Esther
8 Ar y diwrnod hwnnw, rhoddodd y Brenin Ahasferus dŷ Haman, gelyn yr Iddewon, i’r Frenhines Esther, a daeth Mordecai o flaen y brenin, oherwydd roedd Esther wedi datgelu sut roedd ef yn perthyn iddi. 2 Yna tynnodd y brenin y fodrwy* roedd ef wedi ei chymryd oddi wrth Haman a’i rhoi i Mordecai. A dyma Esther yn penodi Mordecai dros dŷ Haman.
3 Ar ben hynny, siaradodd Esther eto â’r brenin. Syrthiodd wrth ei draed a chrio ac erfyn arno i ddad-wneud y niwed roedd Haman, un o ddisgynyddion Agag, wedi ei achosi, ac i ddad-wneud ei gynllwyn yn erbyn yr Iddewon. 4 Estynnodd y brenin ei wialen* aur tuag at Esther, a dyma Esther yn codi ac yn sefyll o flaen y brenin. 5 Dywedodd hi: “Os yw’n plesio’r brenin, ac os ydw i wedi ennill ei ffafr, ac os yw’n dda yng ngolwg y brenin ac os ydw i wedi ei blesio, gad i orchymyn gael ei ysgrifennu i ganslo dogfennau’r cynllwyniwr Haman fab Hammedatha yr Agagiad, y dogfennau roedd ef wedi eu hysgrifennu i ddinistrio’r holl Iddewon yn nhaleithiau’r brenin. 6 Oherwydd sut galla i oddef gweld y dinistr a fydd yn dod ar fy mhobl, a sut galla i oddef gweld fy mherthnasau’n cael eu dinistrio?”
7 Felly dywedodd y Brenin Ahasferus wrth y Frenhines Esther ac wrth Mordecai yr Iddew: “Edrychwch! Rydw i wedi rhoi tŷ Haman i Esther, ac wedi ei hongian ef ar stanc oherwydd ei gynllwyn i ymosod ar yr Iddewon. 8 Nawr cewch chi ysgrifennu yn enw’r brenin beth bynnag rydych chi eisiau ar ran yr Iddewon a’i selio â modrwy’r brenin, oherwydd nid oes modd canslo deddf sydd wedi ei hysgrifennu yn enw’r brenin a’i selio â modrwy’r brenin.”
9 Felly cafodd ysgrifenyddion y brenin eu casglu at ei gilydd yn y trydydd mis, hynny yw, mis Sifan, ar y trydydd diwrnod ar hugain,* ac ysgrifennon nhw bopeth roedd Mordecai wedi ei orchymyn i’r Iddewon, i’r rhaglawiaid, i’r llywodraethwyr, ac i dywysogion y taleithiau o India i Ethiopia, 127 o daleithiau. Ysgrifennon nhw at bob talaith yn ei hysgrifen ei hun, at bob cenedl yn ei hiaith ei hun, ac at yr Iddewon yn eu hysgrifen a’u hiaith eu hunain hefyd.
10 Ysgrifennodd yn enw’r Brenin Ahasferus a’i selio â modrwy’r brenin, a defnyddiodd negeswyr ar gefn ceffylau i anfon y dogfennau; roedden nhw’n teithio ar geffylau post cyflym a oedd wedi cael eu bridio ar gyfer gwasanaeth brenhinol. 11 Yn y dogfennau hyn, roedd y brenin yn caniatáu i’r Iddewon yn yr holl ddinasoedd gwahanol gasglu at ei gilydd er mwyn amddiffyn eu bywydau. Roedd hefyd yn eu caniatáu i ddinistrio, i ladd, ac i ddifa unrhyw fyddin o unrhyw genedl neu dalaith a fyddai’n ymosod arnyn nhw, gan gynnwys merched* a phlant, ac i gymryd eu heiddo. 12 Roedd hyn i ddigwydd ar yr un diwrnod yn holl daleithiau’r Brenin Ahasferus, ar y trydydd diwrnod ar ddeg* o’r deuddegfed* mis, hynny yw, mis Adar. 13 Roedd cynnwys y ddogfen i gael ei wneud yn gyfraith ym mhob talaith. Roedd y gyfraith i gael ei chyhoeddi i’r holl bobloedd, fel byddai’r Iddewon yn barod ar y diwrnod hwnnw i ddial ar eu gelynion. 14 Gadawodd y negeswyr ar unwaith ac ar frys yn ôl gorchymyn y brenin. Roedden nhw’n teithio ar y ceffylau post a oedd yn cael eu defnyddio yn y gwasanaeth brenhinol. Cafodd y gyfraith hefyd ei chyhoeddi yn y gaer* yn Susan.*
15 Nawr dyma Mordecai yn gadael presenoldeb y brenin yn gwisgo dillad brenhinol glas a gwyn, coron aur ogoneddus, a chlogyn wedi ei wneud o ddefnydd da, o wlân porffor. Ac roedd dinas Susan yn gweiddi’n llawen. 16 Teimlodd yr Iddewon ryddhad, llawenydd, a gorfoledd, a chawson nhw eu hanrhydeddu. 17 Ac yn yr holl daleithiau a’r dinasoedd i gyd, lle bynnag roedd gorchymyn a chyfraith y brenin yn cyrraedd, roedd yr Iddewon yn llawenhau ac yn gorfoleddu, yn cynnal gwleddoedd ac yn dathlu. Daeth llawer o bobl y wlad yn Iddewon, oherwydd roedd ofn yr Iddewon wedi dod arnyn nhw.