Nehemeia
12 Dyma’r offeiriaid a’r Lefiaid a aeth i fyny gyda Sorobabel fab Sealtiel yn ogystal â Jesua: Seraia, Jeremeia, Esra, 2 Amareia, Maluc, Hattus, 3 Sechaneia, Rehum, Meremoth, 4 Ido, Ginnetho, Abeia, 5 Mijamin, Maadia, Bilga, 6 Semaia, Joiarib, Jedaia, 7 Salu, Amoc, Hilceia, a Jedaia. Y rhain oedd penaethiaid yr offeiriaid a’u brodyr yn nyddiau Jesua.
8 Y Lefiaid oedd Jesua, Binnui, Cadmiel, Serebeia, Jwda, a Mataneia a oedd yn arwain y caneuon o ddiolchgarwch ynghyd â’i frodyr. 9 Ac roedd eu brodyr Bacbuceia ac Unni yn sefyll gyferbyn â nhw fel gwarchodwyr.* 10 Daeth Jesua yn dad i Joiacim, daeth Joiacim yn dad i Eliasib, daeth Eliasib yn dad i Joiada, 11 daeth Joiada yn dad i Jonathan, a daeth Jonathan yn dad i Jadua.
12 Dyma oedd yr offeiriaid yn nyddiau Joiacim, pennau’r teuluoedd estynedig: ar gyfer Seraia, Meraia; ar gyfer Jeremeia, Hananeia; 13 ar gyfer Esra, Mesulam; ar gyfer Amareia, Jehohanan; 14 ar gyfer Melichu, Jonathan; ar gyfer Sebaneia, Joseff; 15 ar gyfer Harim, Adna; ar gyfer Meraioth, Helcai; 16 ar gyfer Ido, Sechareia; ar gyfer Ginnethon, Mesulam; 17 ar gyfer Abeia, Sicri; ar gyfer Miniamin, . . . ;* ar gyfer Moadeia, Piltai; 18 ar gyfer Bilga, Sammua; ar gyfer Semaia, Jehonathan; 19 ar gyfer Joiarib, Matenai; ar gyfer Jedaia, Ussi; 20 ar gyfer Salai, Calai; ar gyfer Amoc, Eber; 21 ar gyfer Hilceia, Hasabeia; ar gyfer Jedaia, Nethanel.
22 Yn nyddiau Eliasib, Joiada, Johanan, a Jadua, cafodd enwau pennau teuluoedd estynedig y Lefiaid a’r offeiriaid eu cofnodi, hyd at frenhiniaeth Dareius y Persiad.
23 Cafodd enwau’r Lefiaid a oedd yn bennau ar y teuluoedd estynedig eu cofnodi yn llyfr hanes y cyfnod hwnnw, hyd at ddyddiau Johanan fab Eliasib. 24 Penaethiaid y Lefiaid oedd Hasabeia, Serebeia, a Jesua fab Cadmiel, ac roedd eu brodyr, y gwarchodwyr, yn sefyll gyferbyn â nhw mewn grwpiau i foli Duw ac i roi diolch iddo, yn ôl cyfarwyddiadau Dafydd, dyn y gwir Dduw. 25 Roedd Mataneia, Bacbuceia, Obadeia, Mesulam, Talmon, ac Accub yn borthorion, yn gwarchod y storfeydd wrth ymyl y pyrth. 26 Roedden nhw’n gwasanaethu yn ystod dyddiau Joiacim, mab Jesua, mab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y llywodraethwr ac Esra yr offeiriad a’r copïwr.*
27 Pan ddaeth yr amser i gysegru waliau Jerwsalem, dyma nhw’n chwilio am y Lefiaid ac yn dod â nhw i Jerwsalem o’r holl lefydd roedden nhw’n byw er mwyn dathlu’r cysegriad yn llawen, gyda chaneuon o ddiolchgarwch a gyda symbalau, offerynnau llinynnol, a thelynau. 28 A daeth meibion y cantorion* at ei gilydd o’r rhanbarth,* o’r ardal o gwmpas Jerwsalem, o bentrefi’r Netoffathiaid, 29 o Beth-gilgal, ac o gaeau Geba ac Asmafeth, oherwydd roedd y cantorion wedi adeiladu pentrefi iddyn nhw eu hunain yr holl ffordd o gwmpas Jerwsalem. 30 A dyma’r offeiriaid a’r Lefiaid yn eu puro eu hunain, yn ogystal â phuro’r bobl, y pyrth, a’r wal.
31 Yna cymerais dywysogion Jwda i fyny ar ben y wal. Yn ogystal â hynny, gwnes i benodi dau gôr mawr i roi diolch, a grwpiau i’w dilyn nhw, a cherddodd un côr i’r dde ar hyd y wal tuag at Borth y Pentyrrau Lludw. 32 Roedd Hosaia a hanner tywysogion Jwda yn cerdded y tu ôl iddyn nhw, 33 yn ogystal ag Asareia, Esra, Mesulam, 34 Jwda, Benjamin, Semaia, a Jeremeia. 35 Gyda nhw roedd rhai o’r offeiriaid* a oedd â thrwmpedi: Sechareia fab Jonathan, fab Semaia, fab Mataneia, fab Michea, fab Saccur, fab Asaff, 36 a’i frodyr Semaia, Asareel, Milalai, Gilalai, Maai, Nethanel, Jwda, a Hanani, gydag offerynnau Dafydd, dyn y gwir Dduw; ac aeth Esra y copïwr* o’u blaenau nhw. 37 Wrth Borth y Ffynnon gwnaethon nhw barhau i gerdded i fyny ar hyd y wal, gan fynd heibio Grisiau Dinas Dafydd, a gwnaethon nhw basio heibio Tŷ Dafydd ac aethon nhw ymlaen i Borth y Dŵr tua’r dwyrain.
38 Cerddodd y côr arall a oedd yn rhoi diolch i’r cyfeiriad arall, a gwnes i a hanner y bobl ddilyn y côr, ar y wal dros Dŵr y Ffyrnau* ac ymlaen i’r Wal Lydan 39 ac i fyny dros Borth Effraim ac yna i Borth yr Hen Ddinas ac ymlaen i Borth y Pysgod, Tŵr Hananel, Tŵr Mea, ac yna i Borth y Defaid; a gwnaethon nhw stopio wrth Borth y Gwarchodwyr.
40 Yn y pen draw, roedd y ddau gôr a oedd yn rhoi diolch yn sefyll o flaen tŷ’r gwir Dduw, ac roeddwn i a hanner y dirprwy reolwyr gyda mi yn gwneud yr un peth, 41 yn ogystal â’r offeiriaid Eliacim, Maaseia, Miniamin, Michea, Elioenai, Sechareia, a Hananeia, gyda’r trwmpedi, 42 a Maaseia, Semaia, Eleasar, Ussi, Jehohanan, Malcheia, Elam, ac Eser. A chanodd y cantorion yn uchel o dan arweiniad Israhia.
43 Ar y diwrnod hwnnw, dyma nhw’n offrymu llawer iawn o aberthau, ac roedden nhw wrth eu boddau, oherwydd roedd y gwir Dduw wedi gwneud iddyn nhw lawenhau â llawenydd mawr. Roedd y merched* a’r plant hefyd yn gorfoleddu, fel bod sŵn llawenydd Jerwsalem i’w glywed o bell i ffwrdd.
44 Ar y diwrnod hwnnw, cafodd dynion eu penodi dros y storfeydd ar gyfer y cyfraniadau, y cynnyrch cyntaf, a’r degymau. Roedden nhw i fod i gasglu’r cynnyrch o gaeau’r dinasoedd, y cynnyrch sy’n perthyn i’r offeiriaid a’r Lefiaid yn ôl y Gyfraith a’i roi yn y storfeydd, ac roedd ’na lawenydd yn Jwda oherwydd yr offeiriaid a’r Lefiaid a oedd yn gwasanaethu. 45 A dechreuon nhw, yn ogystal â’r cantorion a’r porthorion, ofalu am y dyletswyddau yng ngwasanaeth eu Duw ac am y cyfrifoldeb o buro popeth, yn ôl cyfarwyddiadau Dafydd a’i fab Solomon. 46 Oherwydd amser maith yn ôl yn nyddiau Dafydd ac Asaff, roedd ’na arweinwyr ar gyfer y cantorion ac ar gyfer y caneuon o fawl ac o ddiolchgarwch i Dduw. 47 Ac yn nyddiau Sorobabel ac yn nyddiau Nehemeia, rhoddodd Israel i gyd gyfraniadau i’r cantorion a’r porthorion, yn ôl eu hanghenion bob dydd. Gwnaethon nhw hefyd neilltuo cyfraniadau ar gyfer y Lefiaid, a neilltuodd y Lefiaid gyfraniadau ar gyfer disgynyddion Aaron.