Actau’r Apostolion
13 Nawr yn Antiochia roedd ’na broffwydi ac athrawon yn y gynulleidfa leol: Barnabas, Symeon a oedd yn cael ei alw’n Niger, Lwcius o Cyrene, Manaen a gafodd ei addysg gyda Herod rheolwr ardal Galilea, a Saul. 2 Tra oedden nhw’n gwasanaethu Jehofa ac yn ymprydio, dywedodd yr ysbryd glân: “Neilltuwch Barnabas a Saul imi; rydw i wedi eu galw nhw i wneud gwaith penodol.” 3 Wedyn ar ôl ymprydio a gweddïo, dyma nhw’n rhoi eu dwylo arnyn nhw a’u hanfon nhw i ffwrdd.
4 Felly aeth y dynion hyn i lawr i Selewcia, wedi eu hanfon allan gan yr ysbryd glân, a gwnaethon nhw hwylio oddi yno i Gyprus. 5 Pan gyrhaeddon nhw Salamis, dechreuon nhw gyhoeddi gair Duw yn synagogau’r Iddewon. Hefyd roedd ganddyn nhw Ioan yn gynorthwywr.*
6 Pan oedden nhw wedi mynd drwy’r ynys gyfan hyd at Paffos, dyma nhw’n cyfarfod dyn Iddewig o’r enw Bar-Iesu, a oedd yn swynwr ac yn gau broffwyd. 7 Roedd ef gyda’r proconswl* Sergius Pawlus, dyn deallus. Galwodd ef Barnabas a Saul ato, ac roedd yn awyddus i glywed gair Duw. 8 Ond dyma Elymas y swyngyfareddwr (dyna sut mae ei enw yn cael ei gyfieithu) yn dechrau eu gwrthwynebu nhw, ac yn ceisio troi’r proconswl oddi wrth y ffydd. 9 Yna dyma Saul, a oedd hefyd yn cael ei alw’n Paul, yn cael ei lenwi â’r ysbryd glân ac yn syllu arno 10 gan ddweud: “O ddyn yn llawn pob math o dwyll a phob math o ddrygioni, ti fab y Diafol, ti elyn i bopeth sy’n gyfiawn, pryd wyt ti am stopio llygru ffyrdd cywir Jehofa? 11 Edrycha! Mae llaw Jehofa arnat ti, a byddi di’n ddall, heb weld golau’r haul am gyfnod.” Ar unwaith disgynnodd niwl trwchus a thywyllwch arno, ac aeth o gwmpas yn trio dod o hyd i rywun i’w arwain wrth ei law. 12 Wrth i’r proconswl weld beth oedd wedi digwydd, daeth yn grediniwr, oherwydd ei fod wedi cael ei syfrdanu gan ddysgeidiaeth Jehofa.
13 Nawr gwnaeth Paul a’r dynion eraill hwylio o Paffos a chyrraedd Perga yn Pamffylia. Ond dyma Ioan yn eu gadael nhw a mynd yn ôl i Jerwsalem. 14 Fodd bynnag, aethon nhw yn eu blaenau o Perga a chyrraedd Antiochia yn Pisidia. Ac aethon nhw i mewn i’r synagog ar ddydd y Saboth, ac eistedd i lawr. 15 Ar ôl i’r Gyfraith a’r Proffwydi gael eu darllen yn gyhoeddus, anfonodd arweinwyr y synagog neges atyn nhw yn dweud: “Ddynion, frodyr, os oes gynnoch chi unrhyw air o anogaeth i’r bobl, siaradwch.” 16 Felly cododd Paul ar ei draed, a gan wneud arwydd â’i law am dawelwch, dywedodd:
“Ddynion, Israeliaid a chi bobl eraill sy’n ofni Duw, gwrandewch. 17 Gwnaeth Duw pobl Israel ddewis ein cyndadau, a gwnaeth ef ddyrchafu’r bobl tra oedden nhw’n byw fel estroniaid yng ngwlad yr Aifft a dod â nhw allan ohoni â’i fraich nerthol. 18 Ac am gyfnod o tua 40 mlynedd, roedd yn eu goddef nhw yn yr anialwch. 19 Ar ôl iddo ddinistrio saith cenedl yng ngwlad Canaan, rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth i’n cyndadau. 20 Digwyddodd hyn i gyd dros gyfnod o tua 450 o flynyddoedd.
“Ar ôl hynny, rhoddodd ef farnwyr iddyn nhw hyd at adeg y proffwyd Samuel. 21 Ond wedyn dyma nhw’n mynnu cael brenin, a rhoddodd Duw Saul iddyn nhw, mab Cis, dyn o lwyth Benjamin, am 40 mlynedd. 22 Ar ôl iddo ddiswyddo Saul, dewisodd ef Dafydd yn frenin arnyn nhw, yr un y gwnaeth ef dystiolaethu amdano a dweud: ‘Rydw i wedi gweld bod Dafydd fab Jesse yn ddyn sy’n plesio fy nghalon; bydd ef yn gwneud yr holl bethau rydw i eisiau.’ 23 Yn unol â’i addewid, mae Duw wedi dod ag achubwr o ddisgynyddion* y dyn yma i Israel, sef Iesu. 24 Cyn i’r un hwnnw gyrraedd, roedd Ioan wedi pregethu’n gyhoeddus am fedydd fel symbol o edifeirwch i holl bobl Israel. 25 Ond wrth i Ioan orffen ei weinidogaeth, byddai’n dweud: ‘Pwy rydych chi’n meddwl ydw i? Nid ef* ydw i. Ond edrychwch! mae Un yn dod ar fy ôl i a dydw i ddim yn deilwng i ddatod y sandalau am ei draed.’
26 “Ddynion, frodyr, chi ddisgynyddion teulu Abraham a’r rhai eraill yn eich plith sy’n ofni Duw, mae’r neges am yr achubiaeth hon wedi cael ei hanfon aton ni. 27 Oherwydd ni wnaeth trigolion Jerwsalem a’u rheolwyr gydnabod yr un hwn, ond pan wnaethon nhw ei farnu, cyflawnon nhw’r pethau y siaradodd y Proffwydi amdanyn nhw, sy’n cael eu darllen yn uchel bob saboth. 28 Er nad oedden nhw wedi ffeindio unrhyw reswm dros ei ladd, dyma nhw’n mynnu bod Peilat yn ei ddienyddio. 29 Ac ar ôl iddyn nhw gyflawni’r holl bethau a gafodd eu hysgrifennu amdano, gwnaethon nhw ei gymryd i lawr oddi ar y stanc* a’i osod mewn beddrod.* 30 Ond dyma Duw’n ei godi o’r meirw, 31 ac am lawer o ddyddiau fe ddaeth yn weladwy i’r rhai a oedd wedi mynd gydag ef o Galilea i fyny i Jerwsalem. Bellach, nhw ydy ei dystion i’r bobl.
32 “Felly rydyn ni’n cyhoeddi i chi y newyddion da am yr addewid a gafodd ei wneud gan Dduw i’n cyndadau. 33 Mae Duw wedi cyflawni’r addewid hwnnw yn llwyr i ni, eu plant nhw, drwy atgyfodi Iesu; yn union fel y mae’n ysgrifenedig yn yr ail salm: ‘Ti yw fy mab; heddiw rydw i wedi dod yn dad iti.’ 34 Ac mae Ef wedi sôn am y ffaith ei fod wedi atgyfodi Iesu o’r meirw, byth i fynd yn ôl i lygredd, drwy ddweud: ‘Bydda i’n dangos i chi’r cariad ffyddlon y gwnes i ei addo i Dafydd, sy’n ddibynadwy.’* 35 Ac mae’n dweud mewn salm arall: ‘Fyddi di ddim yn gadael i’r un sy’n ffyddlon iti weld llygredd.’ 36 Ar yr un llaw, gwnaeth Dafydd wasanaethu Duw yn ei genhedlaeth ei hun, syrthiodd i gysgu mewn marwolaeth, cafodd ei gladdu gyda’i gyndadau, ac fe welodd ef lygredd. 37 Ar y llaw arall, ni wnaeth yr un a gafodd ei godi gan Dduw weld llygredd.
38 “Felly rydw i’n cyhoeddi i chi, frodyr, mai trwy’r dyn hwn rydych chi’n gallu cael maddeuant am eich pechodau. 39 Doedd Cyfraith Moses ddim yn gallu eich gwneud chi’n gyfiawn, ond oherwydd marwolaeth y dyn hwn, bydd Duw yn galw pawb sy’n credu yn gyfiawn. 40 Felly, gwyliwch nad ydy’r hyn sy’n cael ei ddweud yn y Proffwydi yn digwydd i chi: 41 ‘Edrychwch, chi ddirmygwyr, ac fe fyddwch chi’n rhyfeddu ac fe fyddwch chi’n marw, oherwydd rydw i’n gwneud gwaith yn eich dyddiau chi, gwaith na fyddwch chi’n credu ynddo hyd yn oed petai rhywun yn adrodd pob manylyn wrthoch chi.’”
42 Nawr pan oedden nhw’n mynd allan, roedd y bobl yn erfyn arnyn nhw i siarad am y pethau hyn y saboth wedyn. 43 Felly ar ôl i’r cyfarfod yn y synagog orffen, gwnaeth llawer o’r Iddewon a’r proselytiaid a oedd yn addoli Duw ddilyn Paul a Barnabas, a wnaeth siarad â nhw a’u hannog i aros yng ngharedigrwydd rhyfeddol Duw.
44 Y saboth dilynol, daeth bron i’r holl ddinas ynghyd i glywed gair Jehofa. 45 Pan welodd yr Iddewon y tyrfaoedd, roedden nhw wedi eu llenwi â chenfigen a dechreuon nhw gablu drwy wrth-ddweud y pethau roedd Paul yn eu dweud. 46 Yna siaradodd Paul a Barnabas yn ddi-ofn â nhw: “Roedd yn rhaid i air Duw gael ei gyhoeddi i chi yn gyntaf. Gan eich bod chi’n ei wrthod ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol, edrychwch! rydyn ni’n troi at y cenhedloedd. 47 Oherwydd mae Jehofa wedi ein gorchymyn ni drwy ddefnyddio’r geiriau hyn: ‘Rydw i wedi dy benodi di yn oleuni i’r cenhedloedd, iti fod yn achubiaeth hyd eithaf y ddaear.’”
48 Pan wnaeth pobl y cenhedloedd glywed hyn, dechreuon nhw lawenhau a gogoneddu gair Jehofa, ac fe wnaeth yr holl rai a oedd â’r agwedd gywir ar gyfer cael bywyd tragwyddol ddod yn gredinwyr. 49 Ar ben hynny, roedd gair Jehofa yn cael ei ledaenu drwy’r holl wlad. 50 Ond gwnaeth yr Iddewon gynhyrfu prif ddynion y ddinas a’r merched* blaenllaw a oedd yn ofni Duw, ac fe wnaethon nhw ysgogi erledigaeth yn erbyn Paul a Barnabas a’u taflu nhw y tu allan i’w terfynau. 51 Felly gwnaethon nhw ysgwyd y llwch oddi ar eu traed yn eu herbyn a mynd i Iconium. 52 Ac roedd y disgyblion yn parhau i gael eu llenwi â llawenydd a’r ysbryd glân.