LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Cronicl 15
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Cronicl

      • Y Lefiaid yn cario’r Arch i Jerwsalem (1-29)

        • Michal yn dirmygu Dafydd (29)

1 Cronicl 15:26

Troednodiadau

  • *

    Neu “maharen.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Cronicl 15:1-29

Cyntaf Cronicl

15 A pharhaodd i adeiladu tai iddo’i hun yn Ninas Dafydd, a gwnaeth ef baratoi rhywle ar gyfer Arch y gwir Dduw, a chododd babell ar ei chyfer. 2 Dyna pryd y dywedodd Dafydd: “Ddylai neb gario Arch y gwir Dduw heblaw am y Lefiaid, oherwydd mae Jehofa wedi eu dewis nhw i gario Arch Jehofa ac i weini arno am byth.” 3 Yna casglodd Dafydd Israel gyfan at ei gilydd yn Jerwsalem er mwyn dod ag Arch Jehofa i’r lle roedd ef wedi ei baratoi ar ei chyfer.

4 Casglodd Dafydd ddisgynyddion Aaron a’r Lefiaid: 5 o blith y Cohathiaid, Uriel y pennaeth a 120 o’i frodyr; 6 o blith y Merariaid, Asaia y pennaeth a 220 o’i frodyr; 7 o blith y Gersomiaid, Joel y pennaeth a 130 o’i frodyr; 8 o blith disgynyddion Elisaffan, Semaia y pennaeth a 200 o’i frodyr; 9 o blith disgynyddion Hebron, Eliel y pennaeth ac 80 o’i frodyr; 10 o blith disgynyddion Ussiel, Aminadab y pennaeth a 112 o’i frodyr. 11 Ar ben hynny, galwodd Dafydd ar yr offeiriaid Sadoc ac Abiathar, ac ar y Lefiaid Uriel, Asaia, Joel, Semaia, Eliel, ac Aminadab, 12 a dywedodd wrthyn nhw: “Chi yw penaethiaid teuluoedd y Lefiaid. Sancteiddiwch eich hunain, chi a’ch brodyr, a dewch ag Arch Jehofa, Duw Israel, i fyny i’r lle rydw i wedi ei baratoi ar ei chyfer. 13 Nid y chi a wnaeth ei chario y tro cyntaf, a ffrwydrodd dicter Jehofa ein Duw yn ein herbyn, am ein bod ni heb ddilyn ei arweiniad ynglŷn â sut i’w symud.” 14 Felly dyma’r offeiriaid a’r Lefiaid yn eu sancteiddio eu hunain er mwyn dod ag Arch Jehofa, Duw Israel, i fyny.

15 Yna cariodd y Lefiaid Arch y gwir Dduw ar eu hysgwyddau gan ddefnyddio’r polion, yn union fel y gorchmynnodd Moses yn ôl gair Jehofa. 16 Yna dywedodd Dafydd wrth benaethiaid y Lefiaid am benodi eu brodyr y cantorion i ganu’n llawen i gyfeiliant offerynnau cerdd: offerynnau llinynnol, telynau, a symbalau.

17 Felly dyma’r Lefiaid yn penodi Heman fab Joel, ac o blith ei frodyr, Asaff fab Berecheia, ac o blith eu brodyr y Merariaid, Ethan fab Cusaia. 18 Gwnaethon nhw hefyd benodi ail grŵp o blith eu brodyr, Sechareia, Ben, Jaasiel, Semiramoth, Jehiel, Unni, Eliab, Benaia, Maaseia, Matitheia, Eliffele, a Micneia, Obed-edom, a Jeiel y porthorion. 19 Y cantorion Heman, Asaff, ac Ethan oedd i chwarae’r symbalau copr; 20 ac roedd Sechareia, Asiel, Semiramoth, Jehiel, Unni, Eliab, Maaseia, a Benaia yn chwarae offerynnau llinynnol wedi eu tiwnio i Alamoth; 21 ac roedd Matitheia, Eliffele, Micneia, Obed-edom, Jeiel, ac Asaseia yn arwain gyda thelynau wedi eu tiwnio i Seminith. 22 Gwnaeth Cenaneia, pennaeth y Lefiaid, arolygu cludiant yr Arch, oherwydd roedd yn arbenigwr, 23 a Berecheia ac Elcana oedd yn gwarchod yr Arch. 24 Gwnaeth yr offeiriaid Sebaneia, Josaffat, Nethanel, Amasai, Sechareia, Benaia, ac Elieser seinio’r trwmpedi yn uchel o flaen Arch y gwir Dduw, ac roedd Obed-edom a Jeheia hefyd yn gwarchod yr Arch.

25 Yna aeth Dafydd a henuriaid Israel a phenaethiaid y miloedd i ddod ag arch cyfamod Jehofa i fyny o dŷ Obed-edom gan lawenhau. 26 Am fod y gwir Dduw wedi helpu’r Lefiaid a oedd yn cario arch cyfamod Jehofa, gwnaethon nhw aberthu saith tarw ifanc a saith hwrdd.* 27 Roedd Dafydd yn gwisgo côt ddilewys wedi ei gwneud o liain main, fel roedd yr holl Lefiaid a oedd yn cario’r Arch, yn ogystal â’r cantorion, a Cenaneia, yr un a oedd yn arolygu’r cantorion a chludiant yr Arch; roedd Dafydd hefyd yn gwisgo effod liain. 28 Roedd yr Israeliaid i gyd yn dod ag arch cyfamod Jehofa i fyny gan weiddi’n llawen i sŵn y corn, gyda thrwmpedi a symbalau, a gan chwarae offerynnau llinynnol a thelynau yn uchel.

29 Ond pan ddaeth arch cyfamod Jehofa i Ddinas Dafydd, roedd merch Saul, Michal, yn edrych allan drwy’r ffenest, a gwelodd hi’r Brenin Dafydd yn sgipio ac yn dathlu; a dechreuodd hi ei ddirmygu yn ei chalon.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu