Esther
1 Nawr yn nyddiau Ahasferus,* hynny yw, yr Ahasferus a oedd yn teyrnasu dros 127 o daleithiau o India i Ethiopia,* 2 yn y dyddiau hynny pan oedd y Brenin Ahasferus yn eistedd ar ei orsedd frenhinol yn y gaer* yn Susan,* 3 yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad, gwnaeth ef gynnal gwledd ar gyfer ei holl dywysogion a’i weision. Roedd byddin Persia a Media, y dynion pwysig, a thywysogion y taleithiau wedi casglu o’i flaen, 4 a dangosodd iddyn nhw gyfoeth ei deyrnas ogoneddus a mawredd a gogoniant ei ysblander am amser hir, 180 diwrnod. 5 A phan ddaeth y dyddiau hyn i ben, dyma’r brenin yn cynnal gwledd am saith diwrnod ar gyfer yr holl bobl a oedd yn bresennol yn y gaer yn Susan, o’r mwyaf i’r lleiaf, yng nghwrt gardd palas y brenin. 6 Roedd cwrt yr ardd wedi ei addurno â llenni wedi eu gwneud o liain, o gotwm da, ac o ddeunydd glas, wedi eu clymu â rhaffau wedi eu gwneud o ddeunydd o safon dda a rhwymau o wlân porffor, ac roedd ’na gylchoedd arian yn cysylltu’r rhain â cholofnau o farmor. Hefyd, roedd ’na welyau o aur ac arian ar balmant wedi ei wneud o farmor, porffyri, carreg berlaidd,* a marmor du.
7 Roedd gwin yn cael ei weini mewn cwpanau aur ac roedd pob cwpan yn unigryw, ac roedd ’na ddigonedd o win brenhinol, yn ôl faint roedd y brenin yn gallu ei ddarparu. 8 Doedd neb o dan orfodaeth i yfed; dyna oedd y rheol yn ystod yr achlysur hwnnw, oherwydd roedd y brenin wedi trefnu gyda swyddogion ei balas y dylai pawb yfed faint bynnag roedden nhw eisiau.
9 Roedd y Frenhines Fasti hefyd yn cynnal gwledd ar gyfer y merched* yn nhŷ brenhinol* y Brenin Ahasferus.
10 Ar y seithfed diwrnod, pan oedd calon y brenin yn llawen oherwydd y gwin, dywedodd wrth Mehuman, Bistha, Harbona, Bigtha, Abagtha, Sethar, a Carcas, y saith o swyddogion llys a oedd yn weision personol i’r Brenin Ahasferus, 11 i ddod â’r Frenhines Fasti o’i flaen, yn gwisgo’r benwisg frenhinol,* er mwyn dangos ei harddwch i’r bobloedd a’r tywysogion oherwydd ei bod hi’n brydferth iawn. 12 Ond parhaodd y Frenhines Fasti i wrthod dod ar orchymyn y brenin a ddaeth drwy swyddogion y llys. Felly gwylltiodd y brenin yn lân a chollodd ei dymer.
13 Yna siaradodd y brenin â’r dynion doeth a oedd yn gyfarwydd â chynseiliau cyfreithiol y cyfnod (oherwydd roedd y brenin yn wastad yn gofyn am gyngor gan y rhai a oedd yn arbenigo yn y gyfraith ac mewn achosion cyfreithiol, 14 a’i gynghorwyr agosaf oedd Carsena, Sethar, Admatha, Tarsis, Meres, Marsena, a Memuchan, saith o dywysogion Persia a Media a oedd yn cael mynd at y brenin yn rheolaidd ac a oedd â’r safleoedd uchaf yn y deyrnas). 15 Gofynnodd y brenin iddyn nhw: “Yn ôl y gyfraith, beth ddylai ddigwydd i’r Frenhines Fasti, am ei bod hi heb ufuddhau i orchymyn y Brenin Ahasferus drwy swyddogion y llys?”
16 Atebodd Memuchan ym mhresenoldeb y brenin a’r tywysogion: “Mae’r peth drwg mae’r Frenhines Fasti wedi ei wneud yn effeithio nid yn unig ar y brenin, ond hefyd ar yr holl dywysogion a’r holl bobl yn nhaleithiau’r Brenin Ahasferus i gyd. 17 Oherwydd bydd y gwragedd i gyd yn clywed am beth wnaeth y frenhines, a byddan nhw’n dirmygu eu gwŷr ac yn dweud, ‘Gorchmynnodd y Brenin Ahasferus i’r Frenhines Fasti ddod o’i flaen, ond gwrthododd hi ufuddhau iddo.’ 18 Cyn diwedd y dydd, bydd tywysogesau Persia a Media sy’n gwybod am beth wnaeth y frenhines, yn siarad â holl dywysogion y brenin, gan arwain at lawer o ddirmyg a dicter. 19 Os yw’n dda yng ngolwg y brenin, dylai datganiad brenhinol gael ei wneud ganddo, a dylai gael ei ysgrifennu ymysg cyfreithiau Persia a Media, cyfreithiau sydd ddim yn gallu cael eu dileu. Dylai’r datganiad wahardd Fasti rhag dod i mewn o flaen y Brenin Ahasferus byth eto, a dylai’r brenin ddewis dynes* arall, sydd yn well na hi, i fod yn frenhines yn ei lle. 20 A phan fydd datganiad y brenin yn cael ei glywed ar hyd a lled ei deyrnas eang, bydd pob gwraig yn anrhydeddu ei gŵr, o’r mwyaf i’r lleiaf.”
21 Roedd yr awgrymiad hwn yn plesio’r brenin a’r tywysogion, felly dyma’r brenin yn dilyn cyngor Memuchan. 22 Felly anfonodd lythyrau i bob talaith frenhinol, i bob talaith yn ei hysgrifen ei hun ac i bob cenedl yn ei hiaith ei hun, yn dweud y dylai pob gŵr fod yn ben ar ei deulu* ei hun, ac y dylai pawb yn ei gartref siarad ei famiaith ef.