Esther
3 Ar ôl hyn, dyma’r Brenin Ahasferus yn dyrchafu Haman fab Hammedatha un o ddisgynyddion Agag. Rhoddodd iddo safle uwch na’r holl dywysogion eraill a oedd gydag ef, 2 ac roedd pob un o weision y brenin a oedd ym mhorth y brenin yn plygu’n isel ac yn ymgrymu o flaen Haman, fel roedd y brenin wedi gorchymyn. Ond roedd Mordecai yn gwrthod plygu’n isel ac ymgrymu. 3 Yna dywedodd gweision y brenin a oedd ym mhorth y brenin wrth Mordecai: “Pam rwyt ti’n anwybyddu gorchymyn y brenin?” 4 Bydden nhw’n gofyn hyn iddo ddydd ar ôl dydd, ond doedd ef ddim yn gwrando arnyn nhw. Yna dywedon nhw wrth Haman am y peth er mwyn gweld a fyddai ymddygiad Mordecai yn cael ei oddef; oherwydd roedd ef wedi dweud wrthyn nhw ei fod yn Iddew.
5 Nawr pan welodd Haman fod Mordecai yn gwrthod plygu’n isel ac ymgrymu o’i flaen, gwylltiodd Haman yn lân. 6 Ond roedd yn casáu’r syniad o ladd Mordecai yn unig, oherwydd roedd ef wedi clywed am bobl Mordecai. Felly dyma Haman yn dechrau cynllwynio i ladd yr holl Iddewon drwy deyrnas gyfan Ahasferus, sef holl bobl Mordecai.
7 Yn y mis cyntaf, hynny yw, mis Nisan, yn y ddeuddegfed* flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Ahasferus, dyma nhw’n taflu Pwr (hynny yw, y Coelbren) o flaen Haman i ddewis y dydd a’r mis, a syrthiodd ar y deuddegfed* mis, hynny yw, Adar. 8 Yna dywedodd Haman wrth y Brenin Ahasferus: “Mae ’na grŵp o bobl ar wasgar ymysg y bobloedd yn holl daleithiau dy deyrnas. Mae eu cyfreithiau nhw’n wahanol i gyfreithiau pob cenedl arall a dydyn nhw ddim yn ufuddhau i gyfreithiau’r brenin, ac ni fyddai’n dda i’r brenin adael llonydd iddyn nhw. 9 Os yw’n plesio’r brenin, dylai deddf gael ei hysgrifennu yn gorchymyn iddyn nhw gael eu dinistrio. Bydda i’n talu 10,000 talent* o arian i’r swyddogion i’w roi yn y trysordy brenhinol.”*
10 Gyda hynny, tynnodd y brenin ei fodrwy* oddi ar ei law a’i rhoi i Haman fab Hammedatha yr Agagiad, gelyn yr Iddewon. 11 Dywedodd y brenin wrth Haman: “Rydw i’n rhoi’r arian a’r bobl i ti, ac fe gei di wneud fel y mynni di â nhw.” 12 Yna cafodd ysgrifenyddion y brenin eu galw ar y trydydd diwrnod ar ddeg* o’r mis cyntaf. Dyma nhw’n ysgrifennu datganiad yn cynnwys popeth a orchmynnodd Haman i raglawiaid y brenin, i lywodraethwyr y taleithiau, ac i dywysogion y gwahanol bobloedd. Ysgrifennon nhw i bob talaith yn ei hysgrifen ei hun, ac i bob cenedl yn ei hiaith ei hun. Cafodd y datganiad ei ysgrifennu yn enw’r Brenin Ahasferus a’i selio â modrwy’r brenin.
13 Aeth negeswyr â’r llythyrau i holl daleithiau’r brenin, yn rhoi’r gorchymyn i ddinistrio, i ladd, i ddifa, ac i ysbeilio’r holl Iddewon, yr ifanc a’r hen, y plant a’r merched,* pawb ar un diwrnod. Roedd hyn i ddigwydd ar y trydydd diwrnod ar ddeg* o’r deuddegfed* mis, hynny yw, mis Adar. 14 Roedd rhaid i gynnwys y ddogfen honno gael ei wneud yn gyfraith ym mhob talaith a’i gyhoeddi i’r bobloedd, er mwyn iddyn nhw fod yn barod am y diwrnod hwnnw. 15 Aeth y negeswyr allan ar frys ar orchymyn y brenin; a chafodd y gyfraith ei chyhoeddi yn y gaer* yn Susan.* A dyma’r brenin a Haman yn eistedd i lawr i yfed, ond roedd pobl dinas Susan wedi drysu’n lân.