ofalus, yn ogystal â’i farnedigaethau a’i ddeddfau. 30 Ni wnawn ni roi ein merched yn wragedd i bobl y wlad, ac ni wnawn ni gymryd eu merched nhw i fod yn wragedd i’n meibion ni.
31 Os bydd pobl y wlad yn dod â’u nwyddau a phob math o rawn i’w gwerthu ar ddydd y Saboth, fyddwn ni ddim yn prynu unrhyw beth oddi wrthyn nhw ar y Saboth nac ar unrhyw ddiwrnod sanctaidd. Hefyd, yn y seithfed flwyddyn, byddwn ni’n gadael i’r tir orffwys ac yn dileu pob dyled.
32 Hefyd, mae pob un ohonon ni wedi addo rhoi traean o sicl* bob blwyddyn ar gyfer gwasanaeth tŷ* ein Duw, 33 ar gyfer y bara sydd wedi ei gyflwyno i Dduw,* yr offrwm grawn rheolaidd, offrwm llosg rheolaidd y Sabothau a’r lleuadau newydd, ac ar gyfer y gwleddoedd tymhorol, ar gyfer y pethau sanctaidd, ar gyfer yr offrymau dros bechod er mwyn gwneud yn iawn am bechodau Israel, ac ar gyfer holl waith tŷ ein Duw.
34 Hefyd, gwnaethon ni daflu coelbren i benderfynu pryd byddai pob un o deuluoedd yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r bobl yn darparu coed ar gyfer tŷ ein Duw ar yr amser penodedig bob blwyddyn. Byddai’r coed hynny’n cael eu llosgi ar allor Jehofa ein Duw yn ôl beth sydd wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith. 35 Bob blwyddyn, byddwn ni hefyd yn dod â’r cynnyrch cyntaf o’n tir ac o bob math o goed ffrwythau i dŷ Jehofa, 36 yn ogystal â phob cyntaf-anedig o blith ein meibion a’n hanifeiliaid—yn ôl beth sydd wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith—a phob cyntaf-anedig o blith ein gwartheg a’n preiddiau. Byddwn ni’n dod â nhw i dŷ ein Duw, at yr offeiriaid sy’n gwasanaethu yn nhŷ ein Duw. 37 Hefyd, byddwn ni’n dod â’n blawd* bras cyntaf, ein cyfraniadau, ffrwyth pob math o goed, gwin newydd, ac olew, at yr offeiriaid ar gyfer storfeydd* tŷ ein Duw. Byddwn ni hefyd yn rhoi’r degwm o holl gynnyrch ein tir i’r Lefiaid, oherwydd y Lefiaid yw’r rhai sy’n casglu’r degymau yn ein dinasoedd amaethyddol i gyd.
38 Ac mae’n rhaid i’r offeiriad, mab Aaron, fod gyda’r Lefiaid pan fydd y Lefiaid yn casglu’r degwm, a dylai’r Lefiaid offrymu un rhan o ddeg o’r degwm i dŷ ein Duw, i ystafelloedd y stordy. 39 Oherwydd dylai’r Israeliaid a meibion y Lefiaid ddod â chyfraniad y grawn, y gwin newydd, a’r olew i’r storfeydd, a dyna ble mae llestri’r cysegr, yn ogystal â’r offeiriaid sy’n gwasanaethu, y porthorion, a’r cantorion. Ni fyddwn ni’n esgeuluso tŷ ein Duw.